John Richard Williams (Tryfanwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''John Richard Williams''', (Tryfanwy), neu (J.R. Tryfanwy) (1867-1924) yn fab i Owen a Mary Williams, dau o Lŷn; fe'i ganwyd yn Nhan y Manod, [[Rhostryfan]], 29 Medi 1867. Pan oedd yn fachgen amharwyd ar ei olwg a'i glyw, dau aflwydd a'i gwnaeth yn ddall ac yn fyddar dros weddill ei oes. Yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn y Tyddyn Difyr ar lethr [[ | Roedd '''John Richard Williams''', (Tryfanwy), neu (J.R. Tryfanwy) (1867-1924) yn fab i Owen a Mary Williams, dau o Lŷn; fe'i ganwyd yn Nhan y Manod, [[Rhostryfan]], 29 Medi 1867. Pan oedd yn fachgen amharwyd ar ei olwg a'i glyw, dau aflwydd a'i gwnaeth yn ddall ac yn fyddar dros weddill ei oes. Yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn y Tyddyn Difyr ar lethr [[Moel Tryfan]]. Collwyd y tad trwy ddamwain ymhen ychydig flynyddoedd, a daeth y fam a'r bachgen yn ôl i Dan y Manod. Yn fuan ar ôl hynny bu farw'r fam a gadael y mab yn ddi-gefn ac yn analluog i'w amddiffyn ei hun. | ||
Cymerwyd ef at fodryb a drigai ym Mhorthmadog, ac yno y bu hyd ei farw, 19 Mawrth 1924. Dangosodd yn ieuanc duedd at farddoniaeth, ac er gwaethaf ei ddallineb meistrolodd reolau barddas, a chanodd liaws mawr o bryddestau, awdlau, telynegion, englynion, etc. Cyhoeddwyd llu o'i weithiau yn ''Cymru'' (O.M.E.) yn ogystal ag mewn cylchgronau eraill. Enillodd ddeg o gadeiriau (yn eisteddfod | Cymerwyd ef at fodryb a drigai ym Mhorthmadog, ac yno y bu hyd ei farw, 19 Mawrth 1924. Dangosodd yn ieuanc duedd at farddoniaeth, ac er gwaethaf ei ddallineb meistrolodd reolau barddas, a chanodd liaws mawr o bryddestau, awdlau, telynegion, englynion, etc. Honnai mai [[Tryfanydd]], bardd gwlad rywfaint yn hŷn na fo ei hun, oedd wedi bod yn athro barddol arno.<ref>J.R. Tryfanwy, ''Tryfanydd'', (''Heddyw'', Cyf.1, rhif 9), tt.210-12</ref> Cyhoeddwyd llu o'i weithiau yn ''Cymru'' (O.M.E.) yn ogystal ag mewn cylchgronau eraill. Enillodd ddeg o gadeiriau (yn eisteddfod Yr Eifl, y Ddraig Goch, Lerpwl, Môn, Y Fflint, a mannau eraill). Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth, sef ''Lloffion yr Amddifad'', 1892, ac ''Ar Fin y Traeth'', 1910. Bu'n wrthrych gofal a charedigrwydd ei gyfaill Eifion Wyn am gyfnod maith.<ref>William Gilbert Williams, (1874 - 1966), Rhostryfan yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig''; Ysgrif goffa gan berthynas iddo.</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Darllen Pellach== | ==Darllen Pellach== | ||
Erthygl Wicipedia: ''John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)'' | Erthygl Wicipedia: ''John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)'' | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 19:35, 10 Rhagfyr 2023
Roedd John Richard Williams, (Tryfanwy), neu (J.R. Tryfanwy) (1867-1924) yn fab i Owen a Mary Williams, dau o Lŷn; fe'i ganwyd yn Nhan y Manod, Rhostryfan, 29 Medi 1867. Pan oedd yn fachgen amharwyd ar ei olwg a'i glyw, dau aflwydd a'i gwnaeth yn ddall ac yn fyddar dros weddill ei oes. Yn 1880 symudodd y teulu i fyw yn y Tyddyn Difyr ar lethr Moel Tryfan. Collwyd y tad trwy ddamwain ymhen ychydig flynyddoedd, a daeth y fam a'r bachgen yn ôl i Dan y Manod. Yn fuan ar ôl hynny bu farw'r fam a gadael y mab yn ddi-gefn ac yn analluog i'w amddiffyn ei hun.
Cymerwyd ef at fodryb a drigai ym Mhorthmadog, ac yno y bu hyd ei farw, 19 Mawrth 1924. Dangosodd yn ieuanc duedd at farddoniaeth, ac er gwaethaf ei ddallineb meistrolodd reolau barddas, a chanodd liaws mawr o bryddestau, awdlau, telynegion, englynion, etc. Honnai mai Tryfanydd, bardd gwlad rywfaint yn hŷn na fo ei hun, oedd wedi bod yn athro barddol arno.[1] Cyhoeddwyd llu o'i weithiau yn Cymru (O.M.E.) yn ogystal ag mewn cylchgronau eraill. Enillodd ddeg o gadeiriau (yn eisteddfod Yr Eifl, y Ddraig Goch, Lerpwl, Môn, Y Fflint, a mannau eraill). Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth, sef Lloffion yr Amddifad, 1892, ac Ar Fin y Traeth, 1910. Bu'n wrthrych gofal a charedigrwydd ei gyfaill Eifion Wyn am gyfnod maith.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Darllen Pellach
Erthygl Wicipedia: John Richard Williams (J.R. Tryfanwy)