Tafarn y Dolydd Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Rhestrwyd y '''Dolydd Arms''' yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.<ref>''Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn..."
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Rhestrwyd y '''Dolydd Arms''' yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.<ref>''Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn sicr mai y dafarn a gynhaliwyd yn nhŷ [[Plas Dolydd]] oedd y dafarn hon; bu tafarnn ar y safle ers ail hanner y 18g.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871</ref> Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid oedd i Huxley weithio mewn melin arall yn y cyffiniau.

Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841</ref> Ym 1851 bu'n felinydd ym [[Melin Pont-faen]], plwyf [[Llanwnda]]. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd [[Melin Wnda]]. Ar ol ei amser yn y [[Dolydd]] dychwelodd i Felin Pont-faen ac yn dal i weithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau'n 71 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91</ref> Mae'n debyg iddo farw ym 1899.<ref>Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899</ref>
Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841</ref> Ym 1851 bu'n felinydd ym [[Melin y Bont-faen]], plwyf [[Llanwnda]]. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd [[Melin Wnda]]. Ar ôl ei amser yn y [[Dolydd]] dychwelodd i Felin y Bont-faen ac yn dal i weithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91</ref> Bu iddo farw ym 1899.<ref>Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899</ref>, ac yn cael ei gladdu 22 Awst y flwyddyn honno yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bobt-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.</ref>

Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl [[Plas Dolydd]].
Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl [[Plas Dolydd]].

Fersiwn yn ôl 11:19, 23 Hydref 2025

Rhestrwyd y Dolydd Arms yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.[1] Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn sicr mai y dafarn a gynhaliwyd yn nhŷ Plas Dolydd oedd y dafarn hon; bu tafarnn ar y safle ers ail hanner y 18g.[2] Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel melinydd.[3] Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid oedd i Huxley weithio mewn melin arall yn y cyffiniau.

Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.[4] Ym 1851 bu'n felinydd ym Melin y Bont-faen, plwyf Llanwnda. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd Melin Wnda. Ar ôl ei amser yn y Dolydd dychwelodd i Felin y Bont-faen ac yn dal i weithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.[5] Bu iddo farw ym 1899.[6], ac yn cael ei gladdu 22 Awst y flwyddyn honno yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bobt-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.[7]

Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl Plas Dolydd.

Cyfeiriadau

  1. Slater's Directory of Gloucestershsire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and |Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
  3. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
  4. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841
  5. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91
  6. Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899
  7. Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.