Coleg yr Iesu, Rhydychen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd gan '''Goleg yr Iesu, Rhydychen''' hawl i brif gynnyrch y Degwm, sef y degymau rheithorol, a ddeilliai o blwyf Clynnog Fawr a hefyd o blwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Er bod Llanfaglan yn Isgwyrfai, fel plwyf bach a di-sylw, mae wedi cael ei ddal ar y cŷd efo bywoliaeth Llanwnda. Roedd gwaith bugeilio'r plwyfolion ar ôl diddymiad y mynachlogydd ym 1536-40 yn syrthio ar y ficer ac unrhyw gurad gan nad poedd y rheithor yn unigolyn a ordeiniwyd; r..."
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd gan '''Goleg yr Iesu, Rhydychen''' hawl i brif gynnyrch y Degwm, sef y degymau rheithorol, a ddeilliai o blwyf [[Clynnog Fawr]] a hefyd o blwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan. Er bod Llanfaglan yn [[Isgwyrfai]], fel plwyf bach a di-sylw, mae wedi cael ei ddal ar y cŷd efo bywoliaeth Llanwnda. Roedd gwaith bugeilio'r plwyfolion ar ôl diddymiad y mynachlogydd ym 1536-40 yn syrthio ar y ficer ac unrhyw gurad gan nad poedd y rheithor yn unigolyn a ordeiniwyd; roedd y ficer yn derbyn cynnyrch degymau'r ficerol, a oedd oddeutu chwarter yr hyn a gaed gan Goleg yr Iesu.
Roedd gan '''Goleg yr Iesu, Rhydychen''' hawl i brif gynnyrch y Degwm, sef y degymau rheithorol, a ddeilliai o blwyf [[Clynnog Fawr]] a hefyd o blwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan. Er bod Llanfaglan yn [[Isgwyrfai]], fel plwyf bach a di-sylw, mae wedi cael ei ddal ar y cyd gyda bywoliaeth Llanwnda. Roedd gwaith bugeilio'r plwyfolion ar ôl diddymiad y mynachlogydd ym 1536-40 yn syrthio ar y ficer ac unrhyw gurad, gan nad oedd y rheithor yn unigolyn a ordeiniwyd; roedd y ficer yn derbyn cynnyrch y degymau ficerol, a oedd oddeutu chwarter yr hyn a gaed gan Goleg yr Iesu.


Mewn erthygl yn y ''Cardiff and Merthyr Guardian'' ym 1847, ceir esboniad o'r sefyllfa, a'r modd yr oedd Coleg yr Iesu'n manteisio ar effeithiau chwyddiant ers iddo dderbyn waddoliad yn ewyllys Syr Leoline Jenkins ym 1685, pan etifeddodd y Coleg incwm i ddarparu cyflog i ysgolfeistr y Bont-faen a darparu ysgoloriaethau i ddisgyblion yr ysgol honno a oedd am fynd yn eu blaen i Goleg yr Iesu. Yn yr un modd, nid oedd y Coleg wedi gwneud fawr i gynyddu ei gefnogaeth i blwyf Llandysul yn ne Cymru lle roedd y Coleg yn debyn y Degwm, nac ychwaith ym mhlwyfi Ynys Môn (yn cynnwys Caergybi), na phlwyfi Clynnog Fawr, Llanwnda a Llanfaglan. Mae awdur anhysbys yr erthygl, wrth ddangos annhegwch y sefyllfa, yn dyfynnu sefyllfa ariannol y plwyfi hyn.
Mewn erthygl yn y ''Cardiff and Merthyr Guardian'' ym 1847, ceir esboniad o'r sefyllfa, a'r modd yr oedd Coleg yr Iesu'n manteisio ar effeithiau chwyddiant ers iddo dderbyn gwaddoliad yn ewyllys Syr Leoline Jenkins ym 1685, pan etifeddodd y Coleg incwm i ddarparu cyflog i ysgolfeistr y Bont-faen a darparu ysgoloriaethau i ddisgyblion yr ysgol honno a oedd am fynd yn eu blaenau i Goleg yr Iesu. Yr un modd, nid oedd y Coleg wedi gwneud fawr i gynyddu ei gefnogaeth i blwyf Llandysul yn ne Cymru lle roedd y Coleg yn debyn y Degwm, nac ychwaith ym mhlwyfi Ynys Môn (yn cynnwys Caergybi), na phlwyfi Clynnog Fawr, Llanwnda a Llanfaglan. Mae awdur anhysbys yr erthygl, wrth ddangos annhegwch y sefyllfa, yn dyfynnu sefyllfa ariannol y plwyfi hyn.


