Gallt y Pryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Nodir y fan hon fel ardal o fewn parc Glynllifon ar fapiau Ordnans 1920 a 1959, ond mae'n debygol fod tŷ o'r enw hwn ar y safle unwaith. Mae'n debyg...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 15:50, 13 Mawrth 2024
Nodir y fan hon fel ardal o fewn parc Glynllifon ar fapiau Ordnans 1920 a 1959, ond mae'n debygol fod tŷ o'r enw hwn ar y safle unwaith. Mae'n debyg mai cyfeirio at lechwedd goediog y mae'r elfen gyntaf, gallt, ond beth am y pryf? Os mai cyfeirio at drychfilod mae'r enw, byddai rhywun yn disgwyl gweld y lluosog, pryfed. Mae ystyr arall i pryf, sef anifail gwyllt cymharol fychan, megis llwynog, ysgyfarnog neu garlwm. 'Pryf llwyd' hefyd y gelwir mochyn daear gan rai yn Arfon. Cyfeirir at y fan fel Galltypru ym 1769 (Casgliad Newborough, Glynllifon) a cheir sillafiadau pur amrywiol yn asesiadau'r Dreth Dir. Gallt y Prŷf a geir ar fap Ordnans 1959.[1]
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.161-2.