Llwybr y Cob: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Aber Afon Carrog, Llandwrog.jpg|bawd|de|400px|Llwybr y Cob wrth ochr Afon Carrog ger Chatham]] | [[Delwedd:Aber Afon Carrog, Llandwrog.jpg|bawd|de|400px|Llwybr y Cob wrth ochr Afon Carrog ger Chatham]] | ||
Mae '''Llwybr y Cob''' yn rhedeg ar hyd y cob (neu forglawdd, arglawdd) sydd yn ymestyn o dŷ Glan-yr-afon ar y ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Llandwrog]] heibio i Chatham ar lan arall yr [[Afon Carrog]] ac wedyn ar hyd ochr [[Y Foryd]] heibio i faes carafannau Morfa Lodge bron yr holl ffordd i [[Belan]]. Fe godwyd y cob o dywod a cherrig ar yr adeg yr amgaewyd [[Morfa Dinlle]] ac mae'n dal i weithredu fel amddiffyniad rhag llifogydd. | Mae '''Llwybr y Cob''' yn rhedeg ar hyd y cob (neu forglawdd, arglawdd) sydd yn ymestyn o dŷ Glan-yr-afon ar y ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad [[Llandwrog]] heibio i [[Chatham]] ar lan arall yr [[Afon Carrog]] ac wedyn ar hyd ochr [[Y Foryd]] heibio i faes carafannau Morfa Lodge bron yr holl ffordd i [[Belan]]. Fe godwyd y cob o dywod a cherrig ar yr adeg yr amgaewyd [[Morfa Dinlle]] ac mae'n dal i weithredu fel amddiffyniad rhag llifogydd. | ||
Y cynghorau plwyf oedd yn bennaf gyfrifol am adnabod llwybrau cyhoeddus a'u cofrestru, a hynny yn ystod y 1950au, ac arweiniodd hyn at ambell i anghysondeb a olygai fod rhai hawliau tramwy'n cael eu colli. Un o'r colledion mwyaf oedd pen gogleddol Llwybr y Cob. Cofrestrwyd rhan y llwybr oedd yn Llandwrog, ond methodd cyngor Llanwnda â chofrestru'r darn oedd yn y plwyf hwnnw, a oedd yn mynd hyd at bendraw penrhyn [[Belan]] - y pryd hynny, roedd pendraw'r penrhyn yn rhan o blwyf Llanwnda. Erbyn heddiw, nid oes hawl i'r cyhoedd gyrraedd pen draw'r penrhyn ond ar hyd y traeth ar adegau pan fydd y llanw allan.<ref>Map diffiniol llwybrau cyhoeddus Gwynedd; gwybodaeth bersonol</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Llwybrau a ffyrdd trol]] | [[Categori:Llwybrau a ffyrdd trol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:21, 8 Mai 2024
Mae Llwybr y Cob yn rhedeg ar hyd y cob (neu forglawdd, arglawdd) sydd yn ymestyn o dŷ Glan-yr-afon ar y ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad Llandwrog heibio i Chatham ar lan arall yr Afon Carrog ac wedyn ar hyd ochr Y Foryd heibio i faes carafannau Morfa Lodge bron yr holl ffordd i Belan. Fe godwyd y cob o dywod a cherrig ar yr adeg yr amgaewyd Morfa Dinlle ac mae'n dal i weithredu fel amddiffyniad rhag llifogydd.
Y cynghorau plwyf oedd yn bennaf gyfrifol am adnabod llwybrau cyhoeddus a'u cofrestru, a hynny yn ystod y 1950au, ac arweiniodd hyn at ambell i anghysondeb a olygai fod rhai hawliau tramwy'n cael eu colli. Un o'r colledion mwyaf oedd pen gogleddol Llwybr y Cob. Cofrestrwyd rhan y llwybr oedd yn Llandwrog, ond methodd cyngor Llanwnda â chofrestru'r darn oedd yn y plwyf hwnnw, a oedd yn mynd hyd at bendraw penrhyn Belan - y pryd hynny, roedd pendraw'r penrhyn yn rhan o blwyf Llanwnda. Erbyn heddiw, nid oes hawl i'r cyhoedd gyrraedd pen draw'r penrhyn ond ar hyd y traeth ar adegau pan fydd y llanw allan.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Map diffiniol llwybrau cyhoeddus Gwynedd; gwybodaeth bersonol