Caer Belan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Amddiffynfa filwrol oedd '''Caer Belan''', a adeiladwyd gan yr [[Arglwydd Newborough]] yn 1775. Lleolir hi ger [[Abermenai]] ar lan y Fenai, ar bwynt ble mae’r afon ar ei leiaf – h.y. lle mae hi’n agor allan i’r mor Iwerydd.
Amddiffynfa filwrol oedd '''Caer Belan''', a adeiladwyd gan [[Arglwydd Newborough]] ym 1775. Lleolir hi ger [[Abermenai]] ar lan y Fenai, yn y fan lle mae’r afon ar ei chulaf cyn agor allan i Fae Caernarfon.  
   
   
Adeiladwyd yng nghyfnod yr ymdrech yn America am annibyniaeth, a tybir Thomas Wynn gymryd ei ddyletswydd fel aelod seneddol o ddifri drwy adeiladu caer filwrol ar ei dir i amddiffyn y fynedfa i mewn i’r Fenai. Cafodd ei ymdrech ei wobrwyo, gan yn 1776 derbyniodd ei urddolaeth a’r teitl ‘Arglwydd Newborough’. Buodd yn cadw’r amddiffynfa hwn allan o’i boced ei hyn hyd at 1782, pryd gollodd y DU yn yr ymdrech gyda America. Mae’r Gaer yn unigryw gan mai hi yw’r unig un a adeiladwyd yn uniongyrchol ar gyfer y chwyldro Americanaidd yr ochr yma i’r Atlantig.  
Fe'i hadeiladwyd yng nghyfnod y gwrthryfel am annibyniaeth yn America, a thybir i Thomas Wynn gymryd ei ddyletswydd fel aelod seneddol o ddifri drwy adeiladu caer filwrol ar ei dir i amddiffyn y fynedfa i’r Fenai. Cafodd ei ymdrech ei gwobrwyo, oherwydd ym 1776 fe'i hurddwyd â’r teitl ‘Arglwydd Newborough’. Bu'n ariannu'r amddiffynfa hon o’i boced ei hun hyd at 1782, pryd y trechwyd y Deyrnas Unedig yn yr ymdrech gydag America. Mae’r Gaer yn unigryw gan mai hi yw’r unig un a adeiladwyd yr ochr yma i'r Iwerydd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r chwyldro Americanaidd.


Gelwir hi ar un adeg yn ‘Abermenai Barracks’, ac yna fel ‘Fort St. David’ ac o tua 1840 ymlaen, Caer Belan a ddefnyddiwyd yn swyddogol. Roedd hefyd o dan ofal y ‘Loyal Newborough Volunteers’, a oedd gyda dyletswyddau tebyg iawn i fyddin breifat [[Glynllifon]].
Llosgwyd [[Plas Glynllifon]] tua 1838, ac am rai blynyddoedd bu teulu Newborough yn byw yn Belan, tra aeth y gwaith o ailadeiladu'r Plas rhagddo.


Adeiladwyd doc ar y safle o gwmpas 1824-1826, gan ddechrau traddodiad forwrol y teulu. Roedd Frederick Wynn, mab Spencer Wynn (y 3ydd Arglwydd Newborough) yn defnyddio’r lle hwn yn aml ac yn ymddiddori’n llwyr â chychod.  
Gelwid hi ar un adeg yn ‘Abermenai Barracks’, ac yna ‘Fort St. David’ ac, o tua 1840 ymlaen, Caer Belan a ddefnyddiwyd yn swyddogol. Roedd hefyd o dan ofal y ‘Loyal Newborough Volunteers’, a oedd â dyletswyddau tebyg iawn i fyddin breifat [[Glynllifon]].


Cafodd y lle hwn ei feddiannu’n orfodol gan y Llynges yn 1940 i gadw y cychod hwylio ‘St. Joan’ a ‘Whim’, a chadwyd nifer o fadau/longau achub yno hyd 1941. Erbyn heddiw mae modd aros a phriodi yn y Gaer, ac mae modd gweld yr hen ganonau a’r tyredi saethu fel yr oeddent yn y 1770au.  
Adeiladwyd doc ar y safle o gwmpas 1824-1826, gan ddechrau traddodiad morwrol y teulu. Roedd Frederick Wynn, mab Spencer Wynn (y 3ydd Arglwydd Newborough) yn defnyddio’r lle hwn yn aml ac yn ymddiddori’n llwyr mewn cychod.  
           
