Ffynnon Nantcall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 4: Llinell 4:
<br>
<br>
Ymddyg i'n ddwr meddygawl." <sup>[1]</sup>
Ymddyg i'n ddwr meddygawl." <sup>[1]</sup>
Ceir cyfeiriad at ymweld â Ffynnon Nantcall (neu Nantcyll fel y cyfeirir ati yn y dyfyniad isod) i ymdrochi - i ddibenion meddyginiaethol mae bron yn sicr - yn y dyddiadur y bu Owen Edwards, ffermwr Fron Olau, Penmorfa yn ei gadw o 1820-27. Dyma'r hyn a gofnodwyd gan Owen Edwards ar 28 Gorffennaf 1820 (cedwir yr orgraff a'r sillafu gwreiddiol fel y'i ceir yn y llawysgrif):[2] 
  Nodiadau: Dydd Gwener  Diwrnod teg y Meibion [sef ei weision] yn mynd ar ol brecwest [sic] i Gaegoronw isa i wneud mawn yn dwad i lawr at a Giniaw i daenu  gwair y ddau Gaelleppa ac yn ei garrio  Diwedd carrio Dâs y beudy newydd. Trol Llangybi yn dwad yma i nol y gwlan Deuddeg pwys am Ddeg swllt y pwys. Elin [sef gwraig Owen Edwards] yn mynd efo’i Mam [a oedd yn dod o Langybi] i fynd i ymdrochi i ffynnon Nantcyll  Fi yn gosod bocs y Colomenod ar dalcen y Ty, ac yn rhoi y Colomenod ynddo a rhwyd ar wyneb y bocs


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 9: Llinell 15:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


Myrddin Fardd (John Jones), ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1908), t.171.  
1. Myrddin Fardd (John Jones), ''Llên Gwerin Sir Gaernarfon'', (Caernarfon, 1908), t.171.  
 
2. Mae'r ffynhonnell werthfawr hon (a gedwir yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon) yn cynnwys gwybodaeth hynod fanwl am y tywydd yn ystod y cyfnod dan sylw, yn ogystal â manylion am amaethu, amgylchiadau'r cyfnod, digwyddiadau o bwys, etc. Yn ddiweddar mae tîm wedi bod yn gweithio ar y dyddiadur i'w drawsgrifio a'i ddigideiddio ar gyfer ''Y Tywyddiadur''. Hefyd mae rhan gyntaf ymdriniaeth â'r dyddiadur wedi cael ei chyhoeddi yn rhifyn cyfredol (Rhif 24 Haf 2025) y cylchgrawn ''Y Naturiaethwr''. Hoffwn ddiolch i Dr Hywel Madog Jones (un o'r tîm sy'n gweithio ar y dyddiadur) am anfon yr wybodaeth uchod ataf. 


{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Ffynhonnau]]
[[Categori:Ffynhonnau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:57, 3 Awst 2025

Mae Ffynnon Nantcall ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr. Yn ôl Myrddin Fardd, fe ddefnyddid y dŵr i wella'r felan (neu iselder ysbryd), hen friwiau, gwendid a chamdreuliad. Mae Nantcall, neu Nantcyll, yn rhan o enw pedair fferm i'r de o bentref Pant-glas. Dywed Myrddin fod y bardd Robert ap Gwilym Ddu, o'r Betws Fawr yn Eifionydd, wedi canu fel a ganlyn i'r ffynnon gan ganmol rhinweddau ei dŵr:

"I'r hon fyth mae ryw hen fawr,
Ymddyg i'n ddwr meddygawl." [1]

Ceir cyfeiriad at ymweld â Ffynnon Nantcall (neu Nantcyll fel y cyfeirir ati yn y dyfyniad isod) i ymdrochi - i ddibenion meddyginiaethol mae bron yn sicr - yn y dyddiadur y bu Owen Edwards, ffermwr Fron Olau, Penmorfa yn ei gadw o 1820-27. Dyma'r hyn a gofnodwyd gan Owen Edwards ar 28 Gorffennaf 1820 (cedwir yr orgraff a'r sillafu gwreiddiol fel y'i ceir yn y llawysgrif):[2]

  Nodiadau:	Dydd Gwener  Diwrnod teg y Meibion [sef ei weision] yn mynd ar ol brecwest [sic] i Gaegoronw isa i wneud mawn yn dwad i lawr at a Giniaw i daenu  gwair y ddau Gaelleppa ac yn ei garrio  Diwedd carrio Dâs y beudy newydd. Trol Llangybi yn dwad yma i nol y gwlan Deuddeg pwys am Ddeg swllt y pwys. Elin [sef gwraig Owen Edwards] yn mynd efo’i Mam [a oedd yn dod o Langybi] i fynd i ymdrochi i ffynnon Nantcyll  Fi yn gosod bocs y Colomenod ar dalcen y Ty, ac yn rhoi y Colomenod ynddo a rhwyd ar wyneb y bocs


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

1. Myrddin Fardd (John Jones), Llên Gwerin Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1908), t.171.

2. Mae'r ffynhonnell werthfawr hon (a gedwir yn Archifdy Gwynedd, Caernarfon) yn cynnwys gwybodaeth hynod fanwl am y tywydd yn ystod y cyfnod dan sylw, yn ogystal â manylion am amaethu, amgylchiadau'r cyfnod, digwyddiadau o bwys, etc. Yn ddiweddar mae tîm wedi bod yn gweithio ar y dyddiadur i'w drawsgrifio a'i ddigideiddio ar gyfer Y Tywyddiadur. Hefyd mae rhan gyntaf ymdriniaeth â'r dyddiadur wedi cael ei chyhoeddi yn rhifyn cyfredol (Rhif 24 Haf 2025) y cylchgrawn Y Naturiaethwr. Hoffwn ddiolch i Dr Hywel Madog Jones (un o'r tîm sy'n gweithio ar y dyddiadur) am anfon yr wybodaeth uchod ataf.