Tafarn y Dolydd Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Irion y dudalen Dolydd Arms i Tafarn y Dolydd Arms |
(Dim gwahaniaeth)
| |
Fersiwn yn ôl 11:24, 23 Hydref 2025
Rhestrwyd y Dolydd Arms yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.[1] Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn sicr mai y dafarn a gynhaliwyd yn nhŷ Plas Dolydd oedd y dafarn hon; bu tafarn ar y safle ers o leiaf ail hanner y 18g.[2] Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd yno o hyd, er iddo gael ei ddisgrifio fel melinydd.[3] Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid mai gweithio mewn melin arall yn y cyffiniau oedd Huxley.
Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.[4] Ym 1851 fo oedd melinydd Melin y Bont-faen, plwyf Llanwnda. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd Melin Wnda. Ar ôl ei amser yn y Dolydd dychwelodd i Felin y Bont-faen ac yn gweithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.[5] Bu iddo farw ym 1899.[6], ac yn cael ei gladdu 22 Awst y flwyddyn honnoyn 80 oed yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bobt-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.[7]
Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl Plas Dolydd.
Cyfeiriadau
- ↑ Slater's Directory of Gloucestershire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91
- ↑ Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.