Tafarn y Machine: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Tafarn y Machine''' yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref [[Tal-y-sarn]], a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Saes o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851</ref> Yn Awst 1860, trosglwyddwyd y drwydded i ŵr o'r enw Owen Jones;<ref>''North Wales Chronicle'', 11.8.1860, t.6</ref> ond ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd oedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref>
Roedd '''Tafarn y Machine''' yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref [[Tal-y-sarn]], a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Sais o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851</ref> Yn Awst 1860, trosglwyddwyd y drwydded i ŵr o'r enw Owen Jones;<ref>''North Wales Chronicle'', 11.8.1860, t.6</ref> ond ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd roedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn, a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref>


Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Roedd John Roberts a'i deulu'n dal yno ym 1871, ynghyd â'r forwyn, a'r enw ar yr eiddo oedd "Machine Tavern" er mai chwarelwr oedd disgrifiad galwedigaeth John Roberts o hyd, heb son am waith tafarnwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871</ref> Gellir datrys hyn gan fod cyfeiriad ato ym 1873 fel cyn-dafarnwr a chwarelwr o Dafarn y Machine, wedyn yn groser a chwarelwr o Rhes Britannia, Tal-y-sarn, ond erbyn Mai 1873, roedd yn chwarelwr yn unig.<ref>''North Wales Chronicle'', 24.5.1873, t.4</ref>
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Roedd John Roberts a'i deulu'n dal yno ym 1871, ynghyd â'r forwyn, a'r enw ar yr eiddo oedd "Machine Tavern", er mai chwarelwr oedd disgrifiad galwedigaeth John Roberts o hyd, heb son am waith tafarnwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871</ref> Gellir datrys hyn gan fod cyfeiriad ato ym 1873 fel cyn-dafarnwr a chwarelwr o Dafarn y Machine, wedyn yn groser a chwarelwr o Rhes Britannia, Tal-y-sarn, ond erbyn Mai 1873, roedd yn chwarelwr yn unig.<ref>''North Wales Chronicle'', 24.5.1873, t.4</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:55, 5 Tachwedd 2025

Roedd Tafarn y Machine yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn, a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Sais o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.[1] Yn Awst 1860, trosglwyddwyd y drwydded i ŵr o'r enw Owen Jones;[2] ond ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd roedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn, a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.[3]

Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.[4] Roedd John Roberts a'i deulu'n dal yno ym 1871, ynghyd â'r forwyn, a'r enw ar yr eiddo oedd "Machine Tavern", er mai chwarelwr oedd disgrifiad galwedigaeth John Roberts o hyd, heb son am waith tafarnwr.[5] Gellir datrys hyn gan fod cyfeiriad ato ym 1873 fel cyn-dafarnwr a chwarelwr o Dafarn y Machine, wedyn yn groser a chwarelwr o Rhes Britannia, Tal-y-sarn, ond erbyn Mai 1873, roedd yn chwarelwr yn unig.[6]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851
  2. North Wales Chronicle, 11.8.1860, t.6
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  5. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871
  6. North Wales Chronicle, 24.5.1873, t.4