Humphrey Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd [[Humphrey Parry]] (?1772-1809) yn y Cwm Mawr, [[Clynnog Fawr]].<ref>Myrddin Fardd, ''Adgof Uwch Anghof'' (Pen-y-groes, 1883), t.28</ref> Ar ôl cyfnod yn gweithio i gyfreithiwr, symudodd i Lundain lle bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells. Ar ôl i brifathro'r ysgol honno farw ym 1797,  agorodd ei ysgol ei hun yn Hackney, sef y Cambridge House Academy. Roedd enw da i'r ysgol ac iddo fo fel athro, a dywedir ei fod yn feistr ar wyth iaith. Ym 1806 fe wariodd £700 ar helaethu'r adeilad. Yr oedd yn aelod o'r Gwyneddigion (is-lywydd 1807, llywydd 1808), a hefyd o'r Cymreigyddion. Pan gychwynnwyd ''Y Greal'' (1804), yr oedd yn un o'r pedwar golygydd - William Owen Pughe a Thoimas Jones (Bardd Cloff) yn cynrychioli'r Gwyneddigion, a Humphrey Parry a John Jones (Jac Glan-y-gors) yn cynrychioli'r Cymreigyddion (er bod oedd y pedwar yn aelodau o'r ddwy gymdeithas).<ref>Myrddin Fardd, ''Adgof Uwch Anghof'' (Pen-y-groes, 1883), tt.30-1</ref> Honnwyd gan R.T. Jenkins fod Parry'n arwainydd y gwrthwynebiad i awdurdod Owain Myfyr a Pughe yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion. Teimlai fod Pughe (ar bwys "llogellau Owain Myfyr," chwedl Parry) yn cael gormod o'i ffordd, ei fod yn mynnu cael argraffu'r ''Greal'' yn ei orgraff ef ei hunan, ac yn cadw allan ohono bopeth nad oedd yn dderbyniol ganddo, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn cynnwys gormod o erthygau hynafiaethol eu naws na fyddai'n plesio'r darllenydd cyffredin. Meddai R.T. Jenkins wedyn:
Ganwyd [[Humphrey Parry]] (?1772-1809) yn y Cwm Mawr, [[Clynnog Fawr]].<ref>Myrddin Fardd, ''Adgof Uwch Anghof'' (Pen-y-groes, 1883), t.28</ref> Ar ôl cyfnod yn gweithio i gyfreithiwr, symudodd i Lundain lle bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells. Ar ôl i brifathro'r ysgol honno farw ym 1797,  agorodd ei ysgol ei hun yn Hackney, sef y Cambridge House Academy. Roedd enw da i'r ysgol ac iddo fo fel athro, a dywedir ei fod yn feistr ar wyth iaith. Ym 1806 fe wariodd £700 ar helaethu'r adeilad. Roedd yn aelod o'r Gwyneddigion (is-lywydd 1807, llywydd 1808), a hefyd o'r Cymreigyddion. Pan gychwynnwyd ''Y Greal'' (1804), roedd yn un o'r pedwar golygydd - William Owen Pughe a Thomas Jones (Bardd Cloff) yn cynrychioli'r Gwyneddigion, a Humphrey Parry a John Jones (Jac Glan-y-gors) yn cynrychioli'r Cymreigyddion (er bod y pedwar yn aelodau o'r ddwy gymdeithas).<ref>Myrddin Fardd, ''Adgof Uwch Anghof'' (Pen-y-groes, 1883), tt.30-1</ref> Honnwyd gan R.T. Jenkins fod Parry'n arweinydd y gwrthwynebiad i awdurdod Owain Myfyr a Pughe yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion. Teimlai fod Pughe (ar bwys "llogellau Owain Myfyr," chwedl Parry) yn cael gormod o'i ffordd ei hun, ei fod yn mynnu cael argraffu'r ''Greal'' yn ei orgraff ef ei hunan, ac yn cadw allan ohono bopeth nad oedd yn dderbyniol ganddo, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn cynnwys gormod o erthyglau hynafiaethol eu naws na fyddai'n plesio'r darllenydd cyffredin. Meddai R.T. Jenkins wedyn:
  Eglura hyn oll mewn llythyr maith (Medi 1806) at [[Dafydd Ddu Eryri]] - dengys y llythyr, gyda llaw, y gallai Parry ei hunan fod mor ffansïol â Pughe yn ei syniadau gramadegol. Dymunai weld cylchgrawn Cymraeg mwy gwerinol na'r ''Greal'' yn cael ei gyhoeddi yng Nghaernarfon.<ref>R.T. Jenkins yn R.T. Jenkins (gol.), ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940''(Llundain, 1953), t.1061</ref>  
  Eglura hyn oll mewn llythyr maith (Medi 1806) at [[Dafydd Ddu Eryri]] - dengys y llythyr, gyda llaw, y gallai Parry ei hunan fod mor ffansïol â Pughe yn ei syniadau gramadegol. Dymunai weld cylchgrawn Cymraeg mwy gwerinol na'r ''Greal'' yn cael ei gyhoeddi yng Nghaernarfon.<ref>R.T. Jenkins yn R.T. Jenkins (gol.), ''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940''(Llundain, 1953), t.1061</ref>  


Pan sefydlodd Dafydd Ddu ''Yr Eurgrawn'' ym 1807, anfonodd Parry ysgrif ar ramadeg (dyddiedig o Glynnog, Gorffennaf 1807), i'w chynnwys yn y cylchgrawn hwnnw. Yr oedd Parry hefyd yn bwriadu cyhoeddi llyfr gramadeg, ond bu farw fis Ebrill 1809, wrth ddarllen llyfr Cymraeg i'w gydysgolhaig y Dr. John Jones (?1766-1827)., a hynny'n annisgwyl ym mlodau ei ddyddiau, yn ôl y papur newydd.
Pan sefydlodd Dafydd Ddu ''Yr Eurgrawn'' ym 1807, anfonodd Parry ysgrif ar ramadeg (dyddiedig o Glynnog, Gorffennaf 1807), i'w chynnwys yn y cylchgrawn hwnnw. Yr oedd Parry hefyd yn bwriadu cyhoeddi llyfr gramadeg, ond bu farw fis Ebrill 1809, wrth ddarllen llyfr Cymraeg i'w gyd-ysgolhaig y Dr. John Jones (?1766-1827)., a hynny'n annisgwyl ym mlodau ei ddyddiau, yn ôl y papur newydd.


Yn ddigon diddorol, er i Parry ymweld â Chlynnog ym 1807, roedd y papur lleol, wrth gofnodi ei farwolaeth ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn cael ei enw'n anghywir gan nodi bod "Mr. Henry Parry, Master of Cambridge House Academy" wedi marw.<ref>''North Wales Gazette'', 23.3.1809, t.3</ref>
Yn ddigon diddorol, er i Parry ymweld â Chlynnog ym 1807, roedd y papur lleol, wrth gofnodi ei farwolaeth ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn cael ei enw'n anghywir gan nodi bod "Mr. Henry Parry, Master of Cambridge House Academy" wedi marw.<ref>''North Wales Gazette'', 23.3.1809, t.3</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:23, 27 Mai 2025

Ganwyd Humphrey Parry (?1772-1809) yn y Cwm Mawr, Clynnog Fawr.[1] Ar ôl cyfnod yn gweithio i gyfreithiwr, symudodd i Lundain lle bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells. Ar ôl i brifathro'r ysgol honno farw ym 1797, agorodd ei ysgol ei hun yn Hackney, sef y Cambridge House Academy. Roedd enw da i'r ysgol ac iddo fo fel athro, a dywedir ei fod yn feistr ar wyth iaith. Ym 1806 fe wariodd £700 ar helaethu'r adeilad. Roedd yn aelod o'r Gwyneddigion (is-lywydd 1807, llywydd 1808), a hefyd o'r Cymreigyddion. Pan gychwynnwyd Y Greal (1804), roedd yn un o'r pedwar golygydd - William Owen Pughe a Thomas Jones (Bardd Cloff) yn cynrychioli'r Gwyneddigion, a Humphrey Parry a John Jones (Jac Glan-y-gors) yn cynrychioli'r Cymreigyddion (er bod y pedwar yn aelodau o'r ddwy gymdeithas).[2] Honnwyd gan R.T. Jenkins fod Parry'n arweinydd y gwrthwynebiad i awdurdod Owain Myfyr a Pughe yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion. Teimlai fod Pughe (ar bwys "llogellau Owain Myfyr," chwedl Parry) yn cael gormod o'i ffordd ei hun, ei fod yn mynnu cael argraffu'r Greal yn ei orgraff ef ei hunan, ac yn cadw allan ohono bopeth nad oedd yn dderbyniol ganddo, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn cynnwys gormod o erthyglau hynafiaethol eu naws na fyddai'n plesio'r darllenydd cyffredin. Meddai R.T. Jenkins wedyn:

Eglura hyn oll mewn llythyr maith (Medi 1806) at Dafydd Ddu Eryri - dengys y llythyr, gyda llaw, y gallai Parry ei hunan fod mor ffansïol â Pughe yn ei syniadau gramadegol. Dymunai weld cylchgrawn Cymraeg mwy gwerinol na'r Greal yn cael ei gyhoeddi yng Nghaernarfon.[3] 

Pan sefydlodd Dafydd Ddu Yr Eurgrawn ym 1807, anfonodd Parry ysgrif ar ramadeg (dyddiedig o Glynnog, Gorffennaf 1807), i'w chynnwys yn y cylchgrawn hwnnw. Yr oedd Parry hefyd yn bwriadu cyhoeddi llyfr gramadeg, ond bu farw fis Ebrill 1809, wrth ddarllen llyfr Cymraeg i'w gyd-ysgolhaig y Dr. John Jones (?1766-1827)., a hynny'n annisgwyl ym mlodau ei ddyddiau, yn ôl y papur newydd.

Yn ddigon diddorol, er i Parry ymweld â Chlynnog ym 1807, roedd y papur lleol, wrth gofnodi ei farwolaeth ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn cael ei enw'n anghywir gan nodi bod "Mr. Henry Parry, Master of Cambridge House Academy" wedi marw.[4]

Cyfeiriadau

  1. Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof (Pen-y-groes, 1883), t.28
  2. Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof (Pen-y-groes, 1883), tt.30-1
  3. R.T. Jenkins yn R.T. Jenkins (gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953), t.1061
  4. North Wales Gazette, 23.3.1809, t.3