Hengwm, Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
HAW (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ffermdy ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] yw '''Hengwm'''.
[[Delwedd:Hen dŷ Hengwm.jpg|bawd|400px|de|Hen dŷ Hengwm a adeiladwyd tua 1700]]
[[Delwedd:Tŷ presennol Hengwm.jpg|bawd|400px|de|Tŷ presennol Hengwm, a adeiladwyd rhwng 1820 a 1850]]
 
Ffermdy ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] yw '''Hengwm'''. Mae [[Afon Dwyfach]] yn codi yn y [[Seler Ddu]] uwchben y fferm  ac yn rhedeg trwy dir Hengwm.  

Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd [[Cwm (trefgordd)|Cwm]] a oedd yn eiddo i [[Abaty Aberconwy]]. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192. Ar ôl diddymu'r mychachlogydd aeth y faenor i ddwylo'r Goron, ac fe roddwyd y tir ar brydles i Syr John Puleston. Fel rhan o drefgordd Cwm, fodd bynnag, arhosai dyletswydd i dalu rhai dirwyon neu ffioedd yn flynyddol i ddeiliaid degwm rheithorol hen Briordy Beddgelert, a disgwyliud i denant Hengwm fynychu [[Cwrt Beddgelert]] i dalu'r degymau bob blwyddyn hyd nes i'r drefn degymu gael ei diwygio tua 1836.<ref>''Y Brython'', Tachwedd 1861, t.435</ref>

Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jones, Castellmarch. Priododd Mary, merch William Gruffydd, â Syr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oedd enw'r tenant. Rhoddwyd Hengwm ar y farchnad gan [[Ystad y Faenol]] ym 1890 ac eto ym 1907, pan werthwyd rhannau helaeth o dir y stad a oedd ar y cyrion yn Llŷn, ond ymddengys na chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948. Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au, a phlannwyd y gweirgloddiau â choed pin. Rhoddwyd y tŷ a thua 50 acer ar rent i denant, a gwerthwyd yr eiddo hwn gan y Comisiwn ar ddechrau'r 1970au.
Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jones, Castellmarch. Priododd Mary, merch William Gruffydd, â Syr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oedd enw'r tenant.
Dengys Cofnodion y Dreth Dir (1770-1830) fod nifer o denantiaid wedi bod yn ffermio yn Hengwm yn eu tro: Edward Owen (1779-71); Griffith Edward (1772-83); Griffith Owen (1784-1840); Griffith Robert (1801-02); William Williams (1803); Richard Thomas (1804-1811); Thomas Pritchard (1811-15); Ann Pritchard (1815-1822?); Catherine Pritchard (1820?-30).
 
Codwyd tŷ newydd tua adeg tenantiaeth Catrin Siôn, neu'n fuan wedyn. Mae'r adeilad yn dal i sefyll. Tŷ unllawr o ddechrau’r 18fed ganrif a addaswyd cryn dipyn ar hyd y blynyddoedd ydyw. Mae prif drawstiau’r to presennol yn hir iawn, gan ymestyn o’r naill dalcen i’r llall. Mae’r simdde fawr ar ochr chwith y talcen (o’r tu mewn), nid yn y canol.
 
Codwyd tŷ helaethach yn ystod hanner cyntaf y 19g., sef y tŷ a ddefnyddir fel annedd hyd heddiw. Ffermdy ydyw a godwyd gan Stâd y Faenol tua 1820-50. Mae’r llofft fawr a hoywal ar y chwith a’r llofft stabal a stabal ar y dde i'r drws ffrynt. Adeiladau eraill y fferm pan oedd yn weithredol fel uned ffermio sylweddol oedd: llaethdy a chwt malu (ag olwyn ddŵr); cegin foch a chartws (hen dŷ Hengwm gynt); cytiau moch; beudai a sgubor. 
 
Dengys Cofnodion y Dreth Dir (1770-1830) fod nifer o denantiaid wedi bod yn ffermio yn Hengwm yn eu tro: Edward Owen (1770-71); Griffith Edward (1772-83); Griffith Owen (1784-1795); Griffith Robert (1801-02); William Williams (1803); Richard Thomas (1804-1810); Thomas Pritchard (1811-15); Ann Pritchard (1815-1822); Catherine Pritchard (1826-30).
 
Erbyn 1800, roedd y fferm yn eiddo i deulu'r Faenol, ac mae cofnod o gyflwr y fferm y pryd hynny pan oedd Griffith Owen yn denant. Roedd ychydig dros tair acer yn cael ei ddefnyddio i dyfu ceirch, heb fawr o lewyrch, a nodwyd na fyddai fawr o bwynt mewn ceisio troi peth o'r tir pori'n dir âr. Byddai'r pori'n well o drin peth o'r dir fel llifddolydd (''watermeadows''). Roedd gweddill y tir felly yn cael ei bori. Roedd y ffermdy'n hen, roedd stabl gyda tho gwellt, llaethdy bychan a llofft i'r gweision, cwt ar gyfer cert a chwt tatws, i gyd mewn cyflwr da ac wedi eu toi â llechi. Roedd Griffith Owen hefyd wedi codi beudy o gerrig wedi ei doi gyda gwellt yng Nghae'r Bythod.<ref>R.O. Roberts, ''Farming in Caernarvonshire around 1800'', (Caernarfon, 1973), t.51</ref>
 
Erbyn 1841, fodd bynnag, roedd Humphrey Thomas a'i wraig Rachel a'u saith o blant yn byw yn Hengwm. Dengys Cyfrifiad 1851 fod Humphrey Thomas yn ŵr 44 oed a'i wraig yn 38 oed. Roedd naw o blant ar yr aelwyd erbyn hyn. Roedd Humphrey Thomas yn hen ŵr 74 oed erbyn 1881, a'r plant wedi gadael y nyth, ac eithrio Ellen, a oedd yn 28 oed. Mae'n amlwg bod un o'r plant yn byw yn Lerpwl, gan fod 'Rachel Williams, grand daughter, 10, Visitor, Scholar, Liverpool' yn aros yma. Yn ddiddorol, ym 1877, nodir bod gwr o'r enw William Thomas, Hengwm, yn asiant ar gyfer Odams' Manures<ref>''North Wales Chronicle'', 3.2.1877, t.1</ref>; roedd gan Humphrey Thomas fab o'r enw William a aned tua 1846, er ei fod wedi gadael ei gartref erbyh 1871 - dichon ei fod yn defnyddio Hengwm fel man sefydlog lle gellid cysylltu ag ef.
 
Bu farw Humphrey Thomas cyn 1891, a chyn 1887 mae'n debyg, gan fod gŵr o'r enw John Thomas oedd yn ffermio yn Hengwm y flwyddyn honno, pan gafodd gwŷs i ateb i gyhuddiad ei fod wedi talu rhent am dir pori i'r person anghywir<ref>''Carnarvon and Denbigh Herald'', 23.12.1887, t.8</ref>. Mae'n debyg mai mab Humphrey oedd hwnnw oherwydd yr oedd gan Humphrey mab o'r enw John tua'r un oed. Erbyn 1901, fodd bynnag, roedd y denantiaeth wedi newid, gyda gwr o'r enw Robert Jones, 43 oedd, yn ffermio yn Hengwm, ac erbyn 1905, William Davies.<ref>''North Wales Observer'', 8.9.1905, t.5</ref> Roedd hwnnw newydd ymsefydlu yn Hengwm, ar ôl symud o fferm sylweddol Saethon ym Mhen Llŷn; a Robert Jones wedi symud i ffermio Llwyngwanadl.<ref>''Herald Cymraeg'', 8.11.1904, t.5</ref> Erbyn 1908, roedd David Jones yn ffermio Hengwm<ref>''North Wales Observer'', 9.10.1908, t.4</ref> ond fe ymadawodd ym 1908 ac ebryn 1911, y ffermwr oedd  Owen Jones, 25 oed, a'i wraig Jennie; roeddynt yno ym 1921 hefyd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1841-1921</ref>
 
Fferm fawr o ran nifer yr aceri oedd Hengwm, rhyw 255 acer i gyd<ref>''Carnarvon and Denbigh Herald'', 25.7.1890, t.4</ref>. Roedd y fferm yn ddigon mawr a digon o waith yno i fod angen cyflogi gweision - fel arfer dros y blynyddoedd, cyflogid dau was, rhai ohonynt (mae'n debyg) yn gymeriadau digon brith. Ym 1878, gwyswyd Owen Davies, gwas yn Hengwm am beidio â thalu tuag at gynhaliaeth ei fam oedd "ar y plwyf".
 
