Bryn Bugeiliaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ym 1839 cofnodwyd '''Brynbugeiliaid''' a '''Brynbugeiliaid bach''' ar anheddau ym mhlwyf Llandwrog i'r gogledd-ddwyrain o Garmel. Yng Nghyf...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:58, 25 Mawrth 2024

Ym 1839 cofnodwyd Brynbugeiliaid a Brynbugeiliaid bach ar anheddau ym mhlwyf Llandwrog i'r gogledd-ddwyrain o Garmel. Yng Nghyfrifiad 1851 nodwyd Bryn Buggiliad Coch, Bryn Bugyeilian a Bryn Bugilan ond ffurfiau gwallus yw'r rhain. Brynbugeiliaid bach a Brynbugeiliaid mawr a gofnodwyd ym 1854. Heddiw ceir dau dŷ o'r enw Bryn Bugeiliaid yn agos iawn at ei gilydd heb unrhyw ansoddair megis mawr/bach/uchaf/isaf i wahaniaethu rhyngddynt. Fodd bynnag, mae un wedi ei nodi dan Carmel a'r llall dan Llandwrog Uchaf yng Nghyfeiriadur y Cod Post. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.195.