Clynnog Fechan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Gwelir yr enw '''Clynnog Fechan''' weithiau ymysg eiddo Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr neu Glas ac Abaty oedd yn ystod y Canol Oesoedd. Dywedir mai gwr o'r enw Idwal a roddodd yr eiddo hwn i';r sefydliad, ynghyd â Phenrhos (na dywedir yn glir yn y ffynonellau pa Benrhos) ac hefyd Aber Braint. Mae aber yr Afon Braint ger Plas Penrhyn a Rhuddgaer, dau blasty ym mhlwyf Llangeinwen yn Ynys Môn, ac mae'n eglur hefyd fod Clynnog Fe..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:12, 27 Hydref 2024

Gwelir yr enw Clynnog Fechan weithiau ymysg eiddo Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr neu Glas ac Abaty oedd yn ystod y Canol Oesoedd. Dywedir mai gwr o'r enw Idwal a roddodd yr eiddo hwn i';r sefydliad, ynghyd â Phenrhos (na dywedir yn glir yn y ffynonellau pa Benrhos) ac hefyd Aber Braint. Mae aber yr Afon Braint ger Plas Penrhyn a Rhuddgaer, dau blasty ym mhlwyf Llangeinwen yn Ynys Môn, ac mae'n eglur hefyd fod Clynnog Fechan ym mhlwyf LLangeinwen. Yn wir, Clynnog yw enw'r fferm yn union i'r gorllewin o eglwys y plwyf hwnnw.

Roedd Eglwys Clynnog Fawr yn eglwys gyfrannogol ("portionary church") yn y Canol Oesoedd hwyr ac roedd ficer yn cael ei benodi i bob cyfran gan reithor y fam egwlys . Clynnog Fechan oedd un o'r pum cyfran hyn, a chyfranogydd Clynnog Fechan oedd ficer Llangeinwen felly.[1]

Nid oedd y ffaith fod Clynnog Fechan yn rhan o eiddo a dylanwad Eglwys a rheithor Clynnog yn golygu bod unrhyw gysylltiad mwy na hynny efo Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Colin A. Gresham, “A Further Episode in the History of Clynnog Fawr”, Trafodion Anrh. Gym. y Cymmrodorion, 1966, Rhan II, , t.300