Ystad Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 15 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Canolfan '''Ystad Bryncir''' oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystad yn berchen ar diroedd yn ardal Pen-y-groes.Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r twr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan deulu Huddart a oedd yn byw yno.
Canolfan '''Ystad Bryncir''' oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystâd yn berchen ar diroedd yn ardal [[Pen-y-groes]]. Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r tŵr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan [[Teulu Huddart|deulu Huddart]] a oedd y perchnogion olaf i fyw yno. Bu i'r hen deulu (a ddefnyddiai'r cyfenw Brynkir) farw allan ar farwolaeth Thomas Brynkir, ym 1745. Roedd Robert Brynkir, rheithor Braunston yn Swydd Northampton, a fu farw 1691, wedi gwerthu rhan o'r ystad i William Owen o Frogyntyn a Chlenennau, a'r rhan arall i William Wynne, Y Wern (yn cynnwys y plas).<ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families'', (Horncastle, 1914) t.251.</ref> Roedd aelodau o deulu Brynkir yn dal i fyw yno wedyn, gan fod yna gofnod o James Brynkir, nai Robert, (a nai William Wynne hefyd) yno ym 1705 ac ni fu farw tan 1740.<ref>Archifdy Caernarfon, XES/5/Friars/20; </ref>


Ym 1891 fe werthwyd dranau'r ystad yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd codi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/14457</ref>
Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu yno, beth bynnag, tua ddechrau'r 19g, gan fod "Mr Huddart of Brynkir" wedi ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.<ref>Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611</ref> Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad ym 1809, ar ôl gwneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.<ref>Gwefan Festipedia, [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Captain_Joseph_Huddart], cyrchwyd 26.11.2018</ref> 
 
Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd [[Ystad Glynllifon]] ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/6773</ref>, a phrynodd [[Chwarel Dorothea]] dir cynefin defaid yng [[Cwm Silyn|Nghwm Silyn]].<ref>Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.</ref> Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol [[Pen-y-groes]], a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.<ref>Archifdy Caernarfon, XD40/26/11</ref> Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; ac aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.<ref>Jim Hewett, ''The Huddart Family'', FR Heritage Journal rhif 93 (2008). </ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:55, 8 Tachwedd 2023

Canolfan Ystad Bryncir oedd Cwm Pennant yng nghwmwd Eifionydd, ond roedd yr ystâd yn berchen ar diroedd yn ardal Pen-y-groes. Safai Plas Bryncir tua milltir i'r dwyrain o eglwys Dolbenmaen. Mae'r tŵr a welir o'r ffordd fawr yn ffoli a godwyd gan deulu Huddart a oedd y perchnogion olaf i fyw yno. Bu i'r hen deulu (a ddefnyddiai'r cyfenw Brynkir) farw allan ar farwolaeth Thomas Brynkir, ym 1745. Roedd Robert Brynkir, rheithor Braunston yn Swydd Northampton, a fu farw 1691, wedi gwerthu rhan o'r ystad i William Owen o Frogyntyn a Chlenennau, a'r rhan arall i William Wynne, Y Wern (yn cynnwys y plas).[1] Roedd aelodau o deulu Brynkir yn dal i fyw yno wedyn, gan fod yna gofnod o James Brynkir, nai Robert, (a nai William Wynne hefyd) yno ym 1705 ac ni fu farw tan 1740.[2]

Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu yno, beth bynnag, tua ddechrau'r 19g, gan fod "Mr Huddart of Brynkir" wedi ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[3] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad ym 1809, ar ôl gwneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[4]

Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[5], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[6] Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a ganiatawyd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[7] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; ac aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.[8]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families, (Horncastle, 1914) t.251.
  2. Archifdy Caernarfon, XES/5/Friars/20;
  3. Archifdy Gwynedd, X/POOLE/245, 2611
  4. Gwefan Festipedia, [1], cyrchwyd 26.11.2018
  5. Archifdy Gwynedd, XD2/6773
  6. Archifdy Caernarfon, X/Dorothea/1182.
  7. Archifdy Caernarfon, XD40/26/11
  8. Jim Hewett, The Huddart Family, FR Heritage Journal rhif 93 (2008).