Gwilym R. Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 21 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Baner ac Amserau Cymru am dros 25 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).  
Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol ''Y Faner'' am 32 mlynedd oedd '''Gwilym Richard Jones''' (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).  


Chwarelwr oedd ei dad,John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.   
Chwarelwr oedd ei dad, John William Jones, brodor o [[Rhostryfan|Rostryfan]], ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, ''Cloth Hall'', ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel Dorothea cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.   


Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r ''Genedl'',''Yr Herald Cymraeg,'' ''Y Dinesydd'', ''Y Werin'', ''Yr Eco'' a ''Phapur Pawb'' ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon.  Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.   
Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r ''Genedl'',''Yr Herald Cymraeg,'' ''Y Dinesydd'', ''Y Werin'', ''Yr Eco'' a ''Phapur Pawb'' ar strydoedd [[Tal-y-sarn]] ac wrth gatiau [[Chwarel Dorothea]], a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon.  Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.   


Dyma grynodeb o'i yrfa.
====Ei yrfa, yn fras:====


* Gohebydd i bapurau'r ''Herald'', Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
* Gohebydd i bapurau'r ''Herald'', Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
* Golygydd ''Herald M&ocirc:n'' am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
* Golygydd ''Herald Môn'' am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
* Golygydd ''Y Brython'' yn Lerpwl, 1931-1939.
* Golygydd ''Y Brython'' yn Lerpwl, 1931-1939.
* Golygydd y ''North Wales Times'' ac Is-olygydd ''Y Faner'' yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."  Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
* Golygydd y ''North Wales Times'' ac Is-olygydd ''Y Faner'' yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."<ref>Allan o ''Rhodd Enbyd, Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).</ref> Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
* Symudwyd ''Y Faner'' i Wasg y Sir, Y Bala. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.
* Ymhelaethodd ar ei gyflog ar dud. 115 o'i Hunangofiant: "...Y swm o £5 yn wythnosol a allai perchenogion ''Y Faner'' ei gynnig imi fel cyflog am fod yn olygydd y ''North Wales Times'' (Dinbych) ym 1939, a rhyw bunt yn ychwanegol oedd cyflog golygydd ''Y Faner'' ym 1945. Sut, felly, y gallodd pobl fel Mr. [[Mathonwy Hughes]], yr is-olygydd, a mi ddal ati i geisio cynhyrchu'r fath wythnosolyn yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hynny (c&acirc;i ef lai o £1.00 na mi bob wythnos)? Gorfu inni weithio'n hwyr y nos i lywio Dosbarthiadau Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol mewn ardaloedd diarffordd, teleffonio "straeon" i'r papurau Saesneg a gyrru sgriptiau i'r BBC. A daeth ein cyfaill caredig, y Prifardd Rhydwen Williams, i'r adwy......"
*  
* Ar &ocirc;l marw Morris T. Williams aeth ''Y Faner'' i afael cwmni dieithr a daliodd cyflwr economaidd ''Y Faner'' i waethygu. 
* Y diwedd fu i'r cwmni gynnig y papur am "gini" i'r Dr. Huw T. Edwards.  
* Symudwyd ''Y Faner'' i Wasg y Sir, Y Bala, a oedd yn eiddo i Idris Evans a'i ddau fab, Gwyn ac Eifion. Bu eu cefnogaeth i'r papur, a'u haberth, yn eithriadol o hynny ymlaen.
* Gwerthodd Dr. Huw T. Edwards y papur i'r Wasg hon ac i Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.
* Methiant fu cais y papur i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r unig gam ymlaen yn y diwedd fu iddynt wneud hynny ar yr amod y byddai'n peidio &acirc; bod yn newyddiadur ond yn gylchgrawn, ac felly y byddai'n rhaid penodi Golygydd newydd.  Rhaid, felly, oedd i Gwilym R. Jones ymddeol yn y flwyddyn 1977 i wneud lle i'r Golygydd newydd.


====Bardd a Llenor====
Gwilym R. Jones oedd y cyntaf i ennill y tair brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol: y Goron (1935), y Gadair (1938) a'r Fedal Ryddiaith (1941).


i'w barhau.....
Cyhoeddiadau:
5 cyfrol o gerddi:
''Caneuon'' (1953)
''Cerddi'' (1969)
''Y Syrcas a Cherddi Eraill'' (1975)
''Y Ddraig'' (1978)
''Eiliadau'' (1981)
 
Tair nofel fer:
  ''Y Purdan'' (1942)
  ''Gweddw'r Dafarn'' (1943) (Nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1942.  DS: Stori dda. Addas iawn i'w ffilmio. MER, Awst 2020)
  ''Seirff yn Eden'' (1963)
 
Dram&acirc;u:
    ''Yr Argae'' 
    ''Y Dewin'' 
    ''Y Weddw o Aberd&acirc;r'' (1938)<ref>Allan o ''Pwy yw Pwy yng Nghymru'' gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)</ref>
 
Ei Hunangofiant:  ''Rhodd Enbyd'', Llyfrau'r Faner (1983) <ref>Allan o ''Pwy yw Pwy yng Nghymru'' gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>
 
==== Gradd Anrhydedd====
Dyfarnwyd iddo Radd M.A. er anrhydedd Prifysgol Cymru (1970) <ref>Allan o ''Pwy yw Pwy yng Nghymru'' gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>
 
==== Cynghorydd ====
Bu'n Gynghorydd Tref yn Ninbych am naw mlynedd. <ref>Allan o ''Pwy yw Pwy yng Nghymru'' gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>
 
 
==Cyfeiriadau==
 
 
 
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori: Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:52, 14 Ionawr 2024

Bardd, newyddiadurwr a golygydd y cylchgrawn wythnosol Y Faner am 32 mlynedd oedd Gwilym Richard Jones (Gwilym R. Jones) (24 Mawrth 1903 – 29 Gorffennaf 1993).

Chwarelwr oedd ei dad, John William Jones, brodor o Rostryfan, ac un o Uwchmynydd oedd ei fam, Ann Jones. Cadwent siop bapurau newydd, Cloth Hall, ond y fam a fyddai'n bennaf cyfrifol amdani gan y byddai'r tad yn ei waith yn y chwarel erbyn 6 o'r gloch y bore ac yno y byddai am 12 awr. Dywedid y byddai llawer o'r chwarelwyr yn gorfod disgyn ar hyd canllath a mwy o ysgolion i waelod twll chwarel Dorothea cyn dechrau gweithio a dringo'r un ysgolion sythion ar derfyn diwrnod o waith.

Yn blant ysgol byddai Gwilym R. a'i frawd Dic yn gwerthu ugeiniau o filoedd o gopiau o'r Genedl,Yr Herald Cymraeg, Y Dinesydd, Y Werin, Yr Eco a Phapur Pawb ar strydoedd Tal-y-sarn ac wrth gatiau Chwarel Dorothea, a daeth Gwilym R. yn fuan i ddanfon newyddion lleol yr ardal i swyddfeydd y papurau newydd yng Nghaernarfon. Nid yw'n rhyfedd iddo ddod yn newyddiadurwr.

Ei yrfa, yn fras:

  • Gohebydd i bapurau'r Herald, Caernarfon (cyflog: "punt am wythnos o 60 o oriau o waith caled".)
  • Golygydd Herald Môn am ddwy flynedd, hyd at 1931. Byw ym Mhorthaethwy.
  • Golygydd Y Brython yn Lerpwl, 1931-1939.
  • Golygydd y North Wales Times ac Is-olygydd Y Faner yng Ngwasg Gee, Dinbych. Derbyniodd y gwahoddiad hwn ar sail hen gyfeillgarwch rhwng Morris T. Williams, priod Kate Roberts ac yntau. "Bychan oedd y cyflog y gallai Morris ei gynnig imi...ond roedd yna bethau pwysicach nag arian.. fy edmygedd i o fenter Morris a Kate a'u cenedlgarwch nhw..."[1] Dechreuodd yno ym mis Mawrth 1939.
  • Ymhelaethodd ar ei gyflog ar dud. 115 o'i Hunangofiant: "...Y swm o £5 yn wythnosol a allai perchenogion Y Faner ei gynnig imi fel cyflog am fod yn olygydd y North Wales Times (Dinbych) ym 1939, a rhyw bunt yn ychwanegol oedd cyflog golygydd Y Faner ym 1945. Sut, felly, y gallodd pobl fel Mr. Mathonwy Hughes, yr is-olygydd, a mi ddal ati i geisio cynhyrchu'r fath wythnosolyn yn ystod y blynyddoedd argyfyngus hynny (câi ef lai o £1.00 na mi bob wythnos)? Gorfu inni weithio'n hwyr y nos i lywio Dosbarthiadau Addysg y Gweithwyr ac Adran Allanol y Brifysgol mewn ardaloedd diarffordd, teleffonio "straeon" i'r papurau Saesneg a gyrru sgriptiau i'r BBC. A daeth ein cyfaill caredig, y Prifardd Rhydwen Williams, i'r adwy......"
  • Ar ôl marw Morris T. Williams aeth Y Faner i afael cwmni dieithr a daliodd cyflwr economaidd Y Faner i waethygu.
  • Y diwedd fu i'r cwmni gynnig y papur am "gini" i'r Dr. Huw T. Edwards.
  • Symudwyd Y Faner i Wasg y Sir, Y Bala, a oedd yn eiddo i Idris Evans a'i ddau fab, Gwyn ac Eifion. Bu eu cefnogaeth i'r papur, a'u haberth, yn eithriadol o hynny ymlaen.
  • Gwerthodd Dr. Huw T. Edwards y papur i'r Wasg hon ac i Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Parhaodd Gwilym R. i fyw yn Ninbych.
  • Methiant fu cais y papur i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r unig gam ymlaen yn y diwedd fu iddynt wneud hynny ar yr amod y byddai'n peidio â bod yn newyddiadur ond yn gylchgrawn, ac felly y byddai'n rhaid penodi Golygydd newydd. Rhaid, felly, oedd i Gwilym R. Jones ymddeol yn y flwyddyn 1977 i wneud lle i'r Golygydd newydd.

Bardd a Llenor

Gwilym R. Jones oedd y cyntaf i ennill y tair brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol: y Goron (1935), y Gadair (1938) a'r Fedal Ryddiaith (1941).

Cyhoeddiadau: 5 cyfrol o gerddi: Caneuon (1953) Cerddi (1969) Y Syrcas a Cherddi Eraill (1975) Y Ddraig (1978) Eiliadau (1981)

Tair nofel fer:

  Y Purdan (1942)
  Gweddw'r Dafarn (1943) (Nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1942.  DS: Stori dda. Addas iawn i'w ffilmio. MER, Awst 2020)
  Seirff yn Eden (1963)

Dramâu:

    Yr Argae  
    Y Dewin  
    Y Weddw o Aberdâr (1938)[2]

Ei Hunangofiant: Rhodd Enbyd, Llyfrau'r Faner (1983) <ref>Allan o Pwy yw Pwy yng Nghymru gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>

Gradd Anrhydedd

Dyfarnwyd iddo Radd M.A. er anrhydedd Prifysgol Cymru (1970) <ref>Allan o Pwy yw Pwy yng Nghymru gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>

Cynghorydd

Bu'n Gynghorydd Tref yn Ninbych am naw mlynedd. <ref>Allan o Pwy yw Pwy yng Nghymru gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)/ref>


Cyfeiriadau

  1. Allan o Rhodd Enbyd, Hunangofiant Gwilym R. Jones; Llyfrau'r Faner, (1983).
  2. Allan o Pwy yw Pwy yng Nghymru gan Thomas H Davies(Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. (1981)