Yn ystod ail hanner y 19g. ac am gyfnod wedyn, roedd Hengwm yn dal i berthyn i [[Ystad y Faenol]], a phan briododd George William Duff-Assheton-Smith, mab yr ystad, ym 1888 aeth John Thomas, tenant Hengwm, ynghyd â thri ffermwr arall lleol oedd yn denantiaid yr ystad, i gynnau coelcerth ar ben y Gaer ar fferm Tyddyn Mawr, a thorri'r geiriau "Priodas Mr A. Smith, 1888" ar ochr y mynydd - a chwifiwyd baneri mawr ar y bedair fferm.<ref>''North Wales Chronicle'', 28.4.1888, t.7</ref>
 
Er gwaethaf yr ymddangosiad cyhoeddus o deyrngarwch tuag at y landlord, fodd bynnag, rhoddwyd Hengwm ynghyd a'r bedair fferm arall yn y cyffiniau, Tyddyn Hir, Tyddyn Mawr ac Ysgubor Fawr, ar werth ym 1890, ond ni werthwyd Hengwm ar ôl i'r swm o £2000 amdani gael ei wrthod yn yr arwerthiant.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 13.8.1890, t.8</ref>. Erbyn 1897, roedd y rhent yn £82 y flwyddyn a cheisiwyd gwerthu'r eiddo unwaith yn rhagor gan nodi fod manganîs a mineralau eraill o dan y tir. Methwyd â'i werthu, a chesiwyd eto ym 1898, pan wrthodwyd cynnig o £2100.<ref>''Carnarvon and Denbigh Herald'', 19.8.1898, t.7</ref> Ceisiwyd eto ym 1907, ac eto gwrthodwyd y pris - dim ond £1350 y tro hyn.<ref>''Cambrian News'', 13.12.1907, t.6</ref> Ym 1916, roedd yn dal gan Ystad y Faenol ac yn cael ei osod.<ref>''Herald Cymraeg'', 30.5.1916, t.4</ref> Ymddengys o'r Cyfrifiad ym 1911 a 1921, fodd bynnag, fod yr un tenant, Owen Jones, wedi ail-sicrhau'r denantiaieth.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1911-21</ref> 
 
Pan oedd penderfyniad wedi'i wneud i werthu fferm, roedd hi'n ofynnol i roi rhybudd i'r tenant fynd oddi yno, ac ym 1905, rhoddwyd rhybudd i Willikam Davies, y tenant ar y pryd. Penderfynodd hwnnw werthu ei holl stoc ac offer, ac mae';r hysbyseb am yr arwerthiant yn rhoi darlun o ffermio yr adeg honno:
 
HENGWM, CLYNNOG.
Pellder Milldir a Haner o Station Pantglas.
Mae MR ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr William Davies i Werthu ar Auction, yn y lle uchod, DDYDD SADWRN, Medi 16eg, 1905, yr Holl STOC a ganlyn, yn cynwys 36 o Fuchod a Heffrod, rhai a lloi wrth eu traed, ereill yn agos, a’r gweddill yn gyfloion; 6 o Heffrod yn codi’n ddwyflwydd; 12 o Fustych yn codi’n ddwyflwydd; 7 o Loi; Tarw dwy-flwydd; Ceffyl 4 oed yn weithiwr da; Caseg yn codi’n 4 oed, 15.3 o uchder, hwylus yn mhob gwaith; Ceffyl codi’n 4 oed, 15.2 o uchder, gonest a hwylus; Eboles codi’n 3 oed, 15.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen codi’n 4 oed, 14 o uchder, yn arfer mewn harnes; Merlen eto, codi’n 4 oed, 13.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen 7 oed, hwylus yn mhob gwaith; 2 Ferlen hardd yn codi’n 3 oed; Merlen yn codi’n 2 flwydd; Eboles yn codi’n 2 flwydd; Ebol yn codi’n 2 flwydd; 2 Gyw sugno da; Defaid haner brid; Moch; Trol newydd gref ac ysgafn i’w thynu.
Coel fel yr hysbysir ar y pryd gyda meichiafon boddhaol.
Yr Auction i ddechreu am 12 o’r gloch.
Swyddfa’r Arwerthwr: 5, Salem Terrace, Pwllheli.<ref>''North Wales Observer'', 8.9.1905, t.5</ref>
 
Am ryw reswm ni aethpwyd ymlaen gyda'r arwerthiant, a threfnwyd dyddiad arall y flwyddyn ganlynol. Mae'n ddifyr cymharu manylion y stoc a gafodd eu hamlinellu'n fwy manwl y tro hwnnw:
 
