John Jones (Sion Caeronwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Er bod '''John Jones, neu Sion Caeronwy''', bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caer...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:46, 13 Mehefin 2024

Er bod John Jones, neu Sion Caeronwy, bron yn gwbl anllythrennog, roedd yn fardd gwlad medrus a rhwydd a oedd yn byw tua diwedd y 18g. yn fferm Caeronwy, ar lethrau Mynydd Mawr ym mhlwyf Llandwrog.

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[1] Roedd Dafydd yn ei gyfrif yn well nag ef ei hun am fywiogrwydd ei awen a rhwyddineb ei allu i gyfansoddi, ac yn arbennig am gyfansoddi cerddi duchan. Oherwydd ei ddiffyg addysg, fodd bynnag, meddid nad oedd y drefn a’r coethder angenrheidiol yn ei gerddi iddynt gael eu cynnwys yn llyfr Dafydd Ddu, Corff y Gainc a gyhoeddwyd tua 1810.

Gan nad oedd yn medru ysgrifennu, pan fyddai ganddo gerddi yr oedd yn awyddus i’w cadw arferai groesi’r mynydd i gartref Dafydd Ddu yn y Waunfawr, lle byddai Dafydd yn eu gosod i lawr ar bapur.

Arferai ffermio Caeronwy, ond wedi i’r dreth godi’n sylweddol, gadawyd y fferm a chodi tŷ ac amgáu ychydig o gaeau o’r comin gerllaw, gan alw’r lle yn Gastell Caeronwy ar ôl olion hen amddiffynfa o’r Oes Haearn oedd gerllaw.[2]

=Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2