Tal-y-mignedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Tal-y-mignedd''' yn enw ar dair fferm ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle: Tal-y-mignedd Isaf, Tal-y-mignedd Ganol a Tal-y-mignedd Uchaf. Mae...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Tal-y-mignedd''' yn enw ar dair fferm ym mhen uchaf [[Dyffryn Nantlle]]: [[Tal-y-mignedd Isaf]], [[Tal-y-mignedd Ganol]] a [[Tal-y-mignedd Uchaf]]. Mae mynydd o'r enw [[Mynydd Tal-y-mignedd]] yn un o brif gopaon [[Crib Nantlle]]. Roedd [[John Evans, Chwarel Cilgwyn]] yw un o ddisgynyddion Tal-y-mignedd.
Mae '''Tal-y-mignedd''' yn enw ar dair fferm ym mhen uchaf [[Dyffryn Nantlle]]: [[Tal-y-mignedd Isaf]], [[Tal-y-mignedd Ganol]] a [[Tal-y-mignedd Uchaf]]. Mae mynydd o'r enw [[Mynydd Tal-y-mignedd]] yn un o brif gopaon [[Crib Nantlle]]. [[John Evans, Chwarel Cilgwyn]] oedd un o ddisgynyddion Tal-y-mignedd.
 
Ceir y ffurf ''Talmigneth'' ym 1638 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a ''Tall migneth'' mewn dau gyfeiriad o 1658 (Casgliad Nannau a Chasgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Yn asesiadau'r Dreth Dir ym 1770 a 1771 gwelir yr ynganiad llafar ''Talmingnadd Ucha / Talmignadd Isa''. Yn y ffynhonnell honno am 1816 cofnodwyd ''Talmignant Uchaf'' a ''Talmignant Isaf'', ond dyna'r unig enghraifft a welwyd o'r newid hwn yn enw ''Tal y Mignedd''. Ystyr ''mign'' yw tir corsiog, gwlyb neu fwdlyd. Un o'r ffurfiau lluosog yw ''mignedd'': ceir ''mignau'' a ''mignïoedd'' hefyd. Felly enw disgrifiadol yw hwn. Saif ''Tal y Mignedd Uchaf'' a ''Tal y Mignedd Isaf'' ar ''dal'' neu ben eithaf y corsydd sydd yn yr ardal. Ceir yr enw ''mign'' mewn nifer o enwau lleoedd, megis annedd o'r enw ''Mignant'' yn Llanllechid ac ucheldir ''Y Migneint'' uwchlaw Llan Ffestiniog. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.234-5</ref>
 
== Cyfeiriadau ==


[[categori:Enwau lleoedd]]
[[categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Ffermydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:50, 14 Mehefin 2024

Mae Tal-y-mignedd yn enw ar dair fferm ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle: Tal-y-mignedd Isaf, Tal-y-mignedd Ganol a Tal-y-mignedd Uchaf. Mae mynydd o'r enw Mynydd Tal-y-mignedd yn un o brif gopaon Crib Nantlle. John Evans, Chwarel Cilgwyn oedd un o ddisgynyddion Tal-y-mignedd.

Ceir y ffurf Talmigneth ym 1638 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Tall migneth mewn dau gyfeiriad o 1658 (Casgliad Nannau a Chasgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Yn asesiadau'r Dreth Dir ym 1770 a 1771 gwelir yr ynganiad llafar Talmingnadd Ucha / Talmignadd Isa. Yn y ffynhonnell honno am 1816 cofnodwyd Talmignant Uchaf a Talmignant Isaf, ond dyna'r unig enghraifft a welwyd o'r newid hwn yn enw Tal y Mignedd. Ystyr mign yw tir corsiog, gwlyb neu fwdlyd. Un o'r ffurfiau lluosog yw mignedd: ceir mignau a mignïoedd hefyd. Felly enw disgrifiadol yw hwn. Saif Tal y Mignedd Uchaf a Tal y Mignedd Isaf ar dal neu ben eithaf y corsydd sydd yn yr ardal. Ceir yr enw mign mewn nifer o enwau lleoedd, megis annedd o'r enw Mignant yn Llanllechid ac ucheldir Y Migneint uwchlaw Llan Ffestiniog. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.234-5