Cae Pwll y Bleiddiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar dir fferm Hafod Boeth ym mhlwyf Llandwrog ceir cyfeiriad mewn dogfen o 1660 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) at gae o'r enw '''Cay y Pull...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:00, 27 Chwefror 2024

Ar dir fferm Hafod Boeth ym mhlwyf Llandwrog ceir cyfeiriad mewn dogfen o 1660 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) at gae o'r enw Cay y Pull y Bleiddie otherwise Cae Newydd y Gilwerne. Ailadroddir yr enw sawl gwaith mewn dogfennau o'r 18g. Mae'n bosib fod yr enw pwll y bleiddiau yn cyfeirio at dwll neu bydew dwfn a gloddid i ddal bleiddiaid a oedd yn rheibio anifeiliaid fferm. Rhoddid brigau ysgafn i guddio'r twll a byddai'r blaidd yn syrthio iddo a methu â dod allan. Ceir enghreifftiau o enwau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru ac yn Llydaw. Roedd bleiddiaid wedi diflannu o Gymru i bob pwrpas erbyn y 15g, os nad cyn hynny, ac felly mae cysylltiadau'r enw hwn yn bur hynafol.1

Cyfeiriadau

Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.77-8.