Sieffre Trefnant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "'''Sieffre Trefnant''' (neu Galfridus de Treffenant) oedd rheithor neu brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn ail hanner y 15g a fo oedd yn gyfrifol am sicrhau siarter gan y brenin Iorwerth IV yn cadarnhau hawl y sefydliad i freindaliadau a thiroedd eang a roddwyd gannoedd o flynyddoedd ynghynt i'r abaty a'r eglwys golegol. Nid oes fawr arall yn wybyddus am Sieffre Trefnant, ar wahân mai ef oedd y prif offeiriad o'r pu..." |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:00, 28 Hydref 2024
Sieffre Trefnant (neu Galfridus de Treffenant) oedd rheithor neu brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn ail hanner y 15g a fo oedd yn gyfrifol am sicrhau siarter gan y brenin Iorwerth IV yn cadarnhau hawl y sefydliad i freindaliadau a thiroedd eang a roddwyd gannoedd o flynyddoedd ynghynt i'r abaty a'r eglwys golegol.
Nid oes fawr arall yn wybyddus am Sieffre Trefnant, ar wahân mai ef oedd y prif offeiriad o'r pum offeiriad cyfranogol a rannai ddyletswyddau'r eglwys a'i his-eglwysi megis Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda ac Eglwys Llanfaglan.
Mae awgrym wedi ei wneud mai angen gwerthu peth o'r eiddo a restrir yn y siarter oedd ar Sieffre, er mwyn cychwyn ar y gwaith tra chostus o godi eglwys newydd fel canolfan bererindota ar safle'r hen sefydliad. Ac mae'n but debyg bod y rhannau hynaf o'r eglwys bresennol wedi eu codi yn ystod ei gyfnod fel profost.