Cae Halen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Cae Halen Bach''' a '''Cae Halen Mawr''' yn anheddau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Cyfeirir at ''Cae Halen'' mewn dogfen ym 1764 (Casgliad L...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:53, 27 Chwefror 2024

Mae Cae Halen Bach a Cae Halen Mawr yn anheddau i'r gogledd o bentref Llandwrog. Cyfeirir at Cae Halen mewn dogfen ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), ond ym 1773 ceir y ffurf Cae Helen (Casgliad Newborough, Glynllifon), sy'n adlewyrchu'r duedd yn Arfon at ganol yr 18g i ddod ag enw Helen i mewn i enwau lleoedd oherwydd y diddordeb cynyddol yn yr hanesion am Macsen Wledig ac Elen Luyddog a'u cysylltiadau â Chaernarfon. Ni chydiodd yr enw hwn, fodd bynnag, a dychwelwyd at amrywiaethau ar Cae Halen yn asesiadau'r Dreth Dir. Mae'r enw mae'n debyg yn disgrifio natur hallt y pridd a'r tir yn yr ardal ac mae'r elfen halen yn enw gweddol gyffredin yn enwau lleoedd. 1


Cyfeiriadau

Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.67-8.