George Bettiss: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''George Bettiss''' yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a [[Dyffryn Nantlle]] ar ddechrau'r 19g. Bu'n tenant ar un adeg ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.  
Roedd '''George Bettiss''' yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a [[Dyffryn Nantlle]] ar ddechrau'r 19g. Mab ydoedd i dafarnwr o'r un enw yng Nghaernarfon. O ran Dyffryn Nantlle, roedd yn bwysig yn bennaf fel ffigwr dylanwadol yn niwydiant chwarelydda'r dyffryn a'i reilffordd gynnar, ac fel asiant lleol ystad Glynllifon o tua 1813 hyd y 1830au.


Mae cyfeiriad at un "George Bettiss" fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu ''victualler'').<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125 </ref> Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6924</ref> a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (''gent.''), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o'r amser honno.<ref>e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516</ref> Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth qwesty o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.<ref>Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543</ref>
Bu'n denant rhwng o leiaf 1808 ac 1813 ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon,<ref>Chwiliad trwy fynegai i bapurau newydd Gogledd Cymru ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [https://newspapers.library.wales/search?range%5Bmin%5D=1804&range%5Bmax%5D=1839&query=%22George+Bettiss%22&page=4]</ref> un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnai coetsis ar eu teithiau. Yn y Sportsman mewn dyddiau cynt yr arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale pan oeddent yn ymweld â'r ardal.  


Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i [[Ystad Glynllifon]] a'r [[Arglwyddi Newborough]],yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.<ref> Archifdy Caernarfon, XD2/15158</ref>Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau [[Glynllifon]] yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>
Mae cyfeiriad at ryw "George Bettiss" yng Nghaernarfon fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu ''victualler'').<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125</ref> Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6924</ref> a dichon felly mai ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Bu farw ei fam yn 88 oed 25 Mai 1837.<ref>''North Wales Chronicle'', 6.6.1837</ref>Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (''gent.''), sef rhywun a oedd tipyn yn well ei stad na thafarnwr cyffredin, yn parhau o 1804 ymlaen.<ref>e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516</ref> Ceir cofnod i Mary Bettiss, plentyn George Bettiss, gael ei chladdu ym Methesda ym 1789.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Gladdu, 1789</ref>


Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, [[Chwarel Hafodlas]] o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.<ref>G.H. Williams, ''Swn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018).</ref> Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/9309/4</ref>
O fis Mehefin 1812 ymlaen, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, [[Chwarel Hafodlas]] ac o dipyn i daeth i gymryd yr awenau o ran  rheolaeth y cwmni. Mae sôn ei fod wedi creu trafferth iddo'i hun a'r chwarel trwy beidio â bod yn rhy ofalus wrth gadw cyfrifon y chwarel<ref>  Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'',(Newton Abbot, 1974), tt.76, 100, 107.</ref>. Byddai diffygion yn ei ofal am gyfrifon yn ei arwain i drafferthion gwaeth o lawer maes o law. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan agorodd ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.<ref>G.H. Williams, ''Swn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018)t.9.</ref> Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn, ac yntau'n asiant iddi, y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berchen ar 5% o'r cyfranddaliadau.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/9309/4</ref>


Bu farw cyn 1839, pan y cyfeiriwyd ato fel 'y diuweddar Mr Bettiss'.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/9932</ref>
Ym 1812, fe'i nodir fel rheolwr Neuadd y Dref yng Nghaernarfon.<ref>''North Wales Gazette'', 20.2.1812</ref> a'r flwyddyn ganlynol fe'i henwir fel un o aelodau pwyllgor [[Cymdeithas Caernarfon ar gyfer Erlyn Troseddwyr]].<ref>''North Wales Gazette'', 20.5.1813</ref> Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth Gwesty'r Uxbridge Arms o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.<ref>Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543</ref> Tra ei fod yno, ym 1821, tanysgrifiodd i arweinlyfr y Parch P.B. Williams, a ganmolodd y gwesty'n hael o fewn y cloriau!<ref>P.B. Williams, ''The Tourist's Guide through the County of Caernarvon'' (Caernarfon, 1821), rhestr danysgrifwyr</ref>Erbyn Medi 1823, fodd bynnag, roedd wedi symud i dŷ nobl yng ngwaelod Stryd y Farchnad, sef Tower House, tŷ o eiddo'r Arglwydd Newborough<ref>Archifdy Caernarfon XD2/15459</ref> sy'n sefyll hyd heddiw.


{{eginyn}}
Roedd yn ŵr priod, ac yn frawd yng nghyfraith i dwrnai amlwg o Gaernarfon, Henry Rumsey Williams, Penrhos, Caernarfon, twrnai lleol Arglwydd Newborough.<ref>''Carnarvon & Denbigh Herald'', 20.2.1836</ref> Dichon fod hyn wedi bod yn help mawr iddo sicrhau gwaith gan ystad Glynllifon.
 
Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i [[Ystad Glynllifon]] a'r [[Arglwyddi Newborough]], yn prynu nwyddau ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.<ref> Archifdy Caernarfon, XD2/15158</ref>Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau [[Glynllifon]] yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref> Erbyn 1832-3, fodd bynnag, roedd trafferthion wedi codi rhwng Bettiss a Newborough dros gywirdeb cyfrifon yr asiant, a chafodd rybudd i ymadael â Tower House fis Ionawr 1833.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/17400</ref>
 
Bu farw ym 1839.<ref>Mynegai Marwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007 (ar gael trwy Find My Past)</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 17: Llinell 21:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Asiantwyr a rheolwyr chwareli]]
[[Categori:Asiantwyr ystad]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:44, 14 Tachwedd 2023

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Mab ydoedd i dafarnwr o'r un enw yng Nghaernarfon. O ran Dyffryn Nantlle, roedd yn bwysig yn bennaf fel ffigwr dylanwadol yn niwydiant chwarelydda'r dyffryn a'i reilffordd gynnar, ac fel asiant lleol ystad Glynllifon o tua 1813 hyd y 1830au.

Bu'n denant rhwng o leiaf 1808 ac 1813 ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon,[1] un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnai coetsis ar eu teithiau. Yn y Sportsman mewn dyddiau cynt yr arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale pan oeddent yn ymweld â'r ardal.

Mae cyfeiriad at ryw "George Bettiss" yng Nghaernarfon fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu victualler).[2] Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804[3] a dichon felly mai ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Bu farw ei fam yn 88 oed 25 Mai 1837.[4]Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (gent.), sef rhywun a oedd tipyn yn well ei stad na thafarnwr cyffredin, yn parhau o 1804 ymlaen.[5] Ceir cofnod i Mary Bettiss, plentyn George Bettiss, gael ei chladdu ym Methesda ym 1789.[6]

O fis Mehefin 1812 ymlaen, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas ac o dipyn i daeth i gymryd yr awenau o ran rheolaeth y cwmni. Mae sôn ei fod wedi creu trafferth iddo'i hun a'r chwarel trwy beidio â bod yn rhy ofalus wrth gadw cyfrifon y chwarel[7]. Byddai diffygion yn ei ofal am gyfrifon yn ei arwain i drafferthion gwaeth o lawer maes o law. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan agorodd ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[8] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn, ac yntau'n asiant iddi, y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berchen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[9]

Ym 1812, fe'i nodir fel rheolwr Neuadd y Dref yng Nghaernarfon.[10] a'r flwyddyn ganlynol fe'i henwir fel un o aelodau pwyllgor Cymdeithas Caernarfon ar gyfer Erlyn Troseddwyr.[11] Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth Gwesty'r Uxbridge Arms o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.[12] Tra ei fod yno, ym 1821, tanysgrifiodd i arweinlyfr y Parch P.B. Williams, a ganmolodd y gwesty'n hael o fewn y cloriau![13]Erbyn Medi 1823, fodd bynnag, roedd wedi symud i dŷ nobl yng ngwaelod Stryd y Farchnad, sef Tower House, tŷ o eiddo'r Arglwydd Newborough[14] sy'n sefyll hyd heddiw.

Roedd yn ŵr priod, ac yn frawd yng nghyfraith i dwrnai amlwg o Gaernarfon, Henry Rumsey Williams, Penrhos, Caernarfon, twrnai lleol Arglwydd Newborough.[15] Dichon fod hyn wedi bod yn help mawr iddo sicrhau gwaith gan ystad Glynllifon.

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough, yn prynu nwyddau ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.[16]Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[17] Erbyn 1832-3, fodd bynnag, roedd trafferthion wedi codi rhwng Bettiss a Newborough dros gywirdeb cyfrifon yr asiant, a chafodd rybudd i ymadael â Tower House fis Ionawr 1833.[18]

Bu farw ym 1839.[19]

Cyfeiriadau

  1. Chwiliad trwy fynegai i bapurau newydd Gogledd Cymru ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [1]
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/6924
  4. North Wales Chronicle, 6.6.1837
  5. e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516
  6. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Gladdu, 1789
  7. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), tt.76, 100, 107.
  8. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018)t.9.
  9. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4
  10. North Wales Gazette, 20.2.1812
  11. North Wales Gazette, 20.5.1813
  12. Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543
  13. P.B. Williams, The Tourist's Guide through the County of Caernarvon (Caernarfon, 1821), rhestr danysgrifwyr
  14. Archifdy Caernarfon XD2/15459
  15. Carnarvon & Denbigh Herald, 20.2.1836
  16. Archifdy Caernarfon, XD2/15158
  17. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.
  18. Archifdy Caernarfon XD2/17400
  19. Mynegai Marwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007 (ar gael trwy Find My Past)