David Pierce Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Yn wleidyddol, roedd yn rhyddfrydwr, ac yn gadeirydd Cymdeithas Rhydfrydwyr Gogledd Sir Gaernarfon, 1885-6. Ym 1906, pan benodwyd Bryn Roberts, A.S. yn farnwr, fe ystyriwyd D.P. Williams fel ymgeisydd posibl i'w ddilyn yn yr is-etholiad.<ref>''North Wales Express'', 11.3.1910, t.5</ref> | Yn wleidyddol, roedd yn rhyddfrydwr, ac yn gadeirydd Cymdeithas Rhydfrydwyr Gogledd Sir Gaernarfon, 1885-6. Ym 1906, pan benodwyd Bryn Roberts, A.S. yn farnwr, fe ystyriwyd D.P. Williams fel ymgeisydd posibl i'w ddilyn yn yr is-etholiad.<ref>''North Wales Express'', 11.3.1910, t.5</ref> | ||
Symudodd y teulu i Gorffwysfa, Caernarfon, o Lanberis rywbryd tua diwedd y ganrif ond fe arhosodd fel henadur y Cyngor Sir; ac ym 1908 symudodd gyda'i wraig i Fron Dinas, er iddi hi farw y flwyddyn ganlynol. Roedd hi'n ferch i'r Hybarch Robert Roberts, Ysgoldy, ac yn chwaer i Mr R.B. Ellis, Y.H. a oedd yn byw ar draws y cae o Fron Dinas ym Mronant. Roedd y ddau yn weithgar iawn yn lleol, yn cefnogi'r ysgol, ac yn mynychu [[Capel Glan-rhyd (MC) | Symudodd y teulu i Gorffwysfa, Caernarfon, o Lanberis rywbryd tua diwedd y ganrif ond fe arhosodd fel henadur y Cyngor Sir; ac ym 1908 symudodd gyda'i wraig i Fron Dinas, er iddi hi farw y flwyddyn ganlynol. Roedd hi'n ferch i'r Hybarch Robert Roberts, Ysgoldy, ac yn chwaer i Mr R.B. Ellis, Y.H. a oedd yn byw ar draws y cae o Fron Dinas ym Mronant. Roedd y ddau yn weithgar iawn yn lleol, yn cefnogi'r ysgol, ac yn mynychu [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]]. Bu farw David Pierce Williams fis Chwefror 1915, a'i gladdu ym Mynwent Macpelah, Cwm-y-glo. Gadawodd un ferch, Mrs. John Rowlands, Lerpwl. Roedd ei ystad werth dros £27,000, swm sylweddol iawn ar y pryd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 26.10.1909, t.5; ''Cambrian News'', 12.2.1915, t.7</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
Fersiwn yn ôl 14:55, 5 Rhagfyr 2025
Roedd yr Henadur David Pierce Williams (1843-1915), gŵr o Waunfawr yn wreiddiol, yn fasnachwr llechi, cadeirydd Pwyllgor Addysg y sir ac yn ynad heddwch, a symudodd gyda'i wraig i fyw yn Fron Dinas, Bontnewydd ym 1908. Am flynyddoedd bu'n byw yn Nolafon, Llanberis, ac yn y fan honno fe'i etholwyd fel aelod cyntaf Cyngor Sir Gaernarfon dros y pentref. Wedi sefydlu'r Cyngor, fe'i etholwyd yn gadeirydd cyntaf y Cyngor gan y cynghorwyr. Bu hefyd yn gadeirydd ar Bwyllgor Addysg y Sir. Dichon oherwydd ei diddordeb mewn addysg, fe'i apwyntiwyd i Lys Coleg Prifysgol Bangor a hefyd yn un o lywodraethwyr Coleg Hyfforddi Athrawon Gogledd Cymru.[1] Fe'i godwyd yn ynad heddwch ym 1886, ac ym 1910 cafodd ei benodi i'r swydd o Uchel Siryf y Sir am 1910-11 - hynny tra oedd yn byw yn Fron Dinas.[2]
Roedd wedi llwyddo yn y busnes llechi, er iddo ddioddef colled fawr pan suddwyd y llong yr oedd o'n brif berchennog arno, sef y Glan Padarn, llong o Gaernarfon a aeth i ddifancoll wedi iddi hwylio o Rangoon ym 1889.[3]
Yn wleidyddol, roedd yn rhyddfrydwr, ac yn gadeirydd Cymdeithas Rhydfrydwyr Gogledd Sir Gaernarfon, 1885-6. Ym 1906, pan benodwyd Bryn Roberts, A.S. yn farnwr, fe ystyriwyd D.P. Williams fel ymgeisydd posibl i'w ddilyn yn yr is-etholiad.[4]
Symudodd y teulu i Gorffwysfa, Caernarfon, o Lanberis rywbryd tua diwedd y ganrif ond fe arhosodd fel henadur y Cyngor Sir; ac ym 1908 symudodd gyda'i wraig i Fron Dinas, er iddi hi farw y flwyddyn ganlynol. Roedd hi'n ferch i'r Hybarch Robert Roberts, Ysgoldy, ac yn chwaer i Mr R.B. Ellis, Y.H. a oedd yn byw ar draws y cae o Fron Dinas ym Mronant. Roedd y ddau yn weithgar iawn yn lleol, yn cefnogi'r ysgol, ac yn mynychu Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda. Bu farw David Pierce Williams fis Chwefror 1915, a'i gladdu ym Mynwent Macpelah, Cwm-y-glo. Gadawodd un ferch, Mrs. John Rowlands, Lerpwl. Roedd ei ystad werth dros £27,000, swm sylweddol iawn ar y pryd.[5]