Glynn Bodvel Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Irion y dudalen Gwynn Bodvel Lewis i Glynn Bodvel Lewis heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Gwynn Bodvel Lewis''' (1788-1832), [[Mount Hazel]], [[Llandwrog]] yn offeiriad ac yn fardd. Roedd yn unig fab i Thomas Lewis, Casglwr Tollau Caernarfon, ac yn or-ŵyr i un Mary Bodvel, ar ochr ei fam, Mary Hughes. Mynychodd Coleg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon 29 Rhagfyr 1810, a chael ei drwyddedu fel curad plwyf [[Llanwnda]]. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad gan Esgob Bangor, ym mis Medi 1812.<ref>''North Wales Gazette'', 24.9.1812, t.3</ref> Fe'i benodwyd yn gurad Llanwnda a LLanfaglan.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor during Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), tt.52, 122-3</ref> Mae'n debyg iddo barhau fel curad yn y plwyfi hynny tan 1815 pan benodwyd ficer a churad newydd i'r plwyf,<ref>Archifdy Caearnarfon, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Llanwnda</ref> ond gan fod ficeriaid yn gyfrifol am y plwyfi gydol yr amser, dichon iddo dreulio ei amser wedyn fel tirfeddiannwr a gŵr cymharol gefnog a allai fwynhau bywyd o hamdden. Serch hynny, wrth briodi merch i offeiriad a'u merch hwythau'n priodi offeiriad hefyd, mae'n debyg ei fod yn cadw ei ddiddordeb ym materion eglwysig.
Roedd '''Glynn Bodvel Lewis''' (1788-1832), [[Mount Hazel]], [[Llandwrog]] yn offeiriad ac yn fardd. Roedd yn unig fab i Thomas Lewis, Casglwr Tollau Caernarfon, ac yn or-ŵyr i un Mary Bodvel, ar ochr ei fam, Mary Hughes. Mynychodd Coleg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon 29 Rhagfyr 1810, a chael ei drwyddedu fel curad plwyf [[Llanwnda]]. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad gan Esgob Bangor, ym mis Medi 1812.<ref>''North Wales Gazette'', 24.9.1812, t.3</ref> Fe'i benodwyd yn gurad Llanwnda a LLanfaglan.<ref>Arthur Ivor Pryce, ''The Diocese of Bangor during Three Centuries'', (Caerdydd, 1929), tt.52, 122-3</ref> Mae'n debyg iddo barhau fel curad yn y plwyfi hynny tan 1815 pan benodwyd ficer a churad newydd i'r plwyf,<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Llanwnda</ref> ond gan fod ficeriaid yn gyfrifol am y plwyfi gydol yr amser, dichon iddo dreulio ei amser wedyn fel tirfeddiannwr a gŵr cymharol gefnog a allai fwynhau bywyd o hamdden. Serch hynny, wrth briodi merch i offeiriad a'u merch hwythau'n priodi offeiriad hefyd, mae'n debyg ei fod yn cadw ei ddiddordeb ym materion eglwysig.


Priododd ei wraig, Jane Williams, merch y Parch William Willams, rheithor Botwnnog, ym 1812.<ref>''The Cambrian'', 13.6.1812, t.3</ref> Bu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch, Mary Bodvel Lewis a briododd y Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg, Castell-nedd ym 1836.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.176; ''Y Gwladgarwr'', Cyf.IV, rhif 48 (Rhagfyr 1836), t.338</ref> Bu i'w weddw, Jane, fyw nes iddi fod yn 96 oed. Bu farw yn Clifton, Bryste, 23 Chwefror 1885.<ref>''Bristol Times and Mirror'', 7.3.1885, t.7</ref>
Priododd ei wraig, Jane Williams, merch y Parch William Willams, rheithor Botwnnog, ym 1812.<ref>''The Cambrian'', 13.6.1812, t.3</ref> Bu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch, Mary Bodvel Lewis a briododd y Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg, Castell-nedd ym 1836.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.176; ''Y Gwladgarwr'', Cyf.IV, rhif 48 (Rhagfyr 1836), t.338</ref> Bu i'w weddw, Jane, fyw nes iddi fod yn 96 oed. Bu farw yn Clifton, Bryste, 23 Chwefror 1885.<ref>''Bristol Times and Mirror'', 7.3.1885, t.7</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:01, 6 Mehefin 2024

Roedd Glynn Bodvel Lewis (1788-1832), Mount Hazel, Llandwrog yn offeiriad ac yn fardd. Roedd yn unig fab i Thomas Lewis, Casglwr Tollau Caernarfon, ac yn or-ŵyr i un Mary Bodvel, ar ochr ei fam, Mary Hughes. Mynychodd Coleg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon 29 Rhagfyr 1810, a chael ei drwyddedu fel curad plwyf Llanwnda. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad gan Esgob Bangor, ym mis Medi 1812.[1] Fe'i benodwyd yn gurad Llanwnda a LLanfaglan.[2] Mae'n debyg iddo barhau fel curad yn y plwyfi hynny tan 1815 pan benodwyd ficer a churad newydd i'r plwyf,[3] ond gan fod ficeriaid yn gyfrifol am y plwyfi gydol yr amser, dichon iddo dreulio ei amser wedyn fel tirfeddiannwr a gŵr cymharol gefnog a allai fwynhau bywyd o hamdden. Serch hynny, wrth briodi merch i offeiriad a'u merch hwythau'n priodi offeiriad hefyd, mae'n debyg ei fod yn cadw ei ddiddordeb ym materion eglwysig.

Priododd ei wraig, Jane Williams, merch y Parch William Willams, rheithor Botwnnog, ym 1812.[4] Bu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch, Mary Bodvel Lewis a briododd y Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg, Castell-nedd ym 1836.[5] Bu i'w weddw, Jane, fyw nes iddi fod yn 96 oed. Bu farw yn Clifton, Bryste, 23 Chwefror 1885.[6]

Roedd Eben Fardd yn ei gyfrif yn fardd o bwys, a nododd ei fod yn un o feirniaid Eisteddfod fawr Caernarfon, 1821. Clywodd Eben G.B. Lewis yn darllen peth o'i waith, sef cân o fawl i Arfon, a oedd wedi cael ei hysbrydoli gan folawd i Eifionydd gan Eben Fardd. Digwyddodd hyn tua 1828. Arferai G.B. Lewis ysgrifennu ei waith barddol mewn llyfr mawr gyda chlo arno - ond ni chafodd Eben ganiatâd ganddo i wneud copi o'r gwaith.[7]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 24.9.1812, t.3
  2. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries, (Caerdydd, 1929), tt.52, 122-3
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Llanwnda
  4. The Cambrian, 13.6.1812, t.3
  5. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.176; Y Gwladgarwr, Cyf.IV, rhif 48 (Rhagfyr 1836), t.338
  6. Bristol Times and Mirror, 7.3.1885, t.7
  7. Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, t.235