William Morgan Williams (Fferyllfardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 5: Llinell 5:
Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref>
Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref>


Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon<ref>[http://www.carnarvontraders.com/chemists.html Carnarvon Traders ''CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)'']</ref> Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwywr a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle bu'n gwasanaethu am weddill ei oes.<ref>''Y Werin'', "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7.3.1896]</ref>
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon<ref>[http://www.carnarvontraders.com/chemists.html Carnarvon Traders ''CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)'']</ref> Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwywr a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle bu'n gwasanaethu am weddill ei oes.<ref>''Y Werin'', "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7.3.1896</ref>


Priododd Dr William Morgan Williams â Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868. Roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf <ref>Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodasau Llandrillo yn Rhos 1868.</ref> Cawsant bedwar o blant, dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R<ref>''Llais y Wlad'', 16.3.1877</ref>
Priododd Dr William Morgan Williams â Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868. Roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf <ref>Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodasau Llandrillo yn Rhos 1868.</ref> Cawsant bedwar o blant, dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R<ref>''Llais y Wlad'', 16.3.1877</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:15, 2 Tachwedd 2025

Roedd Dr William Morgan Williams (1832-1877), a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd", yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn Y Groeslon.

Fe'i ganed ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams (Gwilym Heli), a oedd yn grydd ac yn dipyn o fardd gwlad yn ogystal. Pan oedd William Morgan yn fachgen ifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon, lle roedd ei dad wedi dod yn berchen ar Felin Forgan ac yn ffermio'r tyddyn a oedd yn rhan o'r eiddo. Yno, chwaraeai gyda dau fachgen a wnaeth, fel yntau, dyfu'n feirdd o fri, sef Elis Wyn o Wyrfai a Tremlyn, a oedd yn gefnder i Fferyllfardd. Dichon mai dwy chwaer oedd mam William a mam Tremlyn (sef David Davies) a gallai hynny esbonio'r symud i'r Groeslon, ac efallai sut y daeth y tad yn berchen ar y felin a'r tir cysylltiedig. Ar ôl ychydig flynyddoedd, fodd bynnag, dychwelodd y teulu i ardal Pwllheli.

Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]

Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2] Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwywr a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle bu'n gwasanaethu am weddill ei oes.[3]

Priododd Dr William Morgan Williams â Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868. Roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf [4] Cawsant bedwar o blant, dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R[5]

Cyfeiriadau

  1. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  2. Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)
  3. Y Werin, "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7.3.1896
  4. Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodasau Llandrillo yn Rhos 1868.
  5. Llais y Wlad, 16.3.1877