Robert Jones (Callestr Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Bardd gwlad a cherddor oedd '''Robert Jones (Callestr Fardd)''' a hanai'n wreiddiol o Lanelwy, lle bu ei dad yn athro ysgol. Fe'i prentisiwyd yn of alcam. Ar ôl cyfnod ym Manceinion, lle aeth (yn ôl coffád i'w fab yn ''Y Geninen'') yn gaeth i alcohol. Ymunodd â'r fyddin tua 1813. Ar ôl dychwelyd o Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel, dihangodd o'r fyddin a symud (er mwyn cuddio oddi wrth yr awdurdodau) i dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog. Yno, cyfarfu a'i wraig El..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:26, 10 Mawrth 2025

Bardd gwlad a cherddor oedd Robert Jones (Callestr Fardd) a hanai'n wreiddiol o Lanelwy, lle bu ei dad yn athro ysgol. Fe'i prentisiwyd yn of alcam. Ar ôl cyfnod ym Manceinion, lle aeth (yn ôl coffád i'w fab yn Y Geninen) yn gaeth i alcohol. Ymunodd â'r fyddin tua 1813. Ar ôl dychwelyd o Ffrainc ar ddiwedd y rhyfel, dihangodd o'r fyddin a symud (er mwyn cuddio oddi wrth yr awdurdodau) i dyddyn Cae'r Halen, Llandwrog. Yno, cyfarfu a'i wraig Ellen. Wedi i'w fab hynaf John Jones (Vulcan) gael ei eni, symudodd y teulu i Gaernarfon ac wedyn i Fethesda, lle bu'n aelod o'r gymuned farddol, a bu'n arwain corau a bandiau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Geninen, 1.3.1890, tt.20-3