William Morgan Williams (Fferyllfardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Ar y gweill Roedd Dr '''William Morgan Williams''' (1832[[1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Fe'i anwyd '' ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (''Gwilym Heli''), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgennifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon]] Dangosodd William Morgan diddordeb mawr mewn bard..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:42, 27 Hydref 2025

Ar y gweill


Roedd Dr William Morgan Williams (1832[[1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd.

Fe'i anwyd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgennifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon]]

Dangosodd William Morgan diddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.

Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[1]

Hyfforddiant a gwaith meddygol

Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[2]


[3]