Plas Tan Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Plas-tan-dinas''' yn westy cefn gwlad sylweddol a safai nid nepell o fryngaer Dinas Dinlle. Cafodd ei adeiladu rywbryd cyn 1905. Adeilad deul...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:33, 19 Chwefror 2024
Roedd Plas-tan-dinas yn westy cefn gwlad sylweddol a safai nid nepell o fryngaer Dinas Dinlle. Cafodd ei adeiladu rywbryd cyn 1905. Adeilad deulawr ydoedd, gyda rendr ar y waliau. Roedd ganddo feranda ar bob ochr. Yn ystod y 1970au bu'n gyrchfan lwyddiannus ar gyfer llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ond aeth y busnes i lawr a chwalwyd yr adeilad gan y perchnogion tua diwedd y 1990au. [1]