Yn achos Clynnog Fawr, aeth pedair rhan allan o bump o'r Degwm i goffrau'r Coleg - eu gwerth cychwynnol oedd £24 i'r Coleg a £6 i'r ficer - a hwnnw'n gorfod talu cyflog unrhyw gurad o'i boced ei hun. Gydag effaith chwyddiant, roedd incwm a aeth i'r Coleg o Glynnog Fawr yn £632 a'r incwm i'r ficer yn £158. Yn achos Llanwnda a Llanfaglan, nodwyd bod y degwm a hawliai gan y ficer yn £270 ym 1847, tra bod y Coleg yn derbyn tua £800.<ref> ''Cardiff and Merthyr Guardian'' , 20.2.1847, t.4</ref> Er mwyn cymharu'r symiau hyn gyda'u gwerth heddiw, dylid nodi mai £100 ym 1847 gyfwerth â £15800 heddiw (2025).<ref> Jim O’Donoghue, Louise Goulding, a Grahame Allen, "Consumer Price Inflation Since 1750" in ''Economic Trends'' rhif 604, tt.38-46) .</ref>
Cafodd y Coleg rodd o fywoliaeth Cynnog ynghyd â chaplanaethau Llanwnda a Llanfaglan ym 1688.<ref>Gwefan Coleg yr Iesu, Catalog Archifau, [https://archives.jesus.ox.ac.uk/guides/estates], cyrchwyd 14.3.2025. Nodir yn y Catalog fod yr holl bapurau parthed hyn wedi'u trosglwyddo i Archifdy Caernarfon ym 1999</ref> Dichon mai Jonathan Edwards, rheithor Llandysul a Chlynnog Fawr, oedd wedi cyflwyno'r bywoliaethau hyn i'r Coleg.<ref>R.T. Jenkins (gol.), ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940’’ (Llundain, 1953), t.177</ref>Yn achos Clynnog Fawr, aeth pedair rhan allan o bump o'r Degwm i goffrau'r Coleg - eu gwerth cychwynnol oedd £24 i'r Coleg a £6 i'r ficer - a hwnnw'n gorfod talu cyflog unrhyw gurad o'i boced ei hun. Gydag effaith chwyddiant, roedd yr incwm a ai i'r Coleg o Glynnog Fawr wedi cynyddu i £632 a'r incwm i'r ficer yn £158. Yn achos Llanwnda a Llanfaglan, nodwyd bod y degwm a hawlid gan y ficer yn £270 ym 1847, tra bod y Coleg yn derbyn tua £800.<ref> ''Cardiff and Merthyr Guardian'' , 20.2.1847, t.4</ref> Er mwyn cymharu'r symiau hyn gyda'u gwerth heddiw, dylid nodi bod £100 ym 1847 yn gyfwerth â £15,800 heddiw (2025).<ref> Jim O’Donoghue, Louise Goulding, a Grahame Allen, "Consumer Price Inflation Since 1750" in ''Economic Trends'' rhif 604, tt.38-46.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:39, 14 Mawrth 2025

Roedd gan Goleg yr Iesu, Rhydychen hawl i brif gynnyrch y Degwm, sef y degymau rheithorol, a ddeilliai o blwyf Clynnog Fawr a hefyd o blwyfi Llanwnda a Llanfaglan. Er bod Llanfaglan yn Isgwyrfai, fel plwyf bach a di-sylw, mae wedi cael ei ddal ar y cyd gyda bywoliaeth Llanwnda. Roedd gwaith bugeilio'r plwyfolion ar ôl diddymiad y mynachlogydd ym 1536-40 yn syrthio ar y ficer ac unrhyw gurad, gan nad oedd y rheithor yn unigolyn a ordeiniwyd; roedd y ficer yn derbyn cynnyrch y degymau ficerol, a oedd oddeutu chwarter yr hyn a gaed gan Goleg yr Iesu.

Mewn erthygl yn y Cardiff and Merthyr Guardian ym 1847, ceir esboniad o'r sefyllfa, a'r modd yr oedd Coleg yr Iesu'n manteisio ar effeithiau chwyddiant ers iddo dderbyn gwaddoliad yn ewyllys Syr Leoline Jenkins ym 1685, pan etifeddodd y Coleg incwm i ddarparu cyflog i ysgolfeistr y Bont-faen a darparu ysgoloriaethau i ddisgyblion yr ysgol honno a oedd am fynd yn eu blaenau i Goleg yr Iesu. Yr un modd, nid oedd y Coleg wedi gwneud fawr i gynyddu ei gefnogaeth i blwyf Llandysul yn ne Cymru lle roedd y Coleg yn debyn y Degwm, nac ychwaith ym mhlwyfi Ynys Môn (yn cynnwys Caergybi), na phlwyfi Clynnog Fawr, Llanwnda a Llanfaglan. Mae awdur anhysbys yr erthygl, wrth ddangos annhegwch y sefyllfa, yn dyfynnu sefyllfa ariannol y plwyfi hyn.

Cafodd y Coleg rodd o fywoliaeth Cynnog ynghyd â chaplanaethau Llanwnda a Llanfaglan ym 1688.[1] Dichon mai Jonathan Edwards, rheithor Llandysul a Chlynnog Fawr, oedd wedi cyflwyno'r bywoliaethau hyn i'r Coleg.[2]Yn achos Clynnog Fawr, aeth pedair rhan allan o bump o'r Degwm i goffrau'r Coleg - eu gwerth cychwynnol oedd £24 i'r Coleg a £6 i'r ficer - a hwnnw'n gorfod talu cyflog unrhyw gurad o'i boced ei hun. Gydag effaith chwyddiant, roedd yr incwm a ai i'r Coleg o Glynnog Fawr wedi cynyddu i £632 a'r incwm i'r ficer yn £158. Yn achos Llanwnda a Llanfaglan, nodwyd bod y degwm a hawlid gan y ficer yn £270 ym 1847, tra bod y Coleg yn derbyn tua £800.[3] Er mwyn cymharu'r symiau hyn gyda'u gwerth heddiw, dylid nodi bod £100 ym 1847 yn gyfwerth â £15,800 heddiw (2025).[4]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coleg yr Iesu, Catalog Archifau, [1], cyrchwyd 14.3.2025. Nodir yn y Catalog fod yr holl bapurau parthed hyn wedi'u trosglwyddo i Archifdy Caernarfon ym 1999
  2. R.T. Jenkins (gol.), ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940’’ (Llundain, 1953), t.177
  3. Cardiff and Merthyr Guardian , 20.2.1847, t.4
  4. Jim O’Donoghue, Louise Goulding, a Grahame Allen, "Consumer Price Inflation Since 1750" in Economic Trends rhif 604, tt.38-46.