Llwynaethnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ffermdy ym mhentref Trefor'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ffermdy ym mhentref [[Trefor
Ffermdy ym mhentref [[Trefor]] yw '''Llwynaethnen'''. Fe'i hadeiladwyd yn yr 16g ac fe'i hailadeiladwyd yn rhannol ym 1718. Mae'r muriau wedi eu hadeiladu o rwbel a morter ar sylfaen o gerrig mawr. Mae'r to a brest y simnai wedi eu gorchuddio â llechi bychain, trwchus o liw porffor. Mae gan borth y drws ar yr ochr ogleddol fwa hanner-cylch o gerrig heb eu trin; mae porth drws gyferbyn ar yr ochr ddeheuol wedi cael ei gau. Mae'r ffenestri ar y ddau lawr yn sgwâr lle maent heb gael eu newid ac mae ganddynt siliau o lechi llyfn. Mae'r simnai orllewinol wedi cael ei hailadeiladu a hefyd ran uchaf y talcen ac mae'r llythrennau a'r dyddiad N/HT/1718 i'w gweld mewn tabled ar ochr y talcen.
 
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:31, 11 Ebrill 2024

Ffermdy ym mhentref Trefor yw Llwynaethnen. Fe'i hadeiladwyd yn yr 16g ac fe'i hailadeiladwyd yn rhannol ym 1718. Mae'r muriau wedi eu hadeiladu o rwbel a morter ar sylfaen o gerrig mawr. Mae'r to a brest y simnai wedi eu gorchuddio â llechi bychain, trwchus o liw porffor. Mae gan borth y drws ar yr ochr ogleddol fwa hanner-cylch o gerrig heb eu trin; mae porth drws gyferbyn ar yr ochr ddeheuol wedi cael ei gau. Mae'r ffenestri ar y ddau lawr yn sgwâr lle maent heb gael eu newid ac mae ganddynt siliau o lechi llyfn. Mae'r simnai orllewinol wedi cael ei hailadeiladu a hefyd ran uchaf y talcen ac mae'r llythrennau a'r dyddiad N/HT/1718 i'w gweld mewn tabled ar ochr y talcen.