Glynmeibion Isaf a Glynmeibion Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif ffermydd '''Glynmeibion Isaf''' a '''Glynmeibion Mawr''' rhwng Y Groeslon a Charmel. Ym 1601 ceir y ffurf ''Tir yn llyn y meibion issa...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 4: Llinell 4:


Nid oes modd gwybod pwy oedd y ''meibion'' yn y priodolid y llyn neu lynnoedd iddynt. Gallai ''meibion'' gyfeirio at ddynion yn gyffredinol ond, yn yr achos hwn, mae'n fwy na thebyg eu bod yn cyfeirio at ryw deulu neu wehelyth arbennig. Dirgelwch nas datrysir bellach mae'n siŵr.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.170-1</ref>
Nid oes modd gwybod pwy oedd y ''meibion'' yn y priodolid y llyn neu lynnoedd iddynt. Gallai ''meibion'' gyfeirio at ddynion yn gyffredinol ond, yn yr achos hwn, mae'n fwy na thebyg eu bod yn cyfeirio at ryw deulu neu wehelyth arbennig. Dirgelwch nas datrysir bellach mae'n siŵr.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.170-1</ref>
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:05, 24 Mai 2024

Saif ffermydd Glynmeibion Isaf a Glynmeibion Mawr rhwng Y Groeslon a Charmel. Ym 1601 ceir y ffurf Tir yn llyn y meibion issaphe (Casgliad Poole, Gwasanaeth Archifau Gwynedd) a chofnodwyd Llyn y meibion mewn ewyllys ym 1667. Llyn y Meibion bach a Llyn y meibion mawr a geir ym 1795 (Gasgliad Llanfair a Brynodol, LlGC), a ffurfiau cyffelyb, gyda pheth amrywiadau ar y sillafu, a geir yn asesiadau'r Dreth Dir rhwng 1770 a 1778.

Mae'n amlwg mai Llyn y Meibion, neu Llyn y Meibion Mawr a Llyn y Meibion Bach oedd enwau'r ddau annedd hyn i ddechrau, er y defnyddiwyd yr ansoddair isaf (issaphe) yn y cyfeiriad cynharaf a welwyd o 1601. Gwahaniaethwyd rhyngddynt yn ddiweddarach trwy ddefnyddio isaf ac uchaf, ond erbyn hyn defnyddir y ddau ansoddair anghymarus isaf a mawr. Sylwer hefyd mai llyn oedd yr elfen gyntaf yn wreiddiol, nid glyn, a cheir ambell i wyriad i llan a llain mewn rhai ffynonellau. Fodd bynnag, yn asesiad y Dreth Dir ym 1778 cofnodir Glyn y meibeon, a Llunymeibeon / Glunymeibion a gofnodwyd y flwyddyn ddilynol. Glyn yw'r elfen gyntaf yn y mwyafrif llethol o enghreifftiau o hynny ymlaen.

Nid oes modd gwybod pwy oedd y meibion yn y priodolid y llyn neu lynnoedd iddynt. Gallai meibion gyfeirio at ddynion yn gyffredinol ond, yn yr achos hwn, mae'n fwy na thebyg eu bod yn cyfeirio at ryw deulu neu wehelyth arbennig. Dirgelwch nas datrysir bellach mae'n siŵr.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.170-1