Hywel Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Hywel Gethin''' o blwyf [[Clynnog Fawr]] yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g.<ref>''Y Bywgraffiadur ar lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HYWE-GET-1485], cyrchwyd 4.6.2024</ref> Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond | Roedd '''Hywel Gethin''' (''fl.'' 1475-1500) o blwyf [[Clynnog Fawr]] yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g.<ref>''Y Bywgraffiadur ar lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HYWE-GET-1485], cyrchwyd 4.6.2024</ref> Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond dim ond dau o gywyddau sydd yn bendant o'i eiddo ac sydd wedi goroesi. Un yw cywydd yn canmol pedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy. Mae'r cywydd ar gael mewn llythyr a anfonodd Eben Fardd at olygydd Y Brython ym 1860<ref>Eben Fardd, llythyr yn ''Y Brython'', Mehefin 1860, tt.233-4</ref>. Yr ail gerdd yw cywydd i ganmol tafarnwraig o Gorwen. Mae nifer o hen lyfrau wedi honni ei fod yn byw tua 1570-1600, ond mae'n amlwg fod Eben Fardd ac eraill wedi cael eu camarwain, gan fod y cywydd i feibion Rhys ap Madog yn canmol pedwar brawd a oedd yn byw tua 1500. | ||
Yr ail gywydd i oroesi, ac sydd wedi ei gyhoeddi, yw'r cywydd i Leucu ferch Fleddyn, tafarnwraig o Gorwen. Mae hwn yn rhan o lawysgrif ychwanegol yr Amgueddfa Brydeinig, 14967. Ymddangos o'r cyd-destun mai aelod o deulu Nannau oedd Lleucu, ac o dras bonheddig felly.<ref>E. Bachellery, ''Le poète Hywel Gethin et le MS. British Museum Additional 14967'' yn ''Études Celtiques'', ffasc.5.2 (1950), tt.248-259, [https://www.persee.fr/issue/ecelt_0373-1928_1950_num_5_2]</ref> | Yr ail gywydd i oroesi, ac sydd wedi ei gyhoeddi, yw'r cywydd i Leucu ferch Fleddyn, tafarnwraig o Gorwen. Mae hwn yn rhan o lawysgrif ychwanegol yr Amgueddfa Brydeinig, 14967. Ymddangos o'r cyd-destun mai aelod o deulu Nannau oedd Lleucu, ac o dras bonheddig felly.<ref>E. Bachellery, ''Le poète Hywel Gethin et le MS. British Museum Additional 14967'' yn ''Études Celtiques'', ffasc.5.2 (1950), tt.248-259, [https://www.persee.fr/issue/ecelt_0373-1928_1950_num_5_2]</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:30, 4 Mehefin 2024
Roedd Hywel Gethin (fl. 1475-1500) o blwyf Clynnog Fawr yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g.[1] Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond dim ond dau o gywyddau sydd yn bendant o'i eiddo ac sydd wedi goroesi. Un yw cywydd yn canmol pedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy. Mae'r cywydd ar gael mewn llythyr a anfonodd Eben Fardd at olygydd Y Brython ym 1860[2]. Yr ail gerdd yw cywydd i ganmol tafarnwraig o Gorwen. Mae nifer o hen lyfrau wedi honni ei fod yn byw tua 1570-1600, ond mae'n amlwg fod Eben Fardd ac eraill wedi cael eu camarwain, gan fod y cywydd i feibion Rhys ap Madog yn canmol pedwar brawd a oedd yn byw tua 1500.
Yr ail gywydd i oroesi, ac sydd wedi ei gyhoeddi, yw'r cywydd i Leucu ferch Fleddyn, tafarnwraig o Gorwen. Mae hwn yn rhan o lawysgrif ychwanegol yr Amgueddfa Brydeinig, 14967. Ymddangos o'r cyd-destun mai aelod o deulu Nannau oedd Lleucu, ac o dras bonheddig felly.[3]