HENGWM, CLYNNOG.
Pellder 1½  Milldir o Station Pantglas.
Mae MR ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr William Davies, yr hwn sydd yn ymadael, i Werthu ar Auction, yn y lle uchod, DYDD SADWRN, Medi 29ain, 1906, YR HOLL STOC, yn cynwys:
GWARTHEG.— 20 o Fuchod da, rhai a lloi wrth eu traed, ereill ar ddropio, a rhai yn eu proffit; 12 o Heffrod da yn codi’n ddwyflwydd; 7 o Ddynewaid, 3 banyw a 4 gwryw; 2 Darw; 12 o Loi addawol.
CEFFYLAU. — 2 Geffyl cryf 4 oed, 16 o uchder, hollol hwylus a gonest; Caseg 7 oed gyfebr o Geffyl Maesog; Caseg eto hwylus ac yn gyfebr o Geffyl Tygwyn; 3 Ceffyl da yn codi’n 3 oed, wedi arfer gweithio; Ebol Gwedd da yn codi’n ddwy-flwydd; Merlen hardd yn codi’n 4 oed, tua 14 o uchder, a’i Chyw, ac yn weithreg dda; Merlen hardd eto 8 oed, tua 14 o uchder, a’i Chyw, ac yn weithreg dda; Merlen yn codi’n 4 oed; Merlen eto yn codi’n 3 oed; 2 Ferlyn yn codi’n 2 flwydd; Cyw Gwedd a Chyw Ysgafn; Eboles Wedd yn codi’n 2 flwydd; Merlen codi’n 2 flwydd.
DEFAID.— 150 o Ddefaid Cymreig cryfion, yn cynwys Mamogiaid ac Wyn.
MOCH. — Hwch ar fin dod a Moch; 2 o Foch Stores.
OFFERYNAU.— Cribyniau o’r cynllun diweddaraf (Wood), Chwalwr Gwair eto o’r cynllun diweddaraf, Engine Dori Gwair, Erydr, Ogau, Chaff Cutter, Scrappers, yn nghyda’r holl Gelfi, y rhai sydd yn rhy luosog i'w henwi.  
Coel fel yr hysbysir ar y pryd.
Yr Auction i ddechreu am 11 o’r gloch.<ref>''North Wales Observer'', 21.9.1906, t.5</ref>
 
Roedd tenant newydd erbyn 1908, ond mae'n debyg na allodd ymdopi gyda'r fferm gan ei fod yntau wedi gwerthu ei stoc y flwyddyn honno:

Erbyn 1841, fodd bynnag, roedd Humphrey Thomas a'i wraig Rachel a'u saith o blant yn byw yn Hengwm. Dengys Cyfrifiad 1851 fod Humphrey Thomas yn ŵr 44 oed a'i wraig yn 38 oed. Roedd naw o blant ar yr aelwyd erbyn hyn. Roedd Humphrey Thomas yn hen ŵr 74 oed erbyn 1881, a'r plant wedi gadael y nyth, ac eithrio Ellen, a oedd yn 28 oed. Mae'n amlwg bod un o'r plant yn byw yn Lerpwl, gan fod 'Rachel Williams, grand daughter, 10, Visitor, Scholar, Liverpool' yn aros yma. Yn ddiddorol, ym 1877, nodir bod gwr o'r enw William Thomas, Hengwm, yn asiant ar gyfer Odams' Manures; roedd gan Humphrey Thomas fab o'r enw William a aned tua 1846, er ei fod wedi gadael ei gartref erbyh 1871 - dichon ei fod yn defnyddio Hengwm fel man sefydlog lle gellid cysylltu ag ef.
HENGWM, CLYNNOG,
Milldir o Station Penygroes.
Y mae MR HENRY ROBERTS wedi ei gyfarwyddo gan Mr David Jones, am ei fod yn ymadael, i Werthu ar Auction, DDYDD SADWRN, Hydref 17eg, 1908, yr HOLL STOC, sef.—
Gwartheg.— 15 o Fuchod ieuainc (a Tharw), rhai a lloi wrth eu traed, ereill yn ymyl, a’r gweddill at y gwanwyn; Buwch dew dda iawn; 8 o Fustych ieuainc tlysion; 7 o Heffrod; 7 o Ddynewid beinw a  Dynewad Tarw; 12 o Loi cryfion ac addawol.
Ceffylau.— Caseg Wedd ddymunol iawn, 8 oed, a Chyw o “Cleaver,” wedi cael ceffyl, gweithreg hwylus; Caseg eto, 8 oed, a Chyw o’r un ceffyl, ac wedi cael ceffyl eleni, yn gweithio yn hwylus; Caseg eto, gampus, yn codi yn 5 oed, 16 o uchder, ac yn gweithio yn hwylus yn mhob ger, ac wedi cael ceffyl; Merlyn, yn codi yn 5, 14.3, hwylus mewn harnis neu gyfrwy; Eboles ddymunol iawn, yn mynd yn 3, yn gweithio yn hwylus; Ebol blwydd a haner; Merlyn yn codi yn 4, heb ei ddal; Ebol blwydd a haner.
Moch.— 8 o Lafnau gweddgar; Hesbin-hwch yn haner torog; Hwch eto bron yn dew.
Defaid.— Mamogiaid, Wyn, a Llydnod.
A’r Offerynau.
I ddechreu am 12 o’r gloch.
Coel arferol.<ref>''North Wales Observer'', 9.10.1908, t.4</ref>