==Ffynonellau==


Jones, Ivor Wynne ''Fort Belan'' (1979)
Cafodd y lle ei feddiannu’n orfodol gan y Llynges ym 1940 i gadw'r cychod hwylio ‘St. Joan’ a ‘Whim’, a chadwyd nifer o fadau/llongau achub yno hyd 1941. Wedi'r rhyfel, ac ar ôl i deulu Newborough werthu [[Plas Glynllifon]], fe gadwyd Belan ganddynt fel eu cartref ar yr ystad nes iddynt ei gwerthu yn y 1990au. Erbyn heddiw mae modd aros a phriodi yn y Gaer, ac mae modd gweld yr hen ganonau a’r tyredi saethu fel yr oeddent yn y 1770au. Weithiau cynhelir cyngherddau yn adeiladau'r Gaer.<ref>Jones, Ivor Wynne ''Fort Belan'' (1979); Stammers, Michael ''A Maritime Fortress; The collections of the Wynne Family at Belan Fort'' (Caerdydd, 2001). </ref>


Stammers, Michael ''A Maritime Fortress; The collections of the Wynne Family at Belan Fort'' (Caerdydd, 2001).  
Dywed Dr Glenda Carr nad ffurf lafar 'pelen', sef 'pêl fach', a geir yma ond, yn hytrach, y gair 'pelan'>'Y Belan', sy'n golygu 'twyn, torlan afon, morglawdd'. Mae hynny'n gweddu i'r dim i'r safle hwn. Gydag amser collwyd y fannod o flaen yr enw benywaidd unigol ond cadwyd y treiglad meddal ac aeth yn 'Belan'. Ceir yr enw hwn ar le ger Llangwyfan ym Môn hefyd.<ref>Carr, Glenda ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Caernarfon, 2011), tt.21-2. </ref>
           
==Cyfeiriadau==


[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Harbyrau a glanfeydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:54, 5 Chwefror 2024

Amddiffynfa filwrol oedd Caer Belan, a adeiladwyd gan Arglwydd Newborough ym 1775. Lleolir hi ger Abermenai ar lan y Fenai, yn y fan lle mae’r afon ar ei chulaf cyn agor allan i Fae Caernarfon.

Fe'i hadeiladwyd yng nghyfnod y gwrthryfel am annibyniaeth yn America, a thybir i Thomas Wynn gymryd ei ddyletswydd fel aelod seneddol o ddifri drwy adeiladu caer filwrol ar ei dir i amddiffyn y fynedfa i’r Fenai. Cafodd ei ymdrech ei gwobrwyo, oherwydd ym 1776 fe'i hurddwyd â’r teitl ‘Arglwydd Newborough’. Bu'n ariannu'r amddiffynfa hon o’i boced ei hun hyd at 1782, pryd y trechwyd y Deyrnas Unedig yn yr ymdrech gydag America. Mae’r Gaer yn unigryw gan mai hi yw’r unig un a adeiladwyd yr ochr yma i'r Iwerydd yn uniongyrchol o ganlyniad i'r chwyldro Americanaidd.

Llosgwyd Plas Glynllifon tua 1838, ac am rai blynyddoedd bu teulu Newborough yn byw yn Belan, tra aeth y gwaith o ailadeiladu'r Plas rhagddo.

Gelwid hi ar un adeg yn ‘Abermenai Barracks’, ac yna ‘Fort St. David’ ac, o tua 1840 ymlaen, Caer Belan a ddefnyddiwyd yn swyddogol. Roedd hefyd o dan ofal y ‘Loyal Newborough Volunteers’, a oedd â dyletswyddau tebyg iawn i fyddin breifat Glynllifon.

Adeiladwyd doc ar y safle o gwmpas 1824-1826, gan ddechrau traddodiad morwrol y teulu. Roedd Frederick Wynn, mab Spencer Wynn (y 3ydd Arglwydd Newborough) yn defnyddio’r lle hwn yn aml ac yn ymddiddori’n llwyr mewn cychod.

Cafodd y lle ei feddiannu’n orfodol gan y Llynges ym 1940 i gadw'r cychod hwylio ‘St. Joan’ a ‘Whim’, a chadwyd nifer o fadau/llongau achub yno hyd 1941. Wedi'r rhyfel, ac ar ôl i deulu Newborough werthu Plas Glynllifon, fe gadwyd Belan ganddynt fel eu cartref ar yr ystad nes iddynt ei gwerthu yn y 1990au. Erbyn heddiw mae modd aros a phriodi yn y Gaer, ac mae modd gweld yr hen ganonau a’r tyredi saethu fel yr oeddent yn y 1770au. Weithiau cynhelir cyngherddau yn adeiladau'r Gaer.[1]

Dywed Dr Glenda Carr nad ffurf lafar 'pelen', sef 'pêl fach', a geir yma ond, yn hytrach, y gair 'pelan'>'Y Belan', sy'n golygu 'twyn, torlan afon, morglawdd'. Mae hynny'n gweddu i'r dim i'r safle hwn. Gydag amser collwyd y fannod o flaen yr enw benywaidd unigol ond cadwyd y treiglad meddal ac aeth yn 'Belan'. Ceir yr enw hwn ar le ger Llangwyfan ym Môn hefyd.[2]

Cyfeiriadau

  1. Jones, Ivor Wynne Fort Belan (1979); Stammers, Michael A Maritime Fortress; The collections of the Wynne Family at Belan Fort (Caerdydd, 2001).
  2. Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), tt.21-2.