Gwernafalau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae annedd '''Gwernafalau''' i'r gogledd o bentref Llandwrog. Ystyr yr elfen gyntaf ''gwern'' yw tir corsiog a gwlyb lle mae coed gwern (''alder'') yn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:13, 13 Mawrth 2024

Mae annedd Gwernafalau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Ystyr yr elfen gyntaf gwern yw tir corsiog a gwlyb lle mae coed gwern (alder) yn tyfu. Fodd bynnag, coed afalau oedd yn y wern hon ac mae'n debygol mai afalau surion yn hytrach nag afalau bwyta oeddynt. Cofnodwyd Gwern y fale ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ac mewn sawl ffynhonnell arall, ac mae'r fannod y yn y rhain yn gamarweiniol iawn. Gwern afalau, fel y nodwyd yn y Rhestr Pennu Degwm ym 1842 ac ar y mapiau Ordnans o 1920 ymlaen sy'n gywir.[1]

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.180