Bu farw Humphrey Thomas cyn 1891, mae'n debyg,m gan fod gwr o'r enw John Thomas oedd yn ffermio yn Hengwm y flwyddyn honno. Mae'n debyg mai mab Humphrey oedd hwnnw gan yr oeddd gan Humphrey mab o'r enw John tua'r un oed. Erbyn 1901, fodd bynnag, roedd y denantiaeth wedi newid, gyda gwr o'r enw Robert Jones, 43 oedd, yn ffermio yn Hengwm. Erbyn 1911, y ffermwr oedd  Owen Jones, 25 oed, a'i wraig Jennie; roeddynt yno ym 1921 hefyd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1841-1921</ref>
Ymddengys na chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948. Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au, a phlannwyd y gweirgloddiau â choed pin. Rhoddwyd y tŷ a thua 50 acer ar rent i denant, a gwerthwyd yr eiddo hwn gan y Comisiwn ar ddechrau'r 1970au.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:00, 20 Hydref 2023

Hen dŷ Hengwm a adeiladwyd tua 1700
Tŷ presennol Hengwm, a adeiladwyd rhwng 1820 a 1850

Ffermdy ym mhlwyf Clynnog Fawr yw Hengwm. Mae Afon Dwyfach yn codi yn y Seler Ddu uwchben y fferm ac yn rhedeg trwy dir Hengwm.

Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd Cwm a oedd yn eiddo i Abaty Aberconwy. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192. Ar ôl diddymu'r mychachlogydd aeth y faenor i ddwylo'r Goron, ac fe roddwyd y tir ar brydles i Syr John Puleston. Fel rhan o drefgordd Cwm, fodd bynnag, arhosai dyletswydd i dalu rhai dirwyon neu ffioedd yn flynyddol i ddeiliaid degwm rheithorol hen Briordy Beddgelert, a disgwyliud i denant Hengwm fynychu Cwrt Beddgelert i dalu'r degymau bob blwyddyn hyd nes i'r drefn degymu gael ei diwygio tua 1836.[1]

Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jones, Castellmarch. Priododd Mary, merch William Gruffydd, â Syr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oedd enw'r tenant.

Codwyd tŷ newydd tua adeg tenantiaeth Catrin Siôn, neu'n fuan wedyn. Mae'r adeilad yn dal i sefyll. Tŷ unllawr o ddechrau’r 18fed ganrif a addaswyd cryn dipyn ar hyd y blynyddoedd ydyw. Mae prif drawstiau’r to presennol yn hir iawn, gan ymestyn o’r naill dalcen i’r llall. Mae’r simdde fawr ar ochr chwith y talcen (o’r tu mewn), nid yn y canol.

Codwyd tŷ helaethach yn ystod hanner cyntaf y 19g., sef y tŷ a ddefnyddir fel annedd hyd heddiw. Ffermdy ydyw a godwyd gan Stâd y Faenol tua 1820-50. Mae’r llofft fawr a hoywal ar y chwith a’r llofft stabal a stabal ar y dde i'r drws ffrynt. Adeiladau eraill y fferm pan oedd yn weithredol fel uned ffermio sylweddol oedd: llaethdy a chwt malu (ag olwyn ddŵr); cegin foch a chartws (hen dŷ Hengwm gynt); cytiau moch; beudai a sgubor.

Dengys Cofnodion y Dreth Dir (1770-1830) fod nifer o denantiaid wedi bod yn ffermio yn Hengwm yn eu tro: Edward Owen (1770-71); Griffith Edward (1772-83); Griffith Owen (1784-1795); Griffith Robert (1801-02); William Williams (1803); Richard Thomas (1804-1810); Thomas Pritchard (1811-15); Ann Pritchard (1815-1822); Catherine Pritchard (1826-30).

