Tafarn y Boar's Head: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tafarn ger pont dros Afon Llyfni oedd '''Tafarn y Boar's Head''' ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny ym mhentref Pon...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:21, 1 Tachwedd 2023
Tafarn ger pont dros Afon Llyfni oedd Tafarn y Boar's Head ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny ym mhentref Pontlyfni. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau presennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â chapel Bedyddwyr y pentref.
Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841, ac fe nodir enw'r dafarn ar olygyddiad cyntaf y map Ordnans, 1888.
Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded. Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei chwalu.