Isaac B. Williams (Llew Deulyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "Adroddwr ac arweinydd poblogaidd ar gyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif diwethaf oedd '''Isaac B. Williams''', Nantlle. Fe'i adweinid ynen ang fel Llew Deulyn. Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y ''Dinesydd'' ym 1919: :::::::::::'''Llith i'r Llew''' ::::::''Lew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth'' ::::::::''Llew dewr i'n hamddiffyn,'' :::::::''Llew mawr gwl..." |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adroddwr ac arweinydd poblogaidd | Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd '''Isaac B. Williams''', [[Nantlle]] (1871-1932). Fe'i hadwaenid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd led-led y sir a chyn belled â Lerpwl i ganu ac adrodd mewn cyngherddau ac eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus, os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.<ref>Er enghraifft, "Dial y Cam", ''Yr Herald Cymraeg'', 17.1.1914, t.7</ref> | ||
Canodd [[G.W. Francis]] englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y ''Dinesydd'' ym 1919: | Fe'i ganed, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd â Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast</ref> Parhaodd i weithio yn y chwarel, gan ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.<ref>Gweler, er enghraifft, ''Cambrian News'', 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lythyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".</ref> | ||
Canodd [[Griffith William Francis|G.W. Francis]] englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y ''Dinesydd'' ym 1919: | |||
:::::::::::'''Llith i'r Llew''' | :::::::::::'''Llith i'r Llew''' | ||
::::::'' | ::::::''Llew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth'' | ||
::::::::''Llew dewr i'n hamddiffyn,'' | ::::::::''Llew dewr i'n hamddiffyn,'' | ||
:::::::''Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,'' | :::::::''Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,'' | ||
:::::::''Llew dwywlad yw Llew Deulyn''."'' | :::::::''Llew dwywlad yw Llew Deulyn''."'' | ||
::::::::::::: | :::::::::::::G.W. Francis<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 17.12.1919, t.2</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Adroddwyr]] | |||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Cantorion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:24, 5 Mawrth 2025
Adroddwr, canwr ac arweinydd poblogaidd cyngherddau ac eisteddfodau yn Nyffryn Nantlle tua dechrau'r ganrif ddiwethaf oedd Isaac B. Williams, Nantlle (1871-1932). Fe'i hadwaenid yn eang fel Llew Deulyn. Teithiodd led-led y sir a chyn belled â Lerpwl i ganu ac adrodd mewn cyngherddau ac eisteddfodau, gan ennill yn y rheiny'n fynych. Cyhoeddodd rywfaint o farddoniaeth ddigon trefnus, os braidd yn ystrydebol a rhigymllyd.[1]
Fe'i ganed, mae'n debyg, mewn tŷ yn Rhesdai Pen-yr-orsedd, Nantlle ym 1871, yn fab i Thomas B. a Hannah Williams. Roedd ei dad yn chwarelwr ac yn is-bostfeistr Nantlle, swyddi a ddaliodd am ugain mlynedd a mwy. Ar ôl tyfu'n ddigon hen, aeth Isaac i'r chwarel hefyd. Fe briododd â Mary Jones, dynes yr un oed ag ef, ac o'r un ardal, ym 1893, gan ymgartrefu yn 7 Rhesdai Nantlle; yn y man, symudodd y teulu i 18 Rhes Victoria.[2] Parhaodd i weithio yn y chwarel, gan ddod yn lladmerydd dros chwareli llechi ac yn gryn arbenigwr ar eu ffyniant.[3]
Canodd G.W. Francis englyn i'w ganmol, englyn a gyhoeddwyd yn y Dinesydd ym 1919:
- Llith i'r Llew
- Llew i'n deffro, Llew ein Dyffryn – Llew doeth
- Llew dewr i'n hamddiffyn,
- Llew mawr gwlad, Llew mwya'r glyn,
- Llew dwywlad yw Llew Deulyn."
- G.W. Francis[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Er enghraifft, "Dial y Cam", Yr Herald Cymraeg, 17.1.1914, t.7
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog 1871-1911; Mynegai Priodasau Cymru a Lloegr, 1893; gwefan FindMyPast
- ↑ Gweler, er enghraifft, Cambrian News, 19.5.1916, t.5, lle sonnir am lythyr gan Llew Deulyn am "Slate Quarrying and Science".
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 17.12.1919, t.2