Tafarn y Boar's Head: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Tafarn ym mhentref Pontlyfni ger [[Pont Lyfni|y bont dros]] [[Afon Llyfni]] oedd '''Tafarn y Boar's Head''' ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau bresennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â [[Capel Seilo (B), Pontlyfni|chapel Bedyddwyr y pentref]].
Tafarn ym mhentref [[Pontlyfni]] ger [[Pont Lyfni|y bont dros]] [[Afon Llyfni]] oedd '''Tafarn y Boar's Head''' ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau bresennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â [[Capel Seilo (B), Pontlyfni|chapel Bedyddwyr y pentref]].


Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 ceir sôn am dafarn o'r enw'r "Pig's Head, Clynnog", gyda dyn o'r enw Robert Williams yn dafarnwr - a dichon mai cyfeirio at y Boar's Head oedd yr adroddiad, gan nad yw'r enw hwnnw i'w weld yno.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Fe nodir enw cywir y dafarn ar olygiad cyntaf y map Ordnans, 1888. Cyn hynny, mae rhifyn 1880 o Gyfarwyddiadur Slater yn nodi Catehrine Williams fel y dafarnwraig, ac yn galw'r dafarn yn "Boar's Head".<ref>Cyfarwyddiadur masnachol Slater, 1880</ref>
Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 ceir sôn am dafarn o'r enw'r "Pig's Head, Clynnog", gyda dyn o'r enw Robert Williams yn dafarnwr - a dichon mai cyfeirio at y Boar's Head oedd yr adroddiad, gan nad yw'r enw hwnnw i'w weld yno.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Fe nodir enw cywir y dafarn ar olygiad cyntaf y map Ordnans, 1888. Cyn hynny, mae rhifyn 1880 o Gyfarwyddiadur Slater yn nodi Catherine Williams fel y dafarnwraig, ac yn galw'r dafarn yn "Boar's Head".<ref>Cyfarwyddiadur masnachol Slater, 1880</ref>


Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded.<ref>''Llangollen Advertiser'', 10.3.1916, t.2</ref> Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei ddymchwel.
Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded.<ref>''Llangollen Advertiser'', 10.3.1916, t.2</ref> Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei ddymchwel.

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:50, 3 Rhagfyr 2025

Tafarn ym mhentref Pontlyfni ger y bont dros Afon Llyfni oedd Tafarn y Boar's Head ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau bresennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â chapel Bedyddwyr y pentref.

Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 ceir sôn am dafarn o'r enw'r "Pig's Head, Clynnog", gyda dyn o'r enw Robert Williams yn dafarnwr - a dichon mai cyfeirio at y Boar's Head oedd yr adroddiad, gan nad yw'r enw hwnnw i'w weld yno.[1] Fe nodir enw cywir y dafarn ar olygiad cyntaf y map Ordnans, 1888. Cyn hynny, mae rhifyn 1880 o Gyfarwyddiadur Slater yn nodi Catherine Williams fel y dafarnwraig, ac yn galw'r dafarn yn "Boar's Head".[2]

Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded.[3] Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei ddymchwel.

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  2. Cyfarwyddiadur masnachol Slater, 1880
  3. Llangollen Advertiser, 10.3.1916, t.2