Tafarn yr Engineer's Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] | Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861. Fodd bynnag, ni nodwyd fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress". Roedd y teulu yno ddeng mlynedd ynghynt ond nid oes sôn am y dafarn na'i henw bryd hynny nac unrhyw gysylltiad gyda gwerthu diod.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851-61</ref> Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865, fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Dichon na fu oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]], er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.<ref>''Y Tyst Cymreig'', 25.6.1869, t.3</ref> Erbyn 1871, roedd Catherine Hughes wedi troi ei llaw at gadw tŷ ar gyfer lletywyr yn yr un adeilad, gyda naw o bobl, yn ferched ac yn ddynion, yn Gymry, yn Wyddelod ac yn Saeson, yn aros yno. Nid oes sôn am werthu diod nac am enw "Engineer's Arms", a rhaid cymryd felly bod y dafarn ei hun wedi cau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:49, 5 Tachwedd 2025
Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861. Fodd bynnag, ni nodwyd fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress". Roedd y teulu yno ddeng mlynedd ynghynt ond nid oes sôn am y dafarn na'i henw bryd hynny nac unrhyw gysylltiad gyda gwerthu diod.[1] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865, fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[2] Dichon na fu oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[3] Erbyn 1871, roedd Catherine Hughes wedi troi ei llaw at gadw tŷ ar gyfer lletywyr yn yr un adeilad, gyda naw o bobl, yn ferched ac yn ddynion, yn Gymry, yn Wyddelod ac yn Saeson, yn aros yno. Nid oes sôn am werthu diod nac am enw "Engineer's Arms", a rhaid cymryd felly bod y dafarn ei hun wedi cau.[4]