Erbyn 1800, roedd y fferm yn eiddo i deulu'r Faenol, ac mae cofnod o gyflwr y fferm y pryd hynny pan oedd Griffith Owen yn denant. Roedd ychydig dros tair acer yn cael ei ddefnyddio i dyfu ceirch, heb fawr o lewyrch, a nodwyd na fyddai fawr o bwynt mewn ceisio troi peth o'r tir pori'n dir âr. Byddai'r pori'n well o drin peth o'r dir fel llifddolydd (watermeadows). Roedd gweddill y tir felly yn cael ei bori. Roedd y ffermdy'n hen, roedd stabl gyda tho gwellt, llaethdy bychan a llofft i'r gweision, cwt ar gyfer cert a chwt tatws, i gyd mewn cyflwr da ac wedi eu toi â llechi. Roedd Griffith Owen hefyd wedi codi beudy o gerrig wedi ei doi gyda gwellt yng Nghae'r Bythod.[2]

Erbyn 1841, fodd bynnag, roedd Humphrey Thomas a'i wraig Rachel a'u saith o blant yn byw yn Hengwm. Dengys Cyfrifiad 1851 fod Humphrey Thomas yn ŵr 44 oed a'i wraig yn 38 oed. Roedd naw o blant ar yr aelwyd erbyn hyn. Roedd Humphrey Thomas yn hen ŵr 74 oed erbyn 1881, a'r plant wedi gadael y nyth, ac eithrio Ellen, a oedd yn 28 oed. Mae'n amlwg bod un o'r plant yn byw yn Lerpwl, gan fod 'Rachel Williams, grand daughter, 10, Visitor, Scholar, Liverpool' yn aros yma. Yn ddiddorol, ym 1877, nodir bod gwr o'r enw William Thomas, Hengwm, yn asiant ar gyfer Odams' Manures[3]; roedd gan Humphrey Thomas fab o'r enw William a aned tua 1846, er ei fod wedi gadael ei gartref erbyh 1871 - dichon ei fod yn defnyddio Hengwm fel man sefydlog lle gellid cysylltu ag ef.

Bu farw Humphrey Thomas cyn 1891, a chyn 1887 mae'n debyg, gan fod gŵr o'r enw John Thomas oedd yn ffermio yn Hengwm y flwyddyn honno, pan gafodd gwŷs i ateb i gyhuddiad ei fod wedi talu rhent am dir pori i'r person anghywir[4]. Mae'n debyg mai mab Humphrey oedd hwnnw oherwydd yr oedd gan Humphrey mab o'r enw John tua'r un oed. Erbyn 1901, fodd bynnag, roedd y denantiaeth wedi newid, gyda gwr o'r enw Robert Jones, 43 oedd, yn ffermio yn Hengwm, ac erbyn 1905, William Davies.[5] Roedd hwnnw newydd ymsefydlu yn Hengwm, ar ôl symud o fferm sylweddol Saethon ym Mhen Llŷn; a Robert Jones wedi symud i ffermio Llwyngwanadl.[6] Erbyn 1908, roedd David Jones yn ffermio Hengwm[7] ond fe ymadawodd ym 1908 ac ebryn 1911, y ffermwr oedd Owen Jones, 25 oed, a'i wraig Jennie; roeddynt yno ym 1921 hefyd.[8]

Fferm fawr o ran nifer yr aceri oedd Hengwm, rhyw 255 acer i gyd[9]. Roedd y fferm yn ddigon mawr a digon o waith yno i fod angen cyflogi gweision - fel arfer dros y blynyddoedd, cyflogid dau was, rhai ohonynt (mae'n debyg) yn gymeriadau digon brith. Ym 1878, gwyswyd Owen Davies, gwas yn Hengwm am beidio â thalu tuag at gynhaliaeth ei fam oedd "ar y plwyf".

Yn ystod ail hanner y 19g. ac am gyfnod wedyn, roedd Hengwm yn dal i berthyn i Ystad y Faenol, a phan briododd George William Duff-Assheton-Smith, mab yr ystad, ym 1888 aeth John Thomas, tenant Hengwm, ynghyd â thri ffermwr arall lleol oedd yn denantiaid yr ystad, i gynnau coelcerth ar ben y Gaer ar fferm Tyddyn Mawr, a thorri'r geiriau "Priodas Mr A. Smith, 1888" ar ochr y mynydd - a chwifiwyd baneri mawr ar y bedair fferm.[10]

Er gwaethaf yr ymddangosiad cyhoeddus o deyrngarwch tuag at y landlord, fodd bynnag, rhoddwyd Hengwm ynghyd a'r bedair fferm arall yn y cyffiniau, Tyddyn Hir, Tyddyn Mawr ac Ysgubor Fawr, ar werth ym 1890, ond ni werthwyd Hengwm ar ôl i'r swm o £2000 amdani gael ei wrthod yn yr arwerthiant.[11]. Erbyn 1897, roedd y rhent yn £82 y flwyddyn a cheisiwyd gwerthu'r eiddo unwaith yn rhagor gan nodi fod manganîs a mineralau eraill o dan y tir. Methwyd â'i werthu, a chesiwyd eto ym 1898, pan wrthodwyd cynnig o £2100.[12] Ceisiwyd eto ym 1907, ac eto gwrthodwyd y pris - dim ond £1350 y tro hyn.[13] Ym 1916, roedd yn dal gan Ystad y Faenol ac yn cael ei osod.[14] Ymddengys o'r Cyfrifiad ym 1911 a 1921, fodd bynnag, fod yr un tenant, Owen Jones, wedi ail-sicrhau'r denantiaieth.[15]

Pan oedd penderfyniad wedi'i wneud i werthu fferm, roedd hi'n ofynnol i roi rhybudd i'r tenant fynd oddi yno, ac ym 1905, rhoddwyd rhybudd i Willikam Davies, y tenant ar y pryd. Penderfynodd hwnnw werthu ei holl stoc ac offer, ac mae';r hysbyseb am yr arwerthiant yn rhoi darlun o ffermio yr adeg honno:

HENGWM, CLYNNOG.
Pellder Milldir a Haner o Station Pantglas.

Mae MR ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr William Davies i Werthu ar Auction, yn y lle uchod, DDYDD SADWRN, Medi 16eg, 1905, yr Holl STOC a ganlyn, yn cynwys 36 o Fuchod a Heffrod, rhai a lloi wrth eu traed, ereill yn agos, a’r gweddill yn gyfloion; 6 o Heffrod yn codi’n ddwyflwydd; 12 o Fustych yn codi’n ddwyflwydd; 7 o Loi; Tarw dwy-flwydd; Ceffyl 4 oed yn weithiwr da; Caseg yn codi’n 4 oed, 15.3 o uchder, hwylus yn mhob gwaith; Ceffyl codi’n 4 oed, 15.2 o uchder, gonest a hwylus; Eboles codi’n 3 oed, 15.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen codi’n 4 oed, 14 o uchder, yn arfer mewn harnes; Merlen eto, codi’n 4 oed, 13.2 o uchder, wedi arfer gweithio; Merlen 7 oed, hwylus yn mhob gwaith; 2 Ferlen hardd yn codi’n 3 oed; Merlen yn codi’n 2 flwydd; Eboles yn codi’n 2 flwydd; Ebol yn codi’n 2 flwydd; 2 Gyw sugno da; Defaid haner brid; Moch; Trol newydd gref ac ysgafn i’w thynu.
Coel fel yr hysbysir ar y pryd gyda meichiafon boddhaol.
Yr Auction i ddechreu am 12 o’r gloch.
Swyddfa’r Arwerthwr: 5, Salem Terrace, Pwllheli.[16]

Am ryw reswm ni aethpwyd ymlaen gyda'r arwerthiant, a threfnwyd dyddiad arall y flwyddyn ganlynol. Mae'n ddifyr cymharu manylion y stoc a gafodd eu hamlinellu'n fwy manwl y tro hwnnw:

HENGWM, CLYNNOG. 
Pellder 1½  Milldir o Station Pantglas.
Mae MR ROBERT PARRY wedi ei gyfarwyddo gan Mr William Davies, yr hwn sydd yn ymadael, i Werthu ar Auction, yn y lle uchod, DYDD SADWRN, Medi 29ain, 1906, YR HOLL STOC, yn cynwys: 
GWARTHEG.— 20 o Fuchod da, rhai a lloi wrth eu traed, ereill ar ddropio, a rhai yn eu proffit; 12 o Heffrod da yn codi’n ddwyflwydd; 7 o Ddynewaid, 3 banyw a 4 gwryw; 2 Darw; 12 o Loi addawol. 
CEFFYLAU. — 2 Geffyl cryf 4 oed, 16 o uchder, hollol hwylus a gonest; Caseg 7 oed gyfebr o Geffyl Maesog; Caseg eto hwylus ac yn gyfebr o Geffyl Tygwyn; 3 Ceffyl da yn codi’n 3 oed, wedi arfer gweithio; Ebol Gwedd da yn codi’n ddwy-flwydd; Merlen hardd yn codi’n 4 oed, tua 14 o uchder, a’i Chyw, ac yn weithreg dda; Merlen hardd eto 8 oed, tua 14 o uchder, a’i Chyw, ac yn weithreg dda; Merlen yn codi’n 4 oed; Merlen eto yn codi’n 3 oed; 2 Ferlyn yn codi’n 2 flwydd; Cyw Gwedd a Chyw Ysgafn; Eboles Wedd yn codi’n 2 flwydd; Merlen codi’n 2 flwydd. 
DEFAID.— 150 o Ddefaid Cymreig cryfion, yn cynwys Mamogiaid ac Wyn. 
MOCH. — Hwch ar fin dod a Moch; 2 o Foch Stores. 
OFFERYNAU.— Cribyniau o’r cynllun diweddaraf (Wood), Chwalwr Gwair eto o’r cynllun diweddaraf, Engine Dori Gwair, Erydr, Ogau, Chaff Cutter, Scrappers, yn nghyda’r holl Gelfi, y rhai sydd yn rhy luosog i'w henwi. 
Coel fel yr hysbysir ar y pryd. 
Yr Auction i ddechreu am 11 o’r gloch.[17]

Roedd tenant newydd erbyn 1908, ond mae'n debyg na allodd ymdopi gyda'r fferm gan ei fod yntau wedi gwerthu ei stoc y flwyddyn honno:

HENGWM, CLYNNOG,
Milldir o Station Penygroes.
Y mae MR HENRY ROBERTS wedi ei gyfarwyddo gan Mr David Jones, am ei fod yn ymadael, i Werthu ar Auction, DDYDD SADWRN, Hydref 17eg, 1908, yr HOLL STOC, sef.— 
Gwartheg.— 15 o Fuchod ieuainc (a Tharw), rhai a lloi wrth eu traed, ereill yn ymyl, a’r gweddill at y gwanwyn; Buwch dew dda iawn; 8 o Fustych ieuainc tlysion; 7 o Heffrod; 7 o Ddynewid beinw a  Dynewad Tarw; 12 o Loi cryfion ac addawol. 
Ceffylau.— Caseg Wedd ddymunol iawn, 8 oed, a Chyw o “Cleaver,” wedi cael ceffyl, gweithreg hwylus; Caseg eto, 8 oed, a Chyw o’r un ceffyl, ac wedi cael ceffyl eleni, yn gweithio yn hwylus; Caseg eto, gampus, yn codi yn 5 oed, 16 o uchder, ac yn gweithio yn hwylus yn mhob ger, ac wedi cael ceffyl; Merlyn, yn codi yn 5, 14.3, hwylus mewn harnis neu gyfrwy; Eboles ddymunol iawn, yn mynd yn 3, yn gweithio yn hwylus; Ebol blwydd a haner; Merlyn yn codi yn 4, heb ei ddal; Ebol blwydd a haner. 
Moch.— 8 o Lafnau gweddgar; Hesbin-hwch yn haner torog; Hwch eto bron yn dew. 
Defaid.— Mamogiaid, Wyn, a Llydnod. 
A’r Offerynau. 
I ddechreu am 12 o’r gloch. 
Coel arferol.[18]

Ymddengys na chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948. Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au, a phlannwyd y gweirgloddiau â choed pin. Rhoddwyd y tŷ a thua 50 acer ar rent i denant, a gwerthwyd yr eiddo hwn gan y Comisiwn ar ddechrau'r 1970au.

Cyfeiriadau

  1. Y Brython, Tachwedd 1861, t.435
  2. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), t.51
  3. North Wales Chronicle, 3.2.1877, t.1
  4. Carnarvon and Denbigh Herald, 23.12.1887, t.8
  5. North Wales Observer, 8.9.1905, t.5
  6. Herald Cymraeg, 8.11.1904, t.5
  7. North Wales Observer, 9.10.1908, t.4
  8. Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1841-1921
  9. Carnarvon and Denbigh Herald, 25.7.1890, t.4
  10. North Wales Chronicle, 28.4.1888, t.7
  11. Y Genedl Gymreig, 13.8.1890, t.8
  12. Carnarvon and Denbigh Herald, 19.8.1898, t.7
  13. Cambrian News, 13.12.1907, t.6
  14. Herald Cymraeg, 30.5.1916, t.4
  15. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1911-21
  16. North Wales Observer, 8.9.1905, t.5
  17. North Wales Observer, 21.9.1906, t.5
  18. North Wales Observer, 9.10.1908, t.4