Ysgol Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Sefydlwyd '''Ysgol Frytanaidd Llanllyfni''' yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. | Sefydlwyd '''Ysgol Frytanaidd Llanllyfni''' yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. | ||
Athro cyntaf yr ysgol oedd [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]] ar ôl dwy flynedd fel athro [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr]]. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, <ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.86</ref>ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol. | Athro cyntaf yr ysgol oedd [[Howell Roberts (Hywel Tudur)]] a ddaeth yno ar ôl dwy flynedd fel athro [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr]]. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, <ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.86</ref>ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol. Cafodd ei droi o'r ysgol ar ddechrau 1874 pan aeth yr ysgol dan reolaeth y Bwrdd Ysgol.<ref>Gweler erthygl yn y Cof amdano</ref> | ||
Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal [[Pen-y-groes]] ond fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd [[Ysgol Bro Lleu|ysgol newydd]] yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.<ref>''North Wales Chronicle'', 5.6.1869, t.3</ref> | Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal [[Pen-y-groes]] ond, fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd [[Ysgol Bro Lleu|ysgol newydd]] yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.<ref>''North Wales Chronicle'', 5.6.1869, t.3</ref> | ||
Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas | Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas Frytanaidd i ofal Bwrdd Ysgol newydd etholedig plwyf [[Llanllyfni]]. Aed ati i wella’r adeilad nes gellid ei ddisgrifio yn y papur newydd fel “a very good and convenient schoolroom”, ac fe agorodd ar ei newydd wedd fis Ionawr 1874. James Evans, a ddaeth o Goleg Normal Bangor, gafodd ei benodi’n brifathro, a phenodwyd un Miss Hughes, a oedd cyn hynny'n ddisgybl-athro yng Nghaergybi, yn athrawes gynorthwyol.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 17.1.1874, t.5</ref>. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:24, 26 Mai 2024
Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd Llanllyfni yn y pentref ym 1863, a chynhaliwyd canmlwyddiant ei sefydlu fis Mehefin 1963, pan oedd Mr Glyn Owen yn brifathro. Mae’r ysgol, a elwir bellach yn Ysgol Gynradd Llanllyfni, yn dal yn agored gyda thua 90 o ddisgyblion. Dysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.
Athro cyntaf yr ysgol oedd Howell Roberts (Hywel Tudur) a ddaeth yno ar ôl dwy flynedd fel athro Ysgol Gynradd Clynnog Fawr. Er ei fod yn fardd a chynganeddwr nodedig yn ei ddydd ac yn ŵr o ddiwylliant, [1]ymfalchïodd yn ei ddefnydd o'r "Welsh Not" a'i lwyddiant mewn alltudio'r Gymraeg o'r ysgol. Cafodd ei droi o'r ysgol ar ddechrau 1874 pan aeth yr ysgol dan reolaeth y Bwrdd Ysgol.[2]
Yn wreiddiol, roedd Ysgol Llanllyfni yn gorfod derbyn plant o ardal Pen-y-groes ond, fel y tyfodd yr ardal honno, teimlid fod rhaid cael ysgol newydd yno, ac ar ddechrau’r 1870au codwyd ysgol newydd yno gan y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd.[3]
Ym mis Hydref 1873 trosglwyddwyd Ysgol Llanllyfni o’r Gymdeithas Frytanaidd i ofal Bwrdd Ysgol newydd etholedig plwyf Llanllyfni. Aed ati i wella’r adeilad nes gellid ei ddisgrifio yn y papur newydd fel “a very good and convenient schoolroom”, ac fe agorodd ar ei newydd wedd fis Ionawr 1874. James Evans, a ddaeth o Goleg Normal Bangor, gafodd ei benodi’n brifathro, a phenodwyd un Miss Hughes, a oedd cyn hynny'n ddisgybl-athro yng Nghaergybi, yn athrawes gynorthwyol.[4].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma