Cae Adda Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r annedd hwn ar gyrion dwyreiniol pentref Y Waunfawr. Fe'i cofnodwyd fel ''Kay atha goz'' ym 1558 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedla...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:38, 20 Chwefror 2024
Mae'r annedd hwn ar gyrion dwyreiniol pentref Y Waunfawr. Fe'i cofnodwyd fel Kay atha goz ym 1558 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19g llurguniwyd yr enw i Gadda Goch mewn sawl ffynhonnell. Ni wyddys pwy oedd Adda Goch. Roedd yr enw Adda yn weddol gyffredin yn yr Oesoedd Canol a'r ansoddair coch yn un a ychwanegir yn aml at enw personol, hyd yn oed heddiw. Symudwyd beudy Cae Adda Goch i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan a'i ail-godi yno yn 2004.1
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.56.