Tafarn Sign Horse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Safai dafarn o'r enw '''Sign Horse''' yn ardal Treddafydd o bentref [[Pen-y-groes]] tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sdydd am y dafarn ddi-nod hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn [[Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870|atgofion Owen Owen]], lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.<ref>Owen Owen, ''Hen Atgofion am Pen-y-groes''</ref> Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai. | Safai dafarn o'r enw '''Sign Horse''' yn ardal Treddafydd o bentref [[Pen-y-groes]] tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sdydd am y dafarn ddi-nod hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn [[Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870|atgofion Owen Owen]], lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.<ref>Owen Owen, ''Hen Atgofion am Pen-y-groes''</ref> Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai. | ||
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.<ref>Cyfeiriadaur Masnach Slater, 1868</ref> | Yn ol Cyfrifiad 1861, Robert Griffiths oedd yn cadw'r dafarn, a alwyd yn y ddfogfen honno', "Horse Tavarn". Roedd Griffiths yn chwarelwr yn ogystal â thafarnwr; roedd yn 60 oed ym 1861, ac yn hanu o blwyf [[Llandwrog]]. Roedd ei wraig Elizabeth o Ddolbenmaen, ac yn wyth mlynedd yn iau na'i gŵr. Roedd gan y wraig dri o blant ac un ŵyr, mae'n ymddangos (gan mai Jones oedd eu cyfenwau hwy). Gellid amau bod y dafarn yn adeilad gyfforddus o fawr ac yn gwasanaethu hefyd fel gwesty gan fod tri yn lletya yno, un ohonynt yn chwarelwr a'r lleill yn bedleriaid o Sir y Fflint.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref> Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse; dichon mai gweddw Robert Griffiths ydoedd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.<ref>Cyfeiriadaur Masnach Slater, 1868</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
Fersiwn yn ôl 16:43, 30 Hydref 2025
Safai dafarn o'r enw Sign Horse yn ardal Treddafydd o bentref Pen-y-groes tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sdydd am y dafarn ddi-nod hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn atgofion Owen Owen, lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.[1] Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai.
Yn ol Cyfrifiad 1861, Robert Griffiths oedd yn cadw'r dafarn, a alwyd yn y ddfogfen honno', "Horse Tavarn". Roedd Griffiths yn chwarelwr yn ogystal â thafarnwr; roedd yn 60 oed ym 1861, ac yn hanu o blwyf Llandwrog. Roedd ei wraig Elizabeth o Ddolbenmaen, ac yn wyth mlynedd yn iau na'i gŵr. Roedd gan y wraig dri o blant ac un ŵyr, mae'n ymddangos (gan mai Jones oedd eu cyfenwau hwy). Gellid amau bod y dafarn yn adeilad gyfforddus o fawr ac yn gwasanaethu hefyd fel gwesty gan fod tri yn lletya yno, un ohonynt yn chwarelwr a'r lleill yn bedleriaid o Sir y Fflint.[2] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse; dichon mai gweddw Robert Griffiths ydoedd.[3] Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.[4]