Garth Dorwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fferm rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni yw Garth Dorwen a'i phrif hynodrwydd yw bod chwedl hynafol yn ei chysylltu â'r Tylwyth Teg. Gweler yr erthygl Chwedl...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm rhwng Pen-y-groes a Llanllyfni yw Garth Dorwen a'i phrif hynodrwydd yw bod chwedl hynafol yn ei chysylltu â'r Tylwyth Teg. Gweler yr erthygl Chwedl Garth Dorwen yn Cof y Cwmwd.
Mae fferm '''Garthdorwen neu Garth Dorwen''' i'r gogledd o bentref [[Pen-y-groes]], bron ar y ffin â phlwyf [[Llanllyfni]]. Ei phrif hynodrwydd yw bod chwedl hynafol yn ei chysylltu â'r Tylwyth Teg. Gweler yr erthygl [[Chwedl Garth Dorwen]] yn '''Cof y Cwmwd'''.
 
O ran ystyr yr enw ceir dwy elfen, ''garth'' a ''dorwen'' - fel rheol wedi ei ysgrifennu fel un gair. Gall ''garth'' olygu cefnen neu allt, fel yn enw Nant y Garth ger Bangor. Ond gall hefyd olygu cae amgaeëdig, iard neu gwrt. Mae'n debyg fod yr ail elfen, ''dorwen'', yn gyfuniad o'r enw ''dôr'' a'r ansoddair ''gwyn'', a hwnnw wedi troi'n ''gwen'' yn dilyn yr enw benywaidd unigol ''dôr''. Fodd bynnag, ym 1622-3 cyfeirir at y lle fel ''Tythyn y garth derwyn'' (Casgliad Garthewin, Prifysgol Bangor). Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru defnyddir ''derwin'' am rywle lle mae llawer o goed derw yn tyfu, fel a geir yn Bwlchderwin a'r ffermydd Derwin Fawr a Derwin Bach sydd heb fod ymhell. Mae posibilrwydd felly mai gallt â llawer o goed derw yn tyfu arni oedd ystyr wreiddiol yr enw. Fodd bynnag, nid oes sôn am y ffurf ''derwyn'' mewn unrhyw ffynonellau eraill a ddaeth i'r amlwg. Ond mae'r atgof am y derw yn aros. Y ffurf ''Garth derwan'' a geir yn llyfr treth plwyf [[Llandwrog]] ym 1845 a ''Gallt Derwen'' sydd yn asesiad y Dreth Dir ym 1853. Ond ''Garthdorwen'' yw'r ffurf ym mwyafrif y cofnodion. Dyna a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm, ar y mapiau Ordnans ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post.
 
Yn Rhestr Pennu Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 cofnodir cae o'r enw ''Werglodd forwyn'' ar dir Garthdorwen - dywedir mai atgof sydd yma o'r chwedl am Eilian neu Elian, morwyn Garthdorwen, a ddihangodd i briodi ag un o lanciau'r Tylwyth Teg (gweler y cyfeiriad at y chwedl uchod). Yn ôl Syr John Rhŷs roedd yno gae o'r enw ''Cae Eilian'' hefyd ar un adeg. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.164-5.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:48, 14 Mehefin 2024

Mae fferm Garthdorwen neu Garth Dorwen i'r gogledd o bentref Pen-y-groes, bron ar y ffin â phlwyf Llanllyfni. Ei phrif hynodrwydd yw bod chwedl hynafol yn ei chysylltu â'r Tylwyth Teg. Gweler yr erthygl Chwedl Garth Dorwen yn Cof y Cwmwd.

O ran ystyr yr enw ceir dwy elfen, garth a dorwen - fel rheol wedi ei ysgrifennu fel un gair. Gall garth olygu cefnen neu allt, fel yn enw Nant y Garth ger Bangor. Ond gall hefyd olygu cae amgaeëdig, iard neu gwrt. Mae'n debyg fod yr ail elfen, dorwen, yn gyfuniad o'r enw dôr a'r ansoddair gwyn, a hwnnw wedi troi'n gwen yn dilyn yr enw benywaidd unigol dôr. Fodd bynnag, ym 1622-3 cyfeirir at y lle fel Tythyn y garth derwyn (Casgliad Garthewin, Prifysgol Bangor). Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru defnyddir derwin am rywle lle mae llawer o goed derw yn tyfu, fel a geir yn Bwlchderwin a'r ffermydd Derwin Fawr a Derwin Bach sydd heb fod ymhell. Mae posibilrwydd felly mai gallt â llawer o goed derw yn tyfu arni oedd ystyr wreiddiol yr enw. Fodd bynnag, nid oes sôn am y ffurf derwyn mewn unrhyw ffynonellau eraill a ddaeth i'r amlwg. Ond mae'r atgof am y derw yn aros. Y ffurf Garth derwan a geir yn llyfr treth plwyf Llandwrog ym 1845 a Gallt Derwen sydd yn asesiad y Dreth Dir ym 1853. Ond Garthdorwen yw'r ffurf ym mwyafrif y cofnodion. Dyna a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm, ar y mapiau Ordnans ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post.

Yn Rhestr Pennu Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 cofnodir cae o'r enw Werglodd forwyn ar dir Garthdorwen - dywedir mai atgof sydd yma o'r chwedl am Eilian neu Elian, morwyn Garthdorwen, a ddihangodd i briodi ag un o lanciau'r Tylwyth Teg (gweler y cyfeiriad at y chwedl uchod). Yn ôl Syr John Rhŷs roedd yno gae o'r enw Cae Eilian hefyd ar un adeg. [1]

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.164-5.