Grace Gwyneddon Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''Grace Gwyneddon Davies''' (Grace Elizabeth Roberts cyn briodi) (1878-1944) yn Lerpwl i Ann a Lewis Roberts, dau o Gymry Lerpwl oedd | Ganed '''Grace Gwyneddon Davies''' (Grace Elizabeth Roberts cyn iddi briodi) (1878-1944) yn Lerpwl i Ann a Lewis Roberts, dau o Gymry Lerpwl oedd â chysylltiadau â Dwyran, Ynys Môn. Daeth yn gerddor, cantores a chasglwr alawon gwerin o fri. | ||
Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, [[Robert Gwyneddon Davies]]). | Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, [[Robert Gwyneddon Davies]]). | ||
Priododd â Robert Gwyneddon Davies ym 1909, a symudodd y cwpl i dŷ [[Graeanfryn]] ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|orsaf Llanwnda]] ac yno buont hyd eu marwolaeth. | Priododd â Robert Gwyneddon Davies ym 1909, a symudodd y cwpl i dŷ [[Graeanfryn]] ger [[Gorsaf reilffordd Llanwnda|orsaf Llanwnda]] ac yno buont hyd eu marwolaeth. Daethant yn aelodau gweithgar a blaenllaw yn ei chapel lleol, sef [[Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda]], a bu Grace yn weithgar iawn yno gyda grwpiau merched oedd yn paratoi dillad a chysuron i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth Graeanfryn hefyd yn ganolfan diwylliant Cymreig yn yr ardal. | ||
Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. | Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Ym 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân. Roedd hi'n weithgar fel trefnydd alawon ar gyfer eu perfformio ar lwyfan, wedi eu casglu gan y cantorion gwreiddiol - caneuon megis ''Titrwm Tatrwm'', ''Cob Malltraeth'' a ''Lisa Lân''. | ||
Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru | Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru gan nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell i hyrwyddo cerddoriaeth werin y genedl. Y sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig. | ||
Bu’n feirniad swyddogol yn adran canu gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1921 ac 1933 | Bu’n feirniad swyddogol yn adran canu gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1921 ac 1933 gan rannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.<ref>Wicipedia Cymraeg, erthygl; ar Grace Gwyneddon Davies, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Grace_Gwyneddon_Davies], cyrchwyd 16.10.2024</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:32, 2 Tachwedd 2024
Ganed Grace Gwyneddon Davies (Grace Elizabeth Roberts cyn iddi briodi) (1878-1944) yn Lerpwl i Ann a Lewis Roberts, dau o Gymry Lerpwl oedd â chysylltiadau â Dwyran, Ynys Môn. Daeth yn gerddor, cantores a chasglwr alawon gwerin o fri.
Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies).
Priododd â Robert Gwyneddon Davies ym 1909, a symudodd y cwpl i dŷ Graeanfryn ger orsaf Llanwnda ac yno buont hyd eu marwolaeth. Daethant yn aelodau gweithgar a blaenllaw yn ei chapel lleol, sef Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda, a bu Grace yn weithgar iawn yno gyda grwpiau merched oedd yn paratoi dillad a chysuron i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth Graeanfryn hefyd yn ganolfan diwylliant Cymreig yn yr ardal.
Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Ym 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân. Roedd hi'n weithgar fel trefnydd alawon ar gyfer eu perfformio ar lwyfan, wedi eu casglu gan y cantorion gwreiddiol - caneuon megis Titrwm Tatrwm, Cob Malltraeth a Lisa Lân.
Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru gan nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell i hyrwyddo cerddoriaeth werin y genedl. Y sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig.
Bu’n feirniad swyddogol yn adran canu gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1921 ac 1933 gan rannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.[1]