Telyrniau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tafarn ger saflen Dyrpeg Gelli ar dir fferm Gelli-ffrydiau oedd '''Talyrniau''', a hynny tua chanol y 18g. Meddir mai'r dafarnwraig oedd Marged uch...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:24, 11 Mehefin 2024

Tafarn ger saflen Dyrpeg Gelli ar dir fferm Gelli-ffrydiau oedd Talyrniau, a hynny tua chanol y 18g. Meddir mai'r dafarnwraig oedd Marged uch Ifan, y ddynes dalentog a chryf chwedlonol tra bod hi'n byw yn Nyffryn Nantlle. Dywedir y byddai Marged yn chwarae ei thelyn a'i chrwth o flaen y drws a'r cwsmeriaid yn dawnsio o'i chwmpas pan oedd yr hin yn caniatáu.