Helfa Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ni wyddys fawr am '''Helfa Penygroes''' ond cynhaliwyd cyfarfod fis Ionawr 1828 ac ymhen y flwyddyn eto yn Ionawr 1829. Ar ôl dilyn yr helgwn, aeth pawb i [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|dafarn y Stag]] am ginio. Gelwid y meistr yn "Comptroller" (sef Rheolwr neu Feistr) ac roedd ganddo ddirprwy. Ym 1828, Griffith Jones oedd y meistr, a Robert Lloyd oedd ei ddirprwy. Y flwyddyn ganlynol, Robert Lloyd oedd y meistr, gyda dyn o'r enw Samuel Wagstaff yn ddirprwy iddo. Dichon mai am flwyddyn y byddai'r meistr yn dal y swydd, cyn cael ei ddilyn gan ei ddirprwy, gan fod hysbyseb yn | Ni wyddys fawr am '''Helfa Penygroes''' ond cynhaliwyd cyfarfod fis Ionawr 1828 ac ymhen y flwyddyn eto yn Ionawr 1829. Ar ôl dilyn yr helgwn, aeth pawb i [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|dafarn y Stag]] am ginio. Gelwid y meistr yn "Comptroller" (sef Rheolwr neu Feistr) ac roedd ganddo ddirprwy. Ym 1828, Griffith Jones oedd y meistr, a Robert Lloyd oedd ei ddirprwy. Y flwyddyn ganlynol, Robert Lloyd oedd y meistr, gyda dyn o'r enw Samuel Wagstaff yn ddirprwy iddo. Dichon mai am flwyddyn y byddai'r meistr yn dal y swydd, cyn cael ei ddilyn gan ei ddirprwy, gan fod hysbyseb yn cyhoeddi helfa fis Hydref y flwyddyn honno, gan enwi Samuel Wagstaff fel y "comptroller" a John Jones yn ddirprwy iddo. Cychwynnodd yr helgwn am 10 a chynhaliwyd cinio i'r helwyr am bedwar yn nhŷ Mr Price Griffith, sef Tafarn y Stag.<ref>''North Wales Chronicle'', 10.1.1828, t.2; 1.1.1829, t.2; 15.10.1829, t.2</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:13, 2 Chwefror 2026
Ni wyddys fawr am Helfa Penygroes ond cynhaliwyd cyfarfod fis Ionawr 1828 ac ymhen y flwyddyn eto yn Ionawr 1829. Ar ôl dilyn yr helgwn, aeth pawb i dafarn y Stag am ginio. Gelwid y meistr yn "Comptroller" (sef Rheolwr neu Feistr) ac roedd ganddo ddirprwy. Ym 1828, Griffith Jones oedd y meistr, a Robert Lloyd oedd ei ddirprwy. Y flwyddyn ganlynol, Robert Lloyd oedd y meistr, gyda dyn o'r enw Samuel Wagstaff yn ddirprwy iddo. Dichon mai am flwyddyn y byddai'r meistr yn dal y swydd, cyn cael ei ddilyn gan ei ddirprwy, gan fod hysbyseb yn cyhoeddi helfa fis Hydref y flwyddyn honno, gan enwi Samuel Wagstaff fel y "comptroller" a John Jones yn ddirprwy iddo. Cychwynnodd yr helgwn am 10 a chynhaliwyd cinio i'r helwyr am bedwar yn nhŷ Mr Price Griffith, sef Tafarn y Stag.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Chronicle, 10.1.1828, t.2; 1.1.1829, t.2; 15.10.1829, t.2