RAF Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Yn ailgyfeirio at Maes Awyr Caernarfon |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Wedi dileu ailgyfeiriad i Maes Awyr Caernarfon Tagiau: Tynnu ailgyfeiriad |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''RAF Llandwrog''' oedd enw sefydliad y Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan adeiladwyd maes awyr ar ran o [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]]. Diben y sefydliad oedd hyfforddi peilotiaid yn hytrach na chartrefi awyrennau bomio neu ymladdol. Fe'i sefydlwyd ym 1941 a bu'n cael ei defnyddio hyd 1955 pan adawodd y Llu Awyr â'r ardal. | |||
Yr awyrennau a ddefnyddid yno'n bennaf oedd fersiynau hyfforddi yr Armstrong Whitworth Whitley a'r Avro Anson, a bu nifer ohonynt mewn damweiniau naill ai wrth lanio neu ar y mynyddoedd cyfagos, gyda nifer yn cael eu ladd. Oherwydd hyn, ac yn wyneb peth difaterwch gan uwch-swyddogion, sefydlodd y Liwtenant Hedfan George Graham uned achub mynydd a dyfodd i fod yn wasanaeth cenedlaethol wedi idi brofi ei gwerth. | |||
Roedd y sefydliad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau [[Maes Awyr Caernarfon]] a sefydlwyd ar safle'r maes awyr milwrol, a cheir olion sylweddol yn y wlad o gwmpas o hyd. Ar ôl i awyren Almaenmig ymosod yn annisgwyl ar y safle fis Ionawr 1942, gosodwyd safleoedd ar gyfer magnelau gwrth-awyren, a sefydlwyd maes hyfforddi saethu awyrennau mawr wrth ymyl y traeth i gyfeiriad [[Caer Belan]]. Rhag ofn bod ymosodiad ar y maes awyr yn disgwydd o'r môr, gosodwyd maes ffrwythron daear yn y twyni tywod. | |||
Lleolwyd barics a chantîn y safle'n ddigon bell o'r maes awyr ei hun er diogelwch, ac fe erys y rhan fwyaf o'r adeiladau hyn ger [[Chatham]], llawer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio. Adeiladwyd ffordd newydd ar draws caeau'r morfa a chodwyd pont dros [[Afon Carrog]] er mwyn cysylltu'r maes awyr a'r adeiladau hyn. Yr oiedd set arall o adeiladu lle mae Gwersyllfa Twr Gwyn heddiw; Mae'r tŵr yn rhan o'r hen adeiladau. | |||
Fersiwn yn ôl 10:43, 29 Medi 2025
RAF Llandwrog oedd enw sefydliad y Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan adeiladwyd maes awyr ar ran o Forfa Dinlle. Diben y sefydliad oedd hyfforddi peilotiaid yn hytrach na chartrefi awyrennau bomio neu ymladdol. Fe'i sefydlwyd ym 1941 a bu'n cael ei defnyddio hyd 1955 pan adawodd y Llu Awyr â'r ardal.
Yr awyrennau a ddefnyddid yno'n bennaf oedd fersiynau hyfforddi yr Armstrong Whitworth Whitley a'r Avro Anson, a bu nifer ohonynt mewn damweiniau naill ai wrth lanio neu ar y mynyddoedd cyfagos, gyda nifer yn cael eu ladd. Oherwydd hyn, ac yn wyneb peth difaterwch gan uwch-swyddogion, sefydlodd y Liwtenant Hedfan George Graham uned achub mynydd a dyfodd i fod yn wasanaeth cenedlaethol wedi idi brofi ei gwerth.
Roedd y sefydliad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Maes Awyr Caernarfon a sefydlwyd ar safle'r maes awyr milwrol, a cheir olion sylweddol yn y wlad o gwmpas o hyd. Ar ôl i awyren Almaenmig ymosod yn annisgwyl ar y safle fis Ionawr 1942, gosodwyd safleoedd ar gyfer magnelau gwrth-awyren, a sefydlwyd maes hyfforddi saethu awyrennau mawr wrth ymyl y traeth i gyfeiriad Caer Belan. Rhag ofn bod ymosodiad ar y maes awyr yn disgwydd o'r môr, gosodwyd maes ffrwythron daear yn y twyni tywod.
Lleolwyd barics a chantîn y safle'n ddigon bell o'r maes awyr ei hun er diogelwch, ac fe erys y rhan fwyaf o'r adeiladau hyn ger Chatham, llawer ohonynt yn dal i gael eu defnyddio. Adeiladwyd ffordd newydd ar draws caeau'r morfa a chodwyd pont dros Afon Carrog er mwyn cysylltu'r maes awyr a'r adeiladau hyn. Yr oiedd set arall o adeiladu lle mae Gwersyllfa Twr Gwyn heddiw; Mae'r tŵr yn rhan o'r hen adeiladau.