Grafog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae annedd o'r enw '''Grafog''' i'r de o bentref Y Groeslon. Mewn rhai achosion mae ''crafog'' i'w gael fel ansoddair, ond yma enw benywaidd unigol yd...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:57, 17 Mawrth 2024
Mae annedd o'r enw Grafog i'r de o bentref Y Groeslon. Mewn rhai achosion mae crafog i'w gael fel ansoddair, ond yma enw benywaidd unigol ydyw - 'y Grafog', sef man lle mae llawer o graf neu arlleg gwyllt yn tyfu. Mae craf yn elfen weddol gyffredin mewn enwau lleoedd. Cyfeiriwyd at y Grafog ym mhlwyf Llandwrog fel Kay y Gravok ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon). Griafog a nodir ar fap Ordnans 1838 a Grafog bob tro ar ôl hynny.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.174