Katie Wyn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog. Dechreuodd gystadl...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm [[Cefn Hengwrt]], ger pentref [[Llandwrog]]. | Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm [[Cefn Hengwrt]], ger pentref [[Llandwrog]]. | ||
Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol | Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd iddi ddioddef cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.<ref>Gwefan North Wales Live, 23.3.2005 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/farewell-faithful-queen-scene-2915360], cyrchwyd 23.10.2023; ''Lleu'', Rhagfyr 2007</ref> Mae sawl crynoddisg ohoni'n canu ar gael. | ||
Er nad oedd | Er nad oedd wedi dilyn gyrfa fel actores, bu'n chwarae rhan y fam yn y ffilm fer ''[[A Letter from Wales]]'' a ryddhawyd ym 1953, gyda'i phlant ei hun yn chwarae rhannau rhai o'r plant yn y ffilm hefyd.<ref>Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:20, 26 Hydref 2023
Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd Katie Wyn Jones (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog.
Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd iddi ddioddef cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.[1] Mae sawl crynoddisg ohoni'n canu ar gael.
Er nad oedd wedi dilyn gyrfa fel actores, bu'n chwarae rhan y fam yn y ffilm fer A Letter from Wales a ryddhawyd ym 1953, gyda'i phlant ei hun yn chwarae rhannau rhai o'r plant yn y ffilm hefyd.[2]