Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd '''Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai''' (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer bo gymdeithasau gyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefniwyd swper blynyddol neu gyngherdd weithiau hefyd. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn ardalydd diwdiannol megis ardal y chawareli ac nid..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:19, 13 Mawrth 2025

Roedd Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai (neu, yn ôl sillafiad yr amser honno, "Uwch-gorfai") yn un o nifer bo gymdeithasau gyfeillgar a sefydlwyd yng nghanol y 19g. Byddai'r aelodau'n talu tanysgrifiad a, phe baent yn dioddef salwch neu dlodi, byddai modd cael rhywfaint o arian gan y gymdeithas fel cynhaliaeth. Trefniwyd swper blynyddol neu gyngherdd weithiau hefyd. Roedd y cymdeithasau hyn yn niferus yn ardalydd diwdiannol megis ardal y chawareli ac nid syndod felly yw'r ffaith fod nifer wedi bodoli yn Uwchgwyrfai.

Yn achos Cymdeithas Gyfeillgar Uwchgwyrfai, fe'i sefydlwyd ym 1837. Ceir adroddiad yn y wasg am y dathliadau ay Ddydd Iau Dyrchafael, 1840, pan nodwyd trydydd pen-bleydd ei sefydlu. Ymgasglodd yr aelodau yn ystod y bore yn neuadd y gymdeithas, sef Ystafell Glwb Moel Tryfan, er mwyn ystyried y cyfrifon ac ati. O'r fan honno, ymdeithiodd yr aelodau tu o i fand lleol trwy'r plwyf i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda, lle pregethodd curad y plwyf, y Parch. M. Thomas, ar Mathew 22, p.39. O'r fan honno, aethant ymlaen, yng