Thomas Parry (Dinlle): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Gwr a aned yn Llanrug oedd '''Thomas Parry''' (1843-?1907) a arddelai'r enw barddol o "Dinlle". Mae'n bosibl mai plentyn siawns ydoedd, gan fod y Cyfrifiad yn disgrifio ei fam fel "spinster". Ym 1861, gweithiai fel chwarelwr llechi; roedd ei frawd hŷn, David, yn saer. Cartref y teulu oedd bwthyn Pen-rhiw.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1861</ref> Roedd o a'i wraig yn byw yn Y Groeslon ym 1871, pan rhoddodd ei alwedigaeth fel ffarmwr a masnachwr glo. Mae'n a..."
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Gwr a aned yn Llanrug oedd '''Thomas Parry''' (1843-?1907) a arddelai'r enw barddol o "Dinlle". Mae'n bosibl mai plentyn siawns ydoedd, gan fod y Cyfrifiad yn disgrifio ei fam fel "spinster". Ym 1861, gweithiai fel chwarelwr llechi; roedd ei frawd hŷn, David, yn saer. Cartref y teulu oedd bwthyn Pen-rhiw.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1861</ref>
Gwr a aned yn Llanrug oedd '''Thomas Parry''' (1843-?1907) a arddelai'r enw barddol o "Dinlle". Mae'n bosibl mai plentyn siawns ydoedd, gan fod y Cyfrifiad yn disgrifio ei fam fel "spinster". Ym 1861, gweithiai fel chwarelwr llechi; roedd ei frawd hŷn, David, yn saer. Cartref y teulu oedd bwthyn Pen-rhiw.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1861</ref>


Roedd o a'i wraig yn byw yn [[Y Groeslon]] ym 1871, pan rhoddodd ei alwedigaeth fel ffarmwr a masnachwr glo. Mae'n amlwg fod ei fusnes wedi ffynnu. Cododd yr ail dafarn i agor ym mhentref Y Groeslon, sef [[Gwesty'r Grugan Arms]] tua 1880, a hynny tua'r un amser ag y cododd [[Gwesty'r Caernarfon Bay|Westy Caernarfon Bay]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]]. Roedd o a'i deulu'n byw yn y dafarn adeg Cyfrifiad 1881, lle nodir ei alwedigaeth fel masnachwr coed. Roedd ganddo wraig, Elizabeth, a oedd yn hanu o blwyf [[Llandwrog]].<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1881</ref> Erbyn 1889, roedd wedi gwerthu'r Grugan Arms i ddyn o'r enw C.E. Jones, gan fyw o hynny allan yn Ninas Dinlle. <ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.64</ref> I ddechrau, mae'n ymddangos ei fod ef ac Elizabeth wedi lodjio yn nhŷ Tan Dinas. Marine Cottage oedd cartref y cwpl erbyn 1901, pan disgrifiwyd Thomas fel siopwr a "confectioner".<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1891-1901</ref> Mae'n debyg iddo farw ym 1907.<ref>Rhestr marwolaethau Cymru a Lloegr 1907. Dyma unig Thomas Parry y mae ei farwolaeth wedi ei gofnodi 1901-1911 yn ardal gofrestru Caernarfon. Nid yw Thomas Parry (nac Elizabeth Parry) yn ymddangos yn nogfennau Cyfrifiad Llandwrog 1911.</ref>
Roedd o a'i wraig yn byw yn [[Y Groeslon]] ym 1871, pan rhoddodd ei alwedigaeth fel ffarmwr a masnachwr glo. Mae'n amlwg fod ei fusnes wedi ffynnu. Cododd yr ail dafarn i agor ym mhentref Y Groeslon, sef [[Gwesty'r Grugan Arms]] tua 1880, a hynny ond ychydig flynyddoedd cyn iddo godi [[Gwesty'r Caernarfon Bay|Westy Caernarfon Bay]] yn [[Dinas Dinlle|Ninas Dinlle]]. Roedd o a'i deulu'n byw yn y dafarn adeg Cyfrifiad 1881, lle nodir ei alwedigaeth fel masnachwr coed. Roedd ganddo wraig, Elizabeth, a oedd yn hanu o blwyf [[Llandwrog]].<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1881</ref> Roedd y ddau'n dal yn y Grugan Arms ym 1884, pan nodir ei fod yn bwriadu codi gwesty yn Ninas Dinlle.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 3.9.1884, t.8</ref> Erbyn Mehefin y flwyddyn ganlynol roedd y gwesty wedi agor.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 24.6.1885, t.5</ref>
 
Erbyn 1889, roedd wedi gwerthu'r Grugan Arms i ddyn o'r enw C.E. Jones, gan fyw o hynny allan yn Ninas Dinlle. <ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), t.64</ref> I ddechrau, mae'n ymddangos ei fod ef ac Elizabeth wedi lodjio yn nhŷ Tan Dinas. Roedd Elizabeth yn ghweithio am gyfnod tua 1892 fel rheolwraig y gwesty a godwyd gan ei gŵr.<ref>''North Wales Express'', 10.6.1904, t.4</ref> Marine Cottage oedd cartref y cwpl erbyn 1901, pan disgrifiwyd Thomas fel siopwr a "confectioner".<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1891-1901</ref> Mae'n debyg iddo farw ym 1907.<ref>Rhestr marwolaethau Cymru a Lloegr 1907. Dyma unig Thomas Parry y mae ei farwolaeth wedi ei gofnodi 1901-1911 yn ardal gofrestru Caernarfon. Nid yw Thomas Parry (nac Elizabeth Parry) yn ymddangos yn nogfennau Cyfrifiad Llandwrog 1911.</ref>


Ni fu ei gysylltiad â'r gwesty yn Ninas Dinlle'n un hir, fodd bynnag, oherwydd i'r fenter fynd i'r wal a chymerwyd y lle drosodd gan gwmni masnachol. Symudodd Thomas Parry a'i deulu yn y man i fwthyn ar odre'r Dinas ac yno agorodd gaffi - un o ddau a oedd yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Ni fu ei gysylltiad â'r gwesty yn Ninas Dinlle'n un hir, fodd bynnag, oherwydd i'r fenter fynd i'r wal a chymerwyd y lle drosodd gan gwmni masnachol. Symudodd Thomas Parry a'i deulu yn y man i fwthyn ar odre'r Dinas ac yno agorodd gaffi - un o ddau a oedd yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:07, 10 Ebrill 2025

Gwr a aned yn Llanrug oedd Thomas Parry (1843-?1907) a arddelai'r enw barddol o "Dinlle". Mae'n bosibl mai plentyn siawns ydoedd, gan fod y Cyfrifiad yn disgrifio ei fam fel "spinster". Ym 1861, gweithiai fel chwarelwr llechi; roedd ei frawd hŷn, David, yn saer. Cartref y teulu oedd bwthyn Pen-rhiw.[1]

Roedd o a'i wraig yn byw yn Y Groeslon ym 1871, pan rhoddodd ei alwedigaeth fel ffarmwr a masnachwr glo. Mae'n amlwg fod ei fusnes wedi ffynnu. Cododd yr ail dafarn i agor ym mhentref Y Groeslon, sef Gwesty'r Grugan Arms tua 1880, a hynny ond ychydig flynyddoedd cyn iddo godi Westy Caernarfon Bay yn Ninas Dinlle. Roedd o a'i deulu'n byw yn y dafarn adeg Cyfrifiad 1881, lle nodir ei alwedigaeth fel masnachwr coed. Roedd ganddo wraig, Elizabeth, a oedd yn hanu o blwyf Llandwrog.[2] Roedd y ddau'n dal yn y Grugan Arms ym 1884, pan nodir ei fod yn bwriadu codi gwesty yn Ninas Dinlle.[3] Erbyn Mehefin y flwyddyn ganlynol roedd y gwesty wedi agor.[4]

Erbyn 1889, roedd wedi gwerthu'r Grugan Arms i ddyn o'r enw C.E. Jones, gan fyw o hynny allan yn Ninas Dinlle. [5] I ddechrau, mae'n ymddangos ei fod ef ac Elizabeth wedi lodjio yn nhŷ Tan Dinas. Roedd Elizabeth yn ghweithio am gyfnod tua 1892 fel rheolwraig y gwesty a godwyd gan ei gŵr.[6] Marine Cottage oedd cartref y cwpl erbyn 1901, pan disgrifiwyd Thomas fel siopwr a "confectioner".[7] Mae'n debyg iddo farw ym 1907.[8]

Ni fu ei gysylltiad â'r gwesty yn Ninas Dinlle'n un hir, fodd bynnag, oherwydd i'r fenter fynd i'r wal a chymerwyd y lle drosodd gan gwmni masnachol. Symudodd Thomas Parry a'i deulu yn y man i fwthyn ar odre'r Dinas ac yno agorodd gaffi - un o ddau a oedd yno ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Roedd Thomas Parry'n hoffi barddoni, ac yn ôl W. Gilbert Williams, dreuliai ei hafau'n gwasanaethu torf o ymwelwyr, gan dreulio'r gaeaf yng nghwmni'r Awen, yn "nyddu cywyddau ac englynion mewn cyflawnder".[9] Derbyniodd ambell wahoddiad i ddatgan rhai o'i gyfansoddiadau mewn cyfarfodydd llenyddol, ond erbyn hyn, mae'r cof amdano fel bardd wedi mynd ac fe gofir amdano fel un o ddynion busnes a datblygwyr cynharaf cyrchfan Dinas Dinlle.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1861
  2. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1881
  3. Y Genedl Gymreig, 3.9.1884, t.8
  4. Y Genedl Gymreig, 24.6.1885, t.5
  5. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.64
  6. North Wales Express, 10.6.1904, t.4
  7. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1891-1901
  8. Rhestr marwolaethau Cymru a Lloegr 1907. Dyma unig Thomas Parry y mae ei farwolaeth wedi ei gofnodi 1901-1911 yn ardal gofrestru Caernarfon. Nid yw Thomas Parry (nac Elizabeth Parry) yn ymddangos yn nogfennau Cyfrifiad Llandwrog 1911.
  9. W. Gilbert Williams, "Dinas Dinlle", Cymru, Cyf.29 (Ionawr 1905), t.74