Hywel Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Hywel Gethin''' o blwyf Clynnog Fawr yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g. Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond yr unig waith...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:30, 4 Mehefin 2024
Roedd Hywel Gethin o blwyf Clynnog Fawr yn fardd a oedd yn byw tua diwedd y 15g. Meddir ei fod yn achyddwr yn ogystal â bardd ond yr unig waith o'i eiddo sydd wedi goroesi yw cywydd yn canmol pedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy.[1]
Mae'r cywydd ar gael mewn llythyr a anfonodd Eben Fardd at olygydd Y Brython ym 1860.[2]