Porth y Casul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae lleoliad '''Porth y Casul''' wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi arfer anfon casul (sef dilledyn clerigol) i [[Sant Beuno]] bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo gael ei wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai [[Porth Clynnog]] ger Aberdesach fod yn lleoliad posibl ar gyfer Porth y Casul. | Mae lleoliad '''Porth y Casul''' wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi arfer anfon casul (sef dilledyn clerigol) i [[Sant Beuno]] bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo gael ei wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai [[Porth Clynnog]] ger Aberdesach fod yn lleoliad posibl ar gyfer Porth y Casul. | ||
Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.<ref>Patrick Sims-Williams, ''Buchedd Beuno. The Middle Welsh'' Life ''of St Beuno'' (Dulyn, 2018), tt.32, 64.</ref> | Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) ar y lle dan sylw yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.<ref>Patrick Sims-Williams, ''Buchedd Beuno. The Middle Welsh'' Life ''of St Beuno'' (Dulyn, 2018), tt.32, 64.</ref> | ||
Roedd [[Eben Fardd]] o'r farn mai porthladd bychan ger [[Clynnog Fawr]] ei hun oedd Porth y Casul. Bu'n holi pobl yr ardal ond heb ganfod y lleoliad, meddai, ond dichon mai yn agos i [[Bachwen]] oedd yn ei feddwl | Roedd [[Eben Fardd]] o'r farn mai porthladd bychan ger [[Clynnog Fawr]] ei hun oedd Porth y Casul. Bu'n holi pobl yr ardal ond heb ganfod y lleoliad, meddai, ond dichon mai yn agos i [[Bachwen]] oedd yn ei feddwl, a hynny lle mae nant fechan yn cyrraedd y môr.<ref>Eben Fardd, ''Y Gwladgarwr'' (Cyf.VI, 1838) t.44</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Harbyrau]] | [[Categori:Harbyrau a glanfeydd]] | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] | [[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:36, 23 Ebrill 2025
Mae lleoliad Porth y Casul wedi mynd ar goll, ond dywedir mai wyth milltir o Gaernarfon ydoedd. Cysylltir yr enw gyda'r traddodiad fod Santes Gwenffrewi wedi arfer anfon casul (sef dilledyn clerigol) i Sant Beuno bob blwyddyn, a'i fod wedi cyrraedd yn wyrthiol yn y borth dan sylw, a hynny heb iddo gael ei wlychu o gwbl. Mae hyn hefyd yn gyfrifol am enw amgen ar y lle, sef Porta Sachlen (sef Porth Sych-len). Mae'r Athro Patrick Sims-Williams yn awgrymu y gallai Porth Clynnog ger Aberdesach fod yn lleoliad posibl ar gyfer Porth y Casul.
Enw mwy diweddar (sydd eto ar goll) ar y lle dan sylw yw Porth y Gaseg, ond mae'n debyg mai ymgais i wneud synnwyr o'r gair anghyfarwydd "casul" sydd yma.[1]
Roedd Eben Fardd o'r farn mai porthladd bychan ger Clynnog Fawr ei hun oedd Porth y Casul. Bu'n holi pobl yr ardal ond heb ganfod y lleoliad, meddai, ond dichon mai yn agos i Bachwen oedd yn ei feddwl, a hynny lle mae nant fechan yn cyrraedd y môr.[2]