Moel Tryfan (mynydd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mynydd yn ucheldir plwyf Llanwnda yw '''Moel Tryfan'''. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:40, 25 Chwefror 2018

Mynydd yn ucheldir plwyf Llanwnda yw Moel Tryfan. Mae chwarel o'r un enw gerllaw i'r dwyrain ac fe roddodd y mynydd yr enw i bentref neu dreflan Moel Tryfan ar ei lethrau gorllewinol. Ei uchder yw 1139 troedfedd uwchben y môr.

Mae'r mynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am resymau daearegol yn bennaf, oherwydd i waddodion yn cynnwys cregin cael eu eu darganfod yno ym 1831, gan brofi y bu unwaith dan y môr. Cododd hyn ddadl rhwng y rhai a welodd yn y dystiolaeth gadarnhâd o lifogydd Noa, tra ystyriai rhai mai prawf o oed mawr y ddaear a symundiadau daearegol oedd yma. Ymwelodd Chrales Darwin (a oedd yn ddaearegwr o ran ei alwedigaeth wreiddiol) ym 1842 i astudio'r darganfyddiadau ar y